Mae'r papur briffio hwn yn trafod rheoleiddio bridio a gwerthu cŵn yn y DU. Mae'n canolbwyntio ar reoliadau yng Nghymru i ddiogelu lles anifeiliaid mewn sefydliadau bridio cŵn. Mae hefyd yn ystyried ymgyrch 'cyfraith Lucy' i wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd parti. Mae'n disgrifio’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd, yn ogystal â'r darlun ledled y DU. Cyhoeddir y papur briffio hwn yn dilyn ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth newydd ar y materion hyn.
Darllenwch y briff yma: Bridio a gwerthu cŵn (PDF, 15380KB)
Erthygl gan Emily Tilby a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Emily Tilby gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Papur Briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil