Ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref 2023, mae Israel a Gaza wedi cael eu trafod yn rheolaidd yn y Senedd.
Cymeradwyodd y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, “saib dyngarol” ar 30 Hydref 2023. Bryd hynny, nid oedd hyn yn mynd mor bell â Datganiad o Farn y Senedd, a lofnodwyd gan 28 o Aelodau, a oedd yn galw am saib a chadoediad.
Ar 8 Tachwedd, cymeradwyodd y Senedd gadoediad mewn pleidlais 24-19, un o'r seneddau cyntaf yn y byd i wneud hynny.
Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi cefnogaeth i gadoediad, a chadarnhaodd y Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething AS, mai dyma ei farn o hyd ar 23 Ebrill 2024.
Mae'r dewis o dermau'n bwysig gan fod opsiynau lluosog o ran cyflwyno seibiau mewn gwrthdaro rhyngwladol, neu ddod â'r gwrthdaro hwnnw i ben. Mae “cadoediad”, “dod â’r rhyfela i ben”, “saib dyngarol” a “diwrnodau o lonyddwch” yn arwain at ganlyniadau gwahanol, fel yr esbonnir yng ngeirfa'r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r erthygl hon yn cyflwyno amserlen o’r hyn sydd wedi digwydd yn y Senedd ers 7 Hydref. Mae'n dod â datblygiadau ynghyd mewn un lle ac fe'i bwriedir fel adnodd cyfeirio.
Bydd y llinell amser yn cael ei diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu datblygiadau newydd yn y Senedd.
9 Hydref: Pylu goleuadau'r Senedd
Y Llywydd yn gofyn am i oleuadau'r Senedd gael eu pylu:
to reflect the sentiment that such attacks represent another dark moment for humanity in the Middle East.
9 Hydref: Y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn dweud bod y straeon sy’n dod allan o Israel a Gaza yn arswydus
Mewn stori newyddion gan y BBC, dywed y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS:
The stories coming out of Israel and the Gaza Strip are horrifying. [The international community] has to move on to find new ways of offering people who live in Israel and the Palestinian people longer term prospects of success.
10 Hydref: Cyflwyno datganiad o farn (Ymosodiadau Hamas ar Israel)
Darren Millar AS yn cyflwyno OPIN-2023-0369 Ymosodiadau Hamas ar Israel, a gyd-gyflwynir gan Alun Davies AS. Adeg ei gyhoeddi, roedd 20 Aelod wedi llofnodi’r datganiad (gan gynnwys y rhai a’i cyflwynodd). Mae'n darllen fel a ganlyn:
Mae’r Senedd hon:
|
10 Hydref: Arweinwyr y pleidiau yn ymateb
Y Llywydd yn gwahodd arweinwyr y pleidiau i ymateb yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ers yr ymosodiadau.
Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS:
Wrth i ni eistedd yma yn y Siambr hon, mae plant, pobl hŷn a'r boblogaeth sifil yn Israel ac yn Gaza mewn ofn byw am eu bywydau, tra'u bod yn galaru am y rhai a gollwyd eisoes. Ac nid yw effaith y digwyddiadau hynny wedi'i chyfyngu i strydoedd Israel a Gaza; maen nhw'n cael effaith wirioneddol yma yng Nghymru, yn ein cymunedau ein hunain, ac rydym ni'n meddwl am bawb sydd wedi'u dal yn y cylch parhaus hwn o drais.
Ateb dwy wladwriaeth yw polisi Llywodraeth y DU a'r Cenhedloedd Unedig. Y tu hwnt i arswyd y dyddiau nesaf, mae'n rhaid i'r gymuned ryngwladol ddod at ei gilydd i weithio eto dros heddwch parhaol, heddwch diogel, heddwch sy'n ymestyn i fywydau beunyddiol pobl Israel a Palesteina. Ac mor anodd ag ydyw, ac fe'i wnaed yn anoddach eto gan y rhyfel sy'n parhau i ddatblygu, mae'n rhaid mai'r unig lwybr at well dyfodol yw llwybr o heddwch.
Dywed Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS:
Mae'n rhaid i ni i gyd gefnogi hawl amddiffyn Israel a gwneud yn siŵr bod ei ffiniau rhyngwladol yn cael eu cydnabod ac, yn y pen draw, eu diogelu. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei gofio hefyd, fel yr amlygodd y Prif Weinidog, wrth i ni eistedd yn y Siambr hon yma heddiw, bod bobl yn swatio mewn seleri, mewn lleoliadau cymunedol oherwydd bod taflegrau a rocedi yn ffrwydro'n anwahaniaethol, yn Israel ac yn Llain Gaza.
Ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fel gwlad, y Deyrnas Unedig, a'r gymuned ryngwladol, a ninnau yma yng Nghymru, atgyfnerthu ein hymdrechion i ddod â heddwch i'r cymunedau sy'n byw yn y rhan honno o'r byd, oherwydd heb heddwch yn y dwyrain canol, nid oes gennym ni heddwch ledled y byd.
Dywed Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
Rydyn ni'n meddwl heddiw am bawb sydd wedi eu taro'n uniongyrchol gan hyn, am y bywydau sydd wedi eu colli, ac rydyn ni'n meddwl am bawb o dras Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru sydd wedi bod mewn gwewyr yn gwylio datblygiadau'r dyddiau diwethaf, dwi'n siŵr.
Rydyn ni'n condemnio'r ymosodiadau gan Hamas. Heddiw, rydyn ni'n ymbil ar y gymuned ryngwladol i weithio efo'i gilydd yn gyflym i ddwyn perswâd ar y grymoedd perthnasol i gyflwyno cadoediad i sicrhau rhyddhad y gwystlon sy'n cael eu dal yn Gaza yn erbyn eu hewyllys.
Rydyn ni hefyd yn credu bod y modd y mae Llywodraeth Israel rŵan wedi rhoi gwarchae ar Gaza, gan atal cyflenwadau dŵr ac ynni, yn amhosib i'w gyfiawnhau. Mae Palestiniaid cyffredin, wrth gwrs, wedi cael eu gadael i lawr gan y gymuned ryngwladol ac wedi dioddef blynyddoedd o drais ac anghyfiawnder. Rŵan mae pobl ar ddwy ochr y ffin yn colli eu bywydau eto mewn amgylchiadau torcalonnus. Nid gwaethygu trais ymhellach ydy'r ateb. Bydd ymosodiadau diwahân ar ddinasyddion yn gwneud dim i leddfu tensiynau. Mae'r dioddefaint sy'n wynebu pobl gyffredin o bob cred yn y brwydro ffyrnig yma wedi ein cyffwrdd ni i gyd, ac mae'n meddyliau efo pob un ohonyn nhw mewn pennod arall dywyll yn hanes y rhanbarth.
Dywed Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS:
Rydym ni'n condemnio terfysgaeth Hamas a jihad Islamaidd yn llawn. Rwy'n adleisio sylwadau Layla Moran, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion tramor, sydd ei hun o dras Palesteinaidd, a ddywedodd bod yn rhaid amddiffyn sifiliaid, a bod clywed am gymryd gwystlon yn peri arswyd arbennig i ni, a'n bod ni'n condemnio'r holl drais. Yn anffodus, mae hwn yn ddwysâd sylweddol. Dywedodd y Cenhedloedd Unedig:
Mewn gwrthdaro, sifiliaid sydd bob amser yn talu'r pris uchaf. Nid rhyfel yw'r ateb. Mae angen heddwch arnom ni.
I orffen, rwy'n gobeithio ac yn gweddïo y bydd pob ymdrech gan bawb, ym mhobman, yn canolbwyntio ar drafodaethau, heddwch, diogelwch ac amddiffyniad pawb sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro erchyll hwn.
Mae’r Llywydd yn cloi drwy ddweud bod pob arweinydd:
wedi ymbil am heddwch yn y dwyrain canol y prynhawn yma ac yn adlewyrchu ein barn ni i gyd, dwi’n siŵr, yn hynny o beth.
17 Hydref: Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn gofyn a fyddai Llywodraeth Cymru yn gwneud "cyfraniad, yn cynnwys cyfraniad ariannol, tuag at yr ymgyrch dyngarol yna yn Gaza".
Mae’r cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn disgrifio ymateb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio ei Fforwm Cymunedau Ffydd, a'i bod yn "awyddus" i helpu pobl yng Nghymru ac i gefnogi camau gweithredu ar lefel y DU. Nid yw’n cyfeirio’n benodol at wneud cyfraniad ariannol.
17 Hydref: Llywodraeth Cymru yn nodi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb
Y cyn-Ddirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS, yn nodi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, sydd â’r thema o droseddau casineb ffydd a gwrthsemitiaeth. Dywed fod gweinidogion mewn cysylltiad â chynrychiolwyr y cymunedau Iddewig a Mwslimaidd ac:
Rydym yn glir bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw fath o wrthsemitiaeth, Islamaffobia a phob trosedd casineb sy'n seiliedig ar ffydd.
24 Hydref: Plaid Cymru yn ailadrodd yr alwad am gymorth dyngarol
Yn y Cyfarfod Llawn, mae Mabon ap Gwynfor AS yn ailadrodd galwad Plaid Cymru ar i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth dyngarol, ac yn gofyn am sicrwydd ei bod yn "defnyddio pob grym sydd ganddi” er mwyn galw am gadoediad. Mae’r cyn-Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS, yn ymateb:
Gallaf i eich sicrhau chi fod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wir wedi cysylltu â'n grwpiau ffydd yma i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cefnogi.
Yn amlwg, nid yw materion rhyngwladol yn fater datganoledig, ond rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwylio gydag arswyd llwyr wrth i'r golygfeydd hyn ddatblygu o'n blaen ar ein sgriniau teledu bob nos.
25 Hydref: Cyflwyno datganiad o farn (Gwrthdaro Israel a Gaza)
John Griffiths AS yn cyflwyno OPIN-2023-0370 Gwrthdaro Israel a Gaza, a gyd-gyflwynir gan Altaf Hussein AS, Jane Dodds AS a Peredur Owen Griffiths AS.
Adeg ei gyhoeddi, roedd 28 Aelod wedi llofnodi’r datganiad (gan gynnwys y rhai a’i cyflwynodd). Mae'n darllen fel a ganlyn:
Mae’r Senedd hon:
|
25 Hydref: Y Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio eglurhad ar y diffiniad o wrthsemitiaeth mewn addysg uwch ac addysg bellach
Yn y Cyfarfod Llawn, gofynna Darren Millar AS pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i hyrwyddo diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost (IHRA) o wrthsemitiaeth i gael ei fabwysiadu gan y sectorau addysg bellach ac uwch yng Nghymru.
Mae cyn-Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, yn ymateb mai mater i brifysgolion a sefydliadau yw hynny ond ei fod wedi bod yn “glir” yr hoffai eu gweld yn gwneud hynny.
O ran a fyddai Llywodraeth Cymru yn gwneud cyllid yn amodol ar fabwysiadu diffiniad IHRA, mae’r cyn-Weinidog yn disgrifio cyfarfodydd gyda chynghorwyr, arweinwyr a chymunedau. Mae’n cytuno ar bwysigrwydd “ymateb yn chwyrn” i wrthsemitiaeth ac Islamoffobia, gan gynnwys yn y system addysg.
30 Hydref: Y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn cymeradwyo “saib dyngarol”
Mewn datganiad i’r BBC, dywed y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS:
I endorse the calls made by Keir Starmer for humanitarian pauses so that aid can urgently get to those who need it. A pause could create conditions which lead to a ceasefire and then on to the crucial next steps to provide a credible route to the peaceful resolution which is so desperately needed.
31 Hydref: Y cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, yn dweud y bydd cadoediad ar unwaith yn arbed cannoedd, os nad miloedd, o fywydau
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Eluned Morgan AS, yn ysgrifennu mewn erthygl WalesOnline, gan ddweud:
Last week, the successor body of the League of Nation, the UN, called for an immediate, durable and sustained humanitarian truce in Gaza leading to a cessation of hostilities. It stated that all parties should immediately and fully comply with obligations under international humanitarian and human rights laws, particularly in relation to the protection of civilians. […]
I believe that we in Wales today should align ourselves with that UN resolution. An immediate ceasefire will save hundreds, if not thousands, of innocent lives.
7 Tachwedd: Llywodraeth Cymru yn nodi cyfnod y Cofio
Y cyn-Ddirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS, yn arwain dadl ar Gynnig NNDM8394 yn cydnabod cyfnod y Cofio yng Nghymru. Mae’r cyn-Ddirprwy Weinidog yn rhestru gwrthdaro sy’n digwydd ledled y byd ar hyn o bryd, gan gynnwys yn Wcráin, Israel a Gaza.
8 Tachwedd: Y Senedd yn cymeradwyo cadoediad
Dadl Plaid Cymru, a gyflwynir gan Rhun ap Iorwerth AS, yn galw am gadoediad yn derbyn cefnogaeth gan 24 Aelod, gydag 19 yn erbyn a 13 yn ymatal. Mae canlyniadau llawn y bleidlais a thrawsgrifiad o'r ddadl ar gael.
Mae NDM8391 Gwrthdaro yn Israel a Gaza yn darllen fel a ganlyn:
Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio'r ymosodiadau brawychus a gyflawnwyd gan Hamas yn erbyn dinasyddion Israel ac yn galw am ryddhau gwystlon ar unwaith. 2. Yn nodi bod gan Israel ddyletswydd i sicrhau gwarchodaeth, diogelwch a lles ei dinasyddion a phoblogaeth feddianedig Palesteina. 3. Yn condemnio ymosodiadau diwahân Llywodraeth Israel ar Gaza, sydd wedi arwain at farwolaeth miloedd o bobl Palesteinaidd ddiniwed ac yn cytuno ag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig na ellir cyfiawnhau cosbi pobl Palesteina ar y cyd. 4. Yn galw ar y gymuned ryngwladol i: a. uno i geisio sicrhau cadoediad ar unwaith i ddod â’r dioddefaint dynol i ben a chaniatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen; b. dwyn pwysau ar Lywodraeth Israel i roi terfyn ar y gwarchae ar Gaza sy'n mynd yn groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol sylfaenol pobl Palesteina; ac c. gwneud popeth o fewn ei allu i greu coridorau cymorth diogel ac ystyrlon i Lain Gaza a galluogi llwybr diogel allan o'r rhanbarth. 5. Yn sefyll mewn undod â'r cymunedau Israelaidd a Phalesteinaidd yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro. 6. Yn annog y Senedd i gefnogi datrysiad dwy wladwriaeth er mwyn mynd ar drywydd heddwch parhaol yn y rhanbarth. |
Y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru mewn ymateb:
Rydym yn glir ynghylch erchylltra'r trychineb dyngarol hwn, ond credaf ein bod hefyd yn glir ynghylch yr angen brys i sicrhau y gall cymorth gyrraedd y bobl sydd ei angen yn daer, gan gynnwys adfer trydan, tanwydd, bwyd a dŵr i Gaza.
A dyna pam mae'r Prif Weinidog wedi ymuno â galwadau am saib dyngarol ar unwaith fel y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o ganiatáu i hyn ddigwydd, ond hefyd, yn hollbwysig, fel y llwybr a'r platfform mwyaf realistig ar gyfer cyrraedd cadoediad llawn cyn gynted â phosibl.
Rydym yn glir fod dod o hyd i ffordd o ddod â'r trais, dioddefaint a marwolaeth i ben yn gwbl hanfodol ac mae'n rhaid iddo barhau i fod yn ffocws, yn anad dim arall, i ddod o hyd i'r llwybr at heddwch. Fel y mae llawer wedi dweud yn y ddadl hon, rhaid i'r gymuned ryngwladol ymrwymo i gyflawni'r nod terfynol clir—heddwch parhaol i bawb yn y dwyrain canol. Credwn mai dim ond trwy gytundeb gwleidyddol y gellir cyflawni hyn yn seiliedig ar ddatrysiad dwy wladwriaeth, lle mae pobl yn Israel yn byw mewn diogelwch a'r Palesteiniaid yn gwireddu'r wladwriaeth annibynnol y maent wedi dyheu amdani ers tro. Ac mae Llywodraeth Cymru yn rhannu'r ymrwymiad i gyflawni'r heddwch parhaol hwn.
Rydym hefyd yn cymeradwyo—ac mae wedi cael ei fynegi heddiw—y galwadau eang am barchu cyfraith ryngwladol gan bawb er mwyn rhoi pob amddiffyniad posibl i fywydau a chyfleusterau sifil. Mae hawliau dynol, cyfraith ryngwladol, rheolaeth y gyfraith ac anghyfreithlondeb troseddau rhyfel yn berthnasol i bawb ohonom. Nid oes unrhyw Lywodraeth, unrhyw unigolyn, unrhyw sefydliad wedi'i eithrio neu'n uwch na'r gyfraith, ac wrth gwrs, dylai pawb fod yn atebol am eu gweithredoedd.
14 Tachwedd: Newidiadau i gyfraith y DU a Chymru i sicrhau bod budd-daliadau tai’r DU ar gael i newydd-ddyfodiaid sy’n ffoi o ranbarth y gwrthdaro
Ar 13 Tachwedd, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried diwygiadau i Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023. Mae’r Pwyllgor yn cytuno i gais Llywodraeth Cymru i gyflymu’r gwaith o graffu ar y rheoliadau oherwydd eu natur frys.
Mae hyn ar ôl i Lywodraeth y DU ymestyn cymhwystra ar gyfer tai cymdeithasol a chymorth tai i
- wladolion Prydeinig;
- eraill nad ydynt yn destun rheolaeth fewnfudo neu sy'n cael eu trin felly; ac
- unrhyw un sydd â chaniatâd mewnfudo a hawl i arian cyhoeddus
a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd yr ardaloedd hynny mewn cysylltiad â'r trais a oedd yn datblygu yn y rhanbarth.
Cytunir ar y newidiadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd 2023, gan alinio cyfraith tai Cymru â dull gweithredu Llywodraeth y DU. Dywed y cyn-Weinidog Newid Hinsawdd a Thai, Julie James AS:
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r penderfyniad hwn ac, fel cenedl noddfa, mae angen i ni weithredu nawr i sicrhau ein bod yn adlewyrchu'r safbwynt hwnnw yn llawn yng Nghymru. […] Fel y gwyddoch chi, mae pobl yn ffoi rhag sefyllfa anodd a thrallodus, a dylid rhoi unrhyw gymorth y gallwn ei gynnig i'r rhai mewn angen..
15 Tachwedd: Sioned Williams AS yn holi'r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, am gynlluniau adsefydlu ffoaduriaid
Mewn ymateb i gwestiwn llafar gan Sioned Williams AS ar drafodaethau rhwng llywodraethau’r DU a Chymru ar gynlluniau adsefydlu ffoaduriaid i’r rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro, dywed y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS:
Mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau […] i wneud yr hyn a allwn, nid yn unig o ran cydlyniant cymunedol […] ond hefyd ein bod yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud fel cenedl noddfa. […] Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU i edrych ar y sefyllfa, ac rydym hefyd yn cydnabod na chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU ar unrhyw becynnau adsefydlu ar gyfer y bobl o Gaza ac Israel sy'n dymuno ceisio noddfa yng Nghymru.
20 Tachwedd: Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn clywed am “gynnydd sylweddol” mewn ymosodiadau ar Iddewon a Mwslemiaid
Mewn tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, dywed yr Athro Uzo Iwobi o Race Council Cymru:
there's been a significant increase in antisemitic attacks and verbal attacks and assaults on Jews and Muslims because of what is going on in Israel and Palestine at this time. We've been touching base with the leaders of the Jewish communities who are part of the race council's wider network and the Muslim Council of Wales, who've been reporting increasing concerns about the lives of Muslims.
Mae Jane Dodds AS yn codi hyn yn ddiweddarach gyda’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, pan mae’n rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad ar 4 Rhagfyr 2023. Mewn ymateb, dywed:
I met with all the groups who sit on that faith communities forum. I've met with the Muslim Council of Wales, who are very active in the faith communities forum, and Jewish representatives, attending Friday prayers in the mosque and going to Shabbat in the synagogue in Cardiff, and an interfaith event—constant dialogue, constant engagement.
Ychwanega’r cyn-Weinidog fod gan Lywodraeth Cymru gydlynwyr cymunedol ym mhob rhan o Gymru.
23-24 Tachwedd: Arweinwyr, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn trafod y gwrthdaro yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn bresennol yn 40fed cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Ar 15 Rhagfyr 2023, mae’n hysbysu’r Senedd am y cyfarfod mewn datganiad ysgrifenedig a llythyr i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. Mae’r ddau yn cadarnhau y trafodwyd y “gwrthdaro yn Israel a Gaza”, er na chafodd yr wybodaeth hon ei chynnwys yng nghyfathrebiad ar y cyd y cyfarfod ar 28 Tachwedd 2023.
13 Rhagfyr: Peredur Owen Griffiths AS yn holi'r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, am gynlluniau adsefydlu ffoaduriaid
Mewn ymateb i gwestiwn llafar gan Peredur Owen Griffiths AS ar drafodaethau rhwng llywodraethau’r DU a Chymru ar gynlluniau adsefydlu ffoaduriaid ar gyfer y rhai sy’n ffoi rhag y gwrthdaro, mae’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn disgrifio cyfarfod rhynglywodraethol ar bolisi ffoaduriaid gyda gweinidogion y DU a’r Alban. Mae'n esbonio’r canlynol:
Buom yn trafod ystod eang o faterion mewn perthynas â ffoaduriaid—ffoaduriaid o Wcráin, Affganistan, gwasgariad ehangach o geiswyr lloches—ond codwyd y cwestiwn hwn hefyd. Fe'i codwyd ynglŷn ag a a allai fod llwybr neu ffordd arall y gallem gefnogi'r rhai sydd wedi'u dal yn y gwrthdaro.
Wrth gwrs, yn amlwg, nid yw'r mater hwn wedi'i ddatganoli—mae unrhyw fater sy'n ymwneud â pholisi tramor yn fater i Lywodraeth y DU, nid i Lywodraeth Cymru na'r Senedd. Ac wrth gwrs, mae yna flaenoriaeth i ddarparu llawer mwy o gymorth i Gaza.
Roedd y drafodaeth a gawsom yn ymwneud â chefnogi gwladolion Prydeinig i weld a oedd unrhyw ffyrdd o wneud hynny, oherwydd mae'n bwysig eu bod yn gwybod beth yw eu hawliau. Ond yn amlwg, rydym eisiau saib yn y gwrthdaro, a dyna fydd yn atal y sefyllfaoedd ofnadwy a ddisgrifiwyd gennych heddiw.
29 Ionawr: Y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn galw am “gadoediad llawn a pharhaol” mewn llythyr i’r Pwyllgor Deisebau
Y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb P-06-1387, 'Darparu cymorth dyngarol i Gaza' a gohebiaeth gan y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS. Yn ei llythyr, mae’r cyn-Weinidog yn dweud:
rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, er mwyn dod â'r lefelau annioddefol o drais a dioddefaint i ben cyn gynted â phosibl.
Ymddengys fod hyn yn nodi newid yn sefyllfa Llywodraeth Cymru – o gefnogaeth i “saib dyngarol” i gefnogaeth i “gadoediad llawn a pharhaol”.
Mae'r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb ac yn cytuno i ysgrifennu at y cyn-Weinidog i gadarnhau, os bydd y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) yn lansio apêl, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu cymorth dyngarol. Mae’r aelodau hefyd yn annog y cyn-Weinidog i gyfarfod â’r elusennau dyngarol sy'n rhan o apêl DEC yng Nghymru. Ystyrir ymateb y Gweinidog yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 22 Ebrill 2024 (gweler isod).
Adeg ei chyhoeddi, roedd y ddeiseb wedi casglu 1,795 o lofnodion. Mae briff ymchwil a gyhoeddwyd yn rhoi cefndir i'r materion.
30 Ionawr: Y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn ailadrodd galwad am gadoediad yn ystod dadl Diwrnod Cofio'r Holocost
Yn ystod dadl yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, mae Sioned Williams AS yn gofyn sawl cwestiwn yn ymwneud â'r gwrthdaro, gan gynnwys ar ddyfarniad interim y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol a chefnogaeth y DU i gadoediad.
Mae’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn ymateb fel a ganlyn:
o ran y sefyllfa yn y dwyrain canol, mae angen cadoediad cynaliadwy a pharhaol arnom er mwyn sicrhau ein bod yn cael cymorth dyngarol brys, cadw newyn i ffwrdd, a hefyd rhyddhau gwystlon, a darparu lle ar gyfer cadoediad cynaliadwy fel nad yw ymladd yn ailgychwyn. Ac, yn amlwg, rydym yn cydnabod ac yn edrych ar y sefyllfa o ran dyfarniad interim y llys cyfiawnder rhyngwladol.
Ond rwy'n credu, o ran ein rôl ni a'r pwyntiau a wnawn, mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol, fel y dywedais, am gydlyniant cymunedol, am y Gymru dosturiol a gofalgar a moesegol yr ydym eisiau ei gweld yn ein pobl ifanc ac yn wir yn ein holl ddinasyddion.
2 Chwefror: Datganiad o farn yn cael ei gyflwyno (Gweithwyr Meddygol yn Gaza)
Rhys ab Owen AS yn cyflwyno OPIN-2024-0386 Gweithwyr Meddygol yn Gaza a gyd-gyflwynir gan Jack Sargeant AS. Adeg ei gyhoeddi, roedd 12 Aelod wedi llofnodi'r datganiad (gan gynnwys y rhai a’i cyflwynodd). Mae'n darllen fel a ganlyn:
Mae’r Senedd hon:
|
20 Chwefror: Y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn dweud “rhaid i ni gael mwy o gymorth i Gaza”
Yn ystod dadl yn nodi dwy flynedd ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin a diweddariad Cenedl Noddfa, mae Sioned Williams AS yn holi’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, am adsefydlu ffoaduriaid, Cenedl Noddfa a’r saib yng nghefnogaeth y DU i Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina (UNRWA). Mae’r cyn-Weinidog yn ymateb fel a ganlyn:
Wel, ie, mae hi'n amlwg eich bod chi wedi myfyrio ar faterion ehangach ynglŷn â'r ymladd yn y byd, sy'n bwysig i ni o ran ein cysylltiadau a'n dealltwriaeth ryngwladol a'n cyfrifoldebau a'n dinasyddiaeth fyd-eang. […] Y gwir yw, argyfwng dyngarol yw'r un a welwn ni yn Gaza. Mae llawer gormod o sifiliaid, gan gynnwys menywod a phlant, yn colli eu bywydau. Ac mae'n rhaid i ni gael mwy o gymorth i Gaza—ac, yn bwysicaf i gyd, mae'n rhaid i'r gwystlon gael eu dychwelyd yn ddiogel ac mae'n rhaid cefnogi gwladolion Prydeinig. Felly, yn fy marn i, mae hyn yn rhywbeth, y mae—. Unwaith eto, mae hyn yn ein cysylltu nid yn unig â'r genedl noddfa, ond â chydlyniant cymunedol, ac rydym ni wedi sefyll gyda chymunedau Iddewig a Mwslimaidd a chwrdd â nhw ers dechrau'r gwrthdaro, ac rydym ni'n parhau i siarad â chymunedau Mwslimaidd ac Iddewig i weld pa gymorth y gallwn ni ei roi.
21 Chwefror: Sioned Williams AS yn arwain dadl fer: Pwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch
Sioned Williams AS yn arwain dadl fer yn nodi pwysigrwydd llais Cymru yn yr ymgyrch dros heddwch - Dathlu canmlwyddiant cyflwyno deiseb heddwch Menywod Cymru i’r Arlywydd Coolidge a rôl Cymru wrth godi llais dros heddwch heddiw.
Mae Sioned Williams AS, Carolyn Thomas AS a Mabon ap Gwynfor AS yn cyfeirio at Gaza yn ystod y ddadl.
27 Chwefror: Y Senedd yn gwrthod rhoi cydsyniad i Fil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
Diben y Bil yw:
gwneud darpariaeth i atal cyrff cyhoeddus rhag cael eu dylanwadu gan anghymeradwyaeth wleidyddol neu foesol gwladwriaethau tramor wrth wneud penderfyniadau economaidd penodol, yn amodol ar rai eithriadau penodol; ac at ddibenion cysylltiedig.
Byddai cymal 3(7) o’r Bil yn diogelu Israel, tiriogaethau Palesteina sydd wedi’u meddiannu gan Israel ac Ucheldiroedd Golan sydd wedi’u meddiannu rhag boicotiau buddsoddi a chaffael gan awdurdodau lleol, prifysgolion a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru a Gwasanaethau Cyfreithiol y Senedd yn cytuno bod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymal 3(7), ond mae Llywodraeth y DU yn anghytuno.
Gosododd Llywodraeth Cymru ei Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 8 Medi 2023. Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a osodwyd ar 22 Tachwedd, yn adleisio pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch a yw’r Bil yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chyfraith ryngwladol.
Mae’r Senedd yn gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil ar 27 Chwefror 2024.
Yn ystod y ddadl, mae’r cyn-Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, yn datgan bod y Bil yn:
fygythiad i ryddid mynegiant a gallu cyrff cyhoeddus a sefydliadau democrataidd i wario, buddsoddi a masnachu'n foesegol, yn unol â chyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod cydsynio i'r Bil.
6 Mawrth: Altaf Hussein AS yn holi’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, am gydlyniant cymunedol
Mewn ymateb i gwestiwn llafar gan Altaf Hussein AS ar waith gydag arweinwyr cymunedau a ffydd i hyrwyddo ac amddiffyn cydlyniant cymunedol, dywed y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS:
Rwyf i fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a'r Gweinidog cyllid, y Gweinidog addysg, yn cyfarfod â’n cymunedau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y digwyddiadau yn y dwyrain canol. Wrth gwrs, rydym yn cyfarfod â’n cymunedau Mwslimaidd, yn cyfarfod â’n cymunedau Iddewig—yn cyfarfod â nhw ac yn ymweld â’u mannau addoli hefyd, ac yn dysgu beth mae hyn wedi’i olygu iddynt hwy, ond gan gydnabod yr hyn y mae wedi’i olygu iddynt hwy o ran yr effaith a gaiff ar eu bywydau ac yn fyd-eang yn ogystal.
Mewn ymateb i drafodaethau pellach ar hiliaeth, Islamoffobia ac eithafiaeth, ychwanega’r cyn-Weinidog:
Gadewch imi ddweud yn glir iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu Islamoffobia a gwrthsemitiaeth yn llwyr.
7 Mawrth: Peredur Owen Griffiths AS yn gofyn pa baratoadau sy'n cael eu gwneud i gefnogi ffoaduriaid o Gaza
Ar 6 Mawrth, ni chyrhaeddwyd cwestiwn llafar OQ60793 Peredur Owen Griffiths AS yn y Cyfarfod Llawn. Mae'n gofyn:
Pa baratoadau y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud i gefnogi ffoaduriaid o’r gwrthdaro yn Gaza? |
Mae’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn ymateb yn ysgrifenedig ar 7 Mawrth 2024:
Wales is committed to being a nation of sanctuary. We have successfully welcomed people seeking sanctuary from across the globe. If a Gaza resettlement scheme was developed, we would ensure Wales played a full part, but the UK Government has no plans for such a scheme.
12 Mawrth: Y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn ymateb i dri chwestiwn ysgrifenedig ar Genedl Noddfa a gwrthsemitiaeth
Mae’r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, yn ymateb i’r cwestiynau ysgrifenedig a ganlyn:
1. Ar 5 Mawrth 2024, cyflwyna Heledd Fychan AS WQ91723:
Sut y mae’r cynllun cenedl noddfa wedi'i gymhwyso i'r gwrthdaro parhaus yn Gaza? |
Ymateb:
The Welsh Government remains deeply concerned about the ongoing conflict and humanitarian crisis in Gaza. Too many civilians – including many women and children – are being killed and an acute humanitarian crisis is unfolding.
We have successfully welcomed people seeking sanctuary from across the globe, including Palestinians who have become contributing members of Welsh society. As a Nation of Sanctuary, we would ensure Wales plays a full part in any Gaza resettlement scheme.
I have asked UK Government Ministers on several occasions since October whether there will be a resettlement scheme. Most recently I asked this in a meeting alongside Scottish Government Ministers on 11 December.
The Welsh Government is in regular contact with UK Government to understand the situation but the UK Government has not made any commitment to a resettlement scheme for those from Israel-Gaza wishing to seek sanctuary.
We want to be proactive in supporting safe and legal routes for those who need our support but we can only do so within the parameters set by UK Government immigration routes.
2. Ar 5 Mawrth 2024, cyflwyna Heledd Fychan AS WQ91724
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y gwrthdaro parhaus yn Gaza ar yr amcanion yng nghynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru? |
Ymateb:
The Welsh Government remains deeply concerned about the ongoing conflict and humanitarian crisis in Gaza. Too many civilians – including many women and children – are being killed and an acute humanitarian crisis is unfolding.
We have successfully welcomed people seeking sanctuary from across the globe, including Palestinians who have become contributing members of Welsh society. As a Nation of Sanctuary, we would ensure Wales plays a full part in any Gaza resettlement scheme.
I have asked UK Government Ministers on several occasions since October whether there will be a resettlement scheme. Most recently I asked this in a meeting alongside Scottish Government Ministers on 11 December.
The Welsh Government is in regular contact with UK Government to understand the situation but the UK Government has not made any commitment to a resettlement scheme for those from Israel-Gaza wishing to seek sanctuary.
>We want to be proactive in supporting safe and legal routes for those who need our support but we can only do so within the parameters set by UK Government immigration routes.
3. Ar 5 Mawrth 2024, cyflwyna Sam Kurtz AS WQ91728
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau Iddewig Cymru, o ystyried y cynnydd mewn gwrthsemitiaeth? |
Ymateb:
We are committed to embedding anti-racism within everything we do and have set out our ambitions in the Anti-racist Wales Action Plan.
The First Minister and I along with other Cabinet colleagues have met with leaders and members of the Jewish community multiple times since the start of the conflict on 7th October to offer our condolences to all affected by the current crisis and to hear from them about the impacts the current situation is having on our communities. We will continue to do so.
Following discussions with both Jewish and Muslim faith leaders, in December 2023, I along with the Minister for Education and Welsh Language wrote to schools to highlight the statutory anti-bullying guidance 'Rights, Respect, Equality' for education settings and governing bodies to tackle prejudice-related bullying and harassment, including tackling Islamophobia and antisemitism. We also highlighted the availability of professional learning resources to support senior leaders, teachers and education practitioners in undertaking a dialogue around the conflict appropriately and tackling all forms of racism.
The Minister for Education and Welsh Language also wrote to colleges and universities regarding this issue.
Through our anti-hate crime campaign Hate Hurts Wales, we are raising awareness of religious hate, encouraging the reporting of it, and highlighting the supporting available via the Wales Hate Support Centre. We continue to fund the Holocaust Memorial Day Trust to deliver its important engagement work in Wales and raise the dangers of antisemitism and other forms of identity-based hate.
Through the Wales Faith Communities Form, co-chaired by the First Minister and myself, we work closely with faith representatives on matters affecting the social, economic and cultural life of Wales.
12 Mawrth: Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, y cyn-Ddirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn AS, yn dweud “byddwn ni’n brwydro’n galed dros eraill” gan gynnwys y rhai yn Gaza
Yn ystod dadl yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Sioned Williams AS yn gofyn:
Ni all y drafodaeth ar hawliau menywod fod ar wahân i ffaith y trais milwrol yn Gaza. Rwyf i yn y lle hwn oherwydd bod fy hawliau fel menyw wedi'u hennill drwy ddycnwch mawr. Mae'n ddyletswydd arnaf fel menyw yn y lle hwn i godi fy llais yn erbyn y trais hwnnw. Rhaid i ni wneud mwy i gefnogi ein chwiorydd yn Gaza, a defnyddio'n llais fel cenedl i gondemnio'r rhyfel erchyll hwn. A ydych chi'n barod, Gweinidog, i ychwanegu llais Llywodraeth Cymru at y galwadau rhyngwladol am gadoediad ar unwaith a diwedd i ddioddefaint torfol menywod a merched Palestinaidd?
Mae’r cyn-Ddirprwy Weinidog, Hannah Blythyn AS, yn ymateb:
Diolch i Sioned Williams am ei chyfraniad. Rwy'n gwybod bod llawer gennym ni'n gyffredin bob amser, hyd yn oed os mai dim ond y pethau sy'n ein gwneud ni yr un mor ddig ac yn benderfynol o gyflawni newid ydyn nhw.
[…] Gwnaeth pobl frwydro'n galed i ni fod yma, ac yn bendant nid ydyn ni'n cymryd hynny'n ganiataol, a byddwn ni'n brwydro'n galed dros eraill, p'un ai ydy hynny'n rhai o'r pethau erchyll yr ydyn ni'n eu gweld yn Gaza ar hyn o bryd, ond hefyd gartref yma o ran sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf ddyfodol gwell na ni.
19 Mawrth: Y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn dweud “wrth gwrs, rydyn ni am weld cadoediad” ac y bydd yn cyfrannu at apêl DEC, os caiff un ei lansio
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog, mae Mabon ap Gwynfor AS yn gofyn OQ60884:
Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda sefydliadau cymorth brys a dyngarol ynghylch darparu cymorth i Gaza? |
Mae’r cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn ateb:
pan fydd Llywodraeth Cymru'n helpu i ddarparu cymorth brys, gwnawn hynny drwy waith y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Os bydd y pwyllgor yn lansio apêl am gymorth i Gaza, byddwn i'n disgwyl i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol gymryd rhan ynddi.
[…]
Rydyn ni'n dod i ben â chwestiwn pwysig dros ben i bobl dros y byd, a hefyd i bobl yma yng Nghymru sydd ag aelodau o'u teuluoedd yn Gaza ac sy'n becso bob dydd am beth sy'n mynd ymlaen yna. Wrth gwrs, rydyn ni eisiau gweld cadoediad i bopeth sy'n mynd ymlaen yna.
Dyna'r rheswm, fel y mae Mabon ap Gwynfor wedi ei ddweud, pam nad yw'r pwyllgor yn gallu bod ar y tir yna, a heb fod ar y tir, dydyn ni ddim yn gallu dosbarthu'r cymorth y mae ei angen fwyaf arnynt. So, rydyn ni'n edrych ymlaen fel Llywodraeth—. Fel rydyn ni wedi cyfrannu at apêl pan oedd hi'n dechrau yng nghyd-destun Wcráin, neu Affganistan, neu Dwrci, neu Bacistan, rydyn ni wedi rhoi arian oddi wrth bobl yng Nghymru i helpu pobl ar y tir. Rydyn ni'n edrych ymlaen at wneud yr un peth yn Gaza, ac i'w wneud e mor gyflym ag sydd yn bosib.
16 Ebrill: Mabon ap Gwynfor AS yn holi am gynhyrchwyr arfau yng Nghymru
Yn y Cyfarfod Llawn, mae Mabon ap Gwynfor AS yn holi'r cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, am rôl Cymru o ran arfogi Llywodraeth Israel a Llu Amddiffyn Israel (IDF). Mae’n ymateb fel a ganlyn:
Diolch am godi'r mater pwysig hwn. […] Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth lle, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau, does ganddon ni ddim rôl o ran amddiffyn a gwerthu arfau, ond yn sicr, fe wnaf i rannu'r cwestiwn hwn ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi o ran Cymru a lle yr ydyn ni yn y sefyllfa honno o ran y cwestiwn hwnnw.
22 Ebrill: Y Pwyllgor Deisebau yn penderfynu cadw’r ddeiseb ar agor
Mae'r Pwyllgor Deisebau yn ystyried ymateb y cyn-Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, ar gyfraniadau Llywodraeth Cymru at apêl DEC yn y dyfodol. Mae hi’n cadarnhau:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu cymorth ariannol i nifer o apeliadau gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys dros y blynyddoedd diwethaf a bydd yn sicr yn ystyried gwneud hynny eto ar gyfer unrhyw apeliadau yn y dyfodol, gan gynnwys apêl ar gyfer Gaza os caiff un ei lansio. Mae fy swyddogion yn fy hysbysu’n rheolaidd ynghylch gweithgareddau a safbwyntiau’r Pwyllgor Argyfyngau Brys. Mi fuaswn i’n barod i gyfarfod â chi er mwyn trafod y mater ymhellach.
Mae'r Pwyllgor yn nodi ymateb y Gweinidog ac yn cytuno i gadw'r ddeiseb ar agor hyd nes y bydd apêl DEC ar waith.
23 Ebrill: Y Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething AS, yn nodi ei safbwynt, ac yn ailadrodd ei gefnogaeth i gadoediad
Y Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething AS, yn nodi ei safbwynt yn y Cyfarfod Llawn:
Safbwynt Llywodraeth Cymru ers cryn amser yw y dylai fod cadoediad ar unwaith. Mae angen cynnydd sylweddol i lwybrau ar gyfer cymorth, yn ogystal â faint o gymorth sy'n cael ei ddarparu, oherwydd mae argyfwng dyngarol gwirioneddol yn digwydd o'n blaenau, yn ogystal â datrys y materion ynghylch yr erchyllterau a ddigwyddodd ar 7 Hydref, sy'n cynnwys rhyddhau'r holl wystlon. Nawr, nid wyf i'n credu, ar draws y Siambr hon, y bydd pobl yn anghytuno â'r safbwynt hwnnw. Ein her yw lefel y dylanwad sydd gennym ni ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y rhanbarth, y sgyrsiau sy'n cael eu cynnal rhwng gwahanol weithredwyr i geisio sicrhau cadoediad, a'r gallu i roi terfyn ar y lladd.
Ac, i gloi:
Mae Llywodraeth Cymru yn eglur: rydym ni eisiau gweld terfyn ar y lladd ar unwaith, cadoediad; rydym ni eisiau gweld cynnydd sylweddol ar unwaith yn y cymorth y gellir ei ddarparu; rydym ni eisiau gweld gwystlon yn cael eu dychwelyd. Fy safbwynt i o hyd yw mai'r ffordd hirdymor i sicrhau'r sefydlogrwydd a'r diogelwch heddychlon y dylai dinasyddion ei ddisgwyl yw cael Israel hyfyw, ddiogel, fel cymydog i wladwriaeth Balesteinaidd hyfyw a diogel. Rydym ni ymhell i ffwrdd o gyflawni hynny mewn gwirionedd.
30 Ebrill: Cadeirydd Pwyllgor, Delyth Jewell AS, yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am gael yr wybodaeth ddiweddaraf
Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Delyth Jewell AS, yn ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau yn gofyn am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- trafodaethau sydd wedi'u cynnal ag elusennau dyngarol sydd ynghlwm wrth apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yng Nghymru; ac
- unrhyw gamau eraill y gallai Llywodraeth Cymru ystyried eu cymryd i ddarparu cymorth dyngarol i Gaza.
1 Mai: Peredur Owen Griffiths AS yn arwain dadl fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Peredur Owen Griffiths AS yn arwain dadl ar ymateb Cymru i'r gwrthdaro. Mae Rhun ap Iorwerth AS, John Griffiths AS, Sioned Williams AS, Jenny Rathbone AS a Mabon ap Gwynfor AS hefyd yn cyfrannu.
Mae Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths AS, yn ymateb i elfennau allweddol y gwrthdaro, a nodir isod.
Ar bleidlais cadoediad y Senedd ar 8 Tachwedd 2023:
Yn unol â chonfensiwn […] fe ymataliodd Gweinidogion Cymru o'r bleidlais ar y cynnig gan nad yw materion polisi tramor wedi'u datganoli i Senedd Cymru. Fodd bynnag, yn y ddadl ei hun roedd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn glir fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld cadoediad llawn cyn gynted â phosibl. Ailadroddwyd y safbwynt hwn yn y Cyfarfod Llawn gan y Prif Weinidog a’r cyn Brif Weinidog […].
Ar safbwynt diweddaraf Llywodraeth Cymru:
Rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, gan ddod â'r dioddefaint ar bob ochr i ben cyn gynted â phosibl. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae argyfwng dyngarol go iawn yn digwydd. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr holl bartneriaid perthnasol yn sicrhau cynnydd sylweddol ac uniongyrchol yn y cymorth i mewn i Gaza, yn cytuno i ryddhau'r holl wystlon, yn dod â'r trais i ben, ac yn cymryd rhan ystyrlon yn natblygiad datrysiad dwy wladwriaeth sy'n para.
I gloi, mae’n ychwanegu:
Rydym yn galw eto am gadoediad, am gynyddu cymorth, ac am i'r gwystlon gael eu rhyddhau.
Ar gwmpas rôl Llywodraeth Cymru:
Yng Nghymru, yr her i ni yw nodi'r dylanwad y gallwn ei gael i helpu i gyflawni'r newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld, i atal y casineb a'i ganlyniadau. Mae hanes a geowleidyddiaeth y rhanbarth, yn ogystal â'r trais parhaus a'r ffaith nad yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, yn cyfyngu'n ddifrifol ar yr hyn y gallwn ei wneud, er gwaethaf ein tristwch dwfn. […] Serch hynny, mae yna bethau y gallwn ni, ac rydym ni'n eu gwneud yng Nghymru i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt sy'n byw yma.
Ar gydlyniant cymunedol;
Rydym wedi bod yn monitro unrhyw densiynau cymunedol sy'n ymwneud â'r gwrthdaro drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol, ac yn monitro unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau casineb drwy ganolfan cymorth casineb Cymru. Er bod rhai digwyddiadau atgas wedi bod, diolch byth mae'r rhain yn brin, ac nid ydym wedi gweld y niferoedd mawr yr oeddem yn eu hofni.
Mae Gweinidogion wedi cyfarfod ag arweinwyr Iddewig a Mwslimaidd i drafod effeithiau'r gwrthdaro yn Israel a Gaza ar ein cymunedau yma yng Nghymru. Rydym wedi annog undod a deialog rhyngddiwylliannol mewn partneriaeth â'n fforwm cymunedau ffydd. Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi mewn ysgolion, gallasom gyd-ysgrifennu llythyr ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion yng Nghymru gyda Chyngor Mwslimaidd Cymru a Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain.[…]
Nid oes lle i ragfarn a chasineb yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i honiadau ac achosion o hiliaeth ac aflonyddu hiliol gael eu harchwilio'n llawn, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater ac atal digwyddiadau pellach rhag digwydd.
Ar ddarparu cymorth dyngarol:
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhoddion i sawl apêl gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn y blynyddoedd diwethaf […] Nid ydym wedi gallu gwneud hyn i leddfu peth o'r dioddefaint yn Gaza, oherwydd nid yw'r Pwyllgor Argyfyngau Brys wedi gallu lansio ymgyrch. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn credu mai dim ond cadoediad parhaol fydd yn galluogi ei asiantaethau i ddarparu cymorth mawr ei angen yn Gaza yn effeithiol. Rydym yn parhau i weld argymhellion ar gyfer cynyddu cyflenwadau cymorth o'r môr a gollwng cymorth o'r awyr, a gobeithio y bydd hynny'n arwain at fwy o gymorth mwy effeithiol. Byddwn yn parhau i adolygu ein safbwynt pe bai'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn teimlo y gellir bodloni'r meini prawf ar gyfer apêl.
Ar weithio gyda Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i ddeall ymdrechion y DU mewn perthynas â'r gwrthdaro, ac i ddeall unrhyw effeithiau canfyddedig i Gymru.
Ymrwymodd y Prif Weinidog i weithio gydag Aelodau a allai fod ag etholwyr sydd ag aelodau teuluol a oedd yn ddioddefwyr ar 7 Hydref, neu sy'n cael eu dal fel gwystlon, i ddeall a oes angen cymorth pellach.
Ar ffoaduriaid:
Ers 7 Hydref, mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Weinidogion Llywodraeth y DU am gyfleoedd ar gyfer adsefydlu o Gaza i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae'n ymddangos i ni nad oes unrhyw obaith ar hyn o bryd o gael cynllun adsefydlu Gaza ar gyfer y DU. […] [F]el cenedl sy'n dyheu am fod yn genedl noddfa, byddem hefyd yn anelu at chwarae rhan lawn mewn unrhyw gynllun adsefydlu Gaza pe bai un yn cael ei sefydlu.
Rydym wedi bod yn dilyn yr ymgyrch am gynllun aduno ar gyfer teuluoedd Gaza gyda diddordeb brwd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi aduno teuluol, gan helpu'r rhai sydd â statws ffoadur i ddod ag aelodau o'u teulu i Gymru drwy lwybr diogel a chyfreithiol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae atgyfeiriadau i'r prosiect o Gaza yn cael eu cymhlethu gan y rhwystrau rhag gadael Gaza. Mae hanes poenus y rhanbarth yn effeithio ar barodrwydd Palesteiniaid i adael, a pharodrwydd gwledydd cyfagos i ganiatáu mynediad. Mae pryder clir na fydd Palesteiniaid byth yn gallu dychwelyd os ydynt yn gadael nawr.
Nid ydym wedi galw'n benodol am gynllun aduno teuluoedd Gaza. Yn hytrach, rydym wedi galw am fersiwn fwy blaengar o gynllun aduno teuluoedd y DU, sy'n adeiladu ar rai o lwyddiannau cynllun teuluoedd Wcráin sydd bellach wedi cau. Fe wnaeth cynllun Wcráin gefnogi 57,000 o bobl a gyrhaeddodd mewn cyfnod byr iawn, yn bennaf oherwydd bod y diffiniad o 'deulu' yn eang a bod prosesu ceisiadau'n gyflym. Gallai'r un dull hwn ar gyfer Palesteiniaid ac eraill gael effaith fuddiol iawn ar les a diogelwch llawer o deuluoedd.
Mae aduno teuluol yn hanfodol i unrhyw un sy'n ceisio noddfa sy'n byw yng Nghymru, ni waeth ble yn y byd y mae eu haelod teuluol a wahanwyd yn byw. Ein dull gweithredu yw cefnogi cynllun teuluol a allai gefnogi Palesteiniaid neu unrhyw berson arall sydd wedi cael noddfa yma yng Nghymru. Byddwn yn parhau i alw am hyn.
15 Mai: Cyflwyno datganiad o farn (Cofio’r Nakba “Y Trychineb Parhaus”)
John Griffiths AS yn cyflwyno OPIN-2024-0410 76 mlynedd yn ddiweddarach - Cofio'r Nakba "Y Trychineb Parhaus", a gyd-gyflwynir gan Peredur Owen Griffiths AS. Adeg ei gyhoeddi, roedd 11 Aelod wedi llofnodi’r datganiad (gan gynnwys y rhai a’i cyflwynodd). Mae'n darllen fel a ganlyn:
Mae’r Senedd hon:
|
16 Mai: Cyflwyno datganiad o farn (Cydnabod Gwladwriaeth Palesteina)
Peredur Owen Griffiths AS yn cyflwyno OPIN-2024-0387 Cydnabod Gwladwriaeth Palesteina, a gyd-gyflwynir gan John Griffiths AS, Darren Millar AS a Jane Dodds AS. Adeg ei gyhoeddi, roedd 23 Aelod wedi llofnodi'r datganiad (gan gynnwys y rhai a’i cyflwynodd). Mae'n darllen fel a ganlyn:
Mae’r Senedd hon:
|
Erthygl gan Sara Moran a Nigel Barwise, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru