Gall ymgysylltu â’r Senedd fel ymchwilydd arwain at nifer o fuddion, gan gynnwys:
- rhoi gwybodaeth i Aelod o’r Senedd a chefnogi ei waith seneddol;
- llunio a llywio’r agenda bolisi;
- cynyddu proffil eich gwaith ymchwil a sicrhau bod mwy o bobl yn ei weld;
- cael persbectif newydd ar eich gwaith ymchwil;
- tyfu eich rhwydwaith proffesiynol; a
- dysgu rhagor am wneud polisi a deddfau.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y gall cyfnewid gwybodaeth rhwng prifysgolion a phedair deddfwrfa’r Deyrnas Unedig hyrwyddo strategaethau a gweithgarwch o ran cyfnewid gwybodaeth ar gyfer prifysgolion ac ymchwilwyr ar gael yn ein papur briffio ar y cyd, Knowledge Exchange and Legislatures.