Desg Mynedfa y Senedd

Desg Mynedfa y Senedd

Ieithoedd Swyddogol

Cyhoeddwyd 01/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yn y Senedd ac mae Comisiwn y Senedd yn rhoi arweiniad cryf ac uchelgeisiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi’r hyn y mae’r Senedd yn ei ddarparu’n ddwyieithog a’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw.

Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Senedd ar 28 Medi 2022.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol blaenorol

Y Bumed Senedd

Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pumed Cynulliad ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cynulliad ar 12 Gorffennaf 2017.

Yn ogystal â nodi'r safonau gwasanaethau yr ydym eisoes yn eu darparu, mae'r Cynllun yn amlinellu pum thema y byddwn yn canolbwyntio arnynt, sef:

  • recriwtio;
  • sgiliau iaith;
  • cynllunio ieithyddol;
  • trafodion y Senedd;
  • datblygu ethos dwyieithog y sefydliad.

Adroddiadau blynyddol

Caiff adroddiad ei lunio bob blwyddyn sy’n nodi’r ffordd y mae’r Senedd yn cyflawni ei ddyheadau ar gyfer y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Mae hefyd yn adrodd ar unrhyw enghreifftiau o dorri’r Cynllun. Caiff yr adroddiad ei gyflwyno gerbron y Senedd ac mae'n destun dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Y Bumed Senedd

Y Pedwerydd Cynulliad

Cafodd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad ei fabwysiadu’n ffurfiol gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2013 ac mae’n seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad (pdf: 1.45MB)

Adroddiadau Blynyddol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad

Dyma'r adroddiadau blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.

Y Strategaeth Sgiliau Dwyieithog

Ym mis Ebrill 2015, cyhoeddwyd ein Strategaeth Sgiliau Dwyieithog. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r hyn y bydd y Comisiwn yn ei wneud i ddarparu cefnogaeth seneddol o’r radd flaenaf yn y ddwy iaith swyddogol. Mae’n nodi pedwar maes gweithredu: codi ymwybyddiaeth; lefel y sgiliau cyfredol; sgiliau iaith ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog; a dysgu Cymraeg neu wella sgiliau Cymraeg.

 

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiwn y Senedd a Chomisiynydd y Gymraeg