Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Ymlaen: Interniaeth y Senedd ar gyfer graddedigion o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Cyhoeddwyd 30/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Math: Interniaeth

Lleoliad:  Caerdydd

Ymgeisiwch erbyn: 4 Tachwedd 2024

Amdanom ni

Mae Comisiwn y Senedd wedi partneru gyda Chymrodoriaeth Windsor i gynnig interniaeth hyfforddi â thâl, 12 mis i bedwar graddedig o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Gallwch ddewis ymgeisio am leoliadau mewn gwahanol feysydd o fewn y sefydliad. 

Mae hyfforddiant yng Nghomisiwn y Senedd yn golygu y byddwch wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru, gan ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ar y ffordd orau o lywio gweithle prysur a chyffrous lle mae deddfau Cymru yn cael eu llunio.

Yn ystod yr interniaeth, ni fyddwch yn cael eich cyflogi gennym ni ac nid oes sicrwydd o gynnig rôl barhaol ichi ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis. Fodd bynnag, y nod yw eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau, y profiad a'r gallu sy'n ofynnol ar gyfer rôl gyflogedig o fewn Comisiwn y Senedd neu rywle arall.

Mae'n gyfle gwych sydd wedi'i gynllunio i roi'r ddealltwriaeth a'r gallu ichi ddatblygu o fewn sefydliad amrywiol a chynhwysol.

Barod i ymgeisio?

I ddysgu mwy am y cyfle hwn ac i ymgeisio, ewch i wefan Cymrodoriaeth Windsor.

Sut i ymgeisio