Unigolyn yn rhoi darn o bapur mewn blwch pleidleisio.

Unigolyn yn rhoi darn o bapur mewn blwch pleidleisio.

Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu: Sut bleidleisiodd Cymru?

Cyhoeddwyd 09/05/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 2 Mai 2024, cafodd pleidleiswyr yng Nghymru gyfle i ddewis eu pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Roedd ein herthygl yn edrych ar rôl y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ym maes plismona yng Nghymru.

Roedd yr etholiadau yn nodi’r tro cyntaf yng Nghymru y byddai angen i bleidleiswyr ddod â dull adnabod â llun i orsafoedd pleidleisio. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf i'r system bleidleisio cyntaf i'r felin gael ei defnyddio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, gan ddisodli'r system Bleidlais Atodol.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar ganlyniadau etholiad 2024 ac yn dadansoddi lefel y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu dros y blynyddoedd.

Pwy a etholwyd?

Ffigur 1: Cyfran y bleidlais yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2024

Graff yn dangos sut y gwnaeth pob un o’r pedair plaid (Llafur, Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol) ym mhob ardal heddlu yng Nghymru. Mae’n dangos yr enillodd Plaid Cymru yn Nyfed Powys, a Llafur yn ennill yn y tair ardal heddlu arall. Mae hefyd yn dangos bod y Ceidwadwyr wedi dod yn ail ym mhob un o’r pedair ardal heddlu, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bedwerydd..

 

Ffynhonnell: Newyddion y BBC

Daliodd Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru afael ar ei swydd yn Nyfed Powys, ac Andy Dunbobbin o'r Blaid Lafur yn yr un modd yng Ngogledd Cymru.

Daliodd Llafur ei seddi yng Ngwent a De Cymru hefyd, ond gydag ymgeiswyr newydd, gan fod deiliaid y swyddi blaenorol wedi rhoi'r gorau i’w swyddi. Yn arwyddocaol, gydag ethol Jane Mudd (Gwent) ac Emma Wools (De Cymru), cafodd Cymru ei Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu benywaidd cyntaf. Mae Emma Wools hefyd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyntaf sy’n fenyw ddu i'w hethol yn y DU.

O edrych ar fap o ardaloedd heddlu yng Nghymru, does dim byd wedi newid o ran cynrychiolaeth pleidiau; mae’r dosbarthiad seddi yn aros yr un fath ag yr oedd yn 2021:

Ffigur 2: Ardaloedd heddlu a chynrychiolaeth y pleidiau

Map sy’n dangos pedair ardal heddlu Cymru. Mae Dyfed Powys wedi'i lliwio'n wyrdd, tra bod y tair ardal arall wedi'u lliwio'n goch.

 

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd

Beth oedd y niferoedd a bleidleisiodd?

Roedd nifer y rhai a bleidleisiodd o dan chwyddwydr y cyfryngau, o ystyried y lefelau hanesyddol isel o ymgysylltu mewn etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu blaenorol a chyflwyno’r gofyn am ddull adnabod â llun pleidleiswyr yng Nghymru.

Ffigur 3: Nifer y pleidleiswyr yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, 2012-2024

Graff yn dangos nifer y bobl a bleidleisiodd fesul ardal heddlu ar gyfer pob etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu: 2012, 2016, 2021 a 2024. Roedd y ganran a bleidleisiodd yn etholiad 2016 ac etholiad 2021 yn llawer uwch (dros 45 y cant ar gyfartaledd ar y ddau achlysur) gan fod yr etholiadau hyn yn cyd-daro ag etholiadau’r Senedd. Roedd y ganran a bleidleisiodd yn etholiadau 2012 a 2024 yn debyg, gyda chyfartaledd o 15.4 y cant ac 17 y cant yn y drefn honno..

 

Ffynonellau: Y Comisiwn Etholiadol, Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, Newyddion y BBC.

Daw'r wybodaeth am nifer y rhai a bleidleisiodd yn etholiadau 2024 o adroddiadau cychwynnol gan y BBC. Caiff y wybodaeth ei diweddaru wrth i ganlyniadau swyddogol gael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Etholiadol. Gall y fethodoleg ar gyfer cyfrif y nifer a bleidleisiodd yn 2024 felly fod yn wahanol i ffynonellau’r adroddiadau cychwynnol hyn.

Mae’r adroddiadau cychwynnol hyn o’r cyfryngau yn awgrymu bod y ganran a bleidleisiodd ar gyfer 2024 yn gymaradwy, ac yn wir ychydig yn uwch, na’r lefelau a gyrhaeddwyd yn 2012. Adroddir bod y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru yn gyffredinol yn 17 y cant ar gyfer yr etholiadau diweddar, o gymharu â 15.4 y cant yn 2012. Dywedir mai Gwent sydd â'r lefel isaf o bleidleisio, a bod y lefelau pleidleisio uchaf yn Nyfed Powys. Dyma'r patrwm ar gyfer pob etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hyd yma.

Mae’r adroddiadau cychwynnol yn awgrymu, mewn rhai ardaloedd, y cafodd nifer sylweddol o bleidleisiau eu bwrw drwy bleidlais bost. Nid yw'n glir eto a gafodd cyflwyno dull adnabod pleidleiswyr unrhyw effaith.

Wrth edrych yn ôl ar flynyddoedd blaenorol, mae'r data ar nifer y bobl a bleidleisiodd yn 2012 (gweler hefyd) a 2016 yn dod gan y Comisiwn Etholiadol. Daw’r canran yng Nghymru a bleidleisiodd yn 2021 hefyd o ddata'r Comisiwn Etholiadol, fodd bynnag, mae nifer y rhai a bleidleisiodd ar gyfer ardaloedd heddlu unigol yn 2021 yn seiliedig ar Ddata Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

Roedd etholiad 2016 ac etholiad 2021 yn cyd-daro ag etholiadau i’r Senedd, felly roedd nifer y rhai a bleidleisiodd yn sylweddol uwch nag yn 2012 neu 2024.

Mae’r etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu nesaf i gael eu cynnal yn 2028.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru