Yn gynnar y llynedd, fe ddaeth i’r amlwg bod cwmnïau ynni yn gorfodi cwsmeriaid i gael mesuryddion rhagdalu wrth i’r cwsmeriaid hynny ei chael hi’n anodd talu costau cynyddol ynni. Tra bod y broses hon wedi'i hoedi ym mis Chwefror 2023, mae rhai cwmnïau ynni wedi cael caniatâd i ailddechrau’r gosodiadau, er bod rheolau newydd yn eu lle.
Roedd ein herthygl flaenorol yn egluro beth yw mesuryddion rhagdalu, pwy y maent yn effeithio arnynt, a faint ohonynt sydd wedi’u gosod yn orfodol. Cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mai, mae'r erthygl hon yn trafod y datblygiadau ers hynny.
Deiseb yn galw am ymchwiliad i'r 'sgandal'
Mewn ymateb i ddeiseb ar y pwnc, cynhaliodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd ymchwiliad i’r hyn a ddisgrifiwyd gan y deisebydd fel ‘sgandal’ mesuryddion rhagdalu yng Nghymru. Roedd adroddiad y Pwyllgor, Gaeaf Cynhesach, yn cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac Ofgem ynghylch cefnogi ac amddiffyn cwsmeriaid, yn ogystal â rhannu data a chyflwyno tariff cymdeithasol.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ac Ofgem ill dau dderbyn argymhellion y Pwyllgor, gan nodi'r camau sydd wedi’u cymryd hyd yma i ddiogelu cwsmeriaid bregus rhag gorfod cael mesuryddion rhagdalu.
Ofgem yn cyflwyno 'cod ymarfer' newydd
Wedi’i gyflwyno i ddechrau ar ffurf cod gwirfoddol ym mis Ebrill 2023, daeth cod ymarfer anwirfoddol ar gyfer mesuryddion rhagdalu gan Ofgem yn ofyniad mandadol ym mis Tachwedd 2023. Mae’r cod yn nodi bod yn rhaid i gyflenwyr ymatal rhag pob gosodiad anwirfoddol ar gyfer y cwsmeriaid hynny sy’n wynebu’r risg uchaf; er enghraifft, aelwydydd sy’n gwneud defnydd parhaus o offer meddygol, aelwydydd sy’n gartref i blant dan 2 oed neu aelwydydd lle mae’r holl drigolion dros 75 oed.
Mae'r cod hefyd yn pennu rheolau ynghylch isafswm nifer yr ymdrechion i gysylltu â chwsmeriaid cyn gosod mesuryddion rhagdalu'n anwirfoddol, gan nodi hefyd fod yn rhaid i’r contractwyr gosod wisgo camerâu corff yn ystod ymweliadau ag aelwydydd a gosod rhwymedigaeth i ailasesu unwaith y bydd dyledion wedi'u talu. Yn ôl Ofgem, mae’n bwriadu adolygu’r cod ymarfer o bryd i'w gilydd i sicrhau ei fod yn amddiffyn y bobl mwyaf agored i niwed.
Codi'r ataliad ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol
Ni all Ofgem wahardd mesuryddion rhagdalu yn gyfan gwbl, na'u gwahardd am gyfnod amhenodol. O gofio hynny, roedd y moratoriwm ar osod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol bob amser yn fesur dros dro. Mae gan gyflenwyr ynni hawl statudol i wneud cais am warant i osod mesuryddion rhagdalu ar gyfer casglu dyledion - byddai newid y drefn hon yn golygu bod yn rhaid cyflwyno deddfwriaeth ar lefel Senedd y DU.
Fodd bynnag, mae gan Ofgem bwerau i addasu amodau trwydded cyflenwyr ynni, y gellir eu defnyddio i reoli’r arfer o osod mesuryddion rhagdalu yn anwirfoddol. Mae wedi gwneud hyn drwy addasu pob trwydded safonol ar gyfer nwy a thrydan i gynnwys yr amodau a nodir yn y cod ymarfer.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Ofgem fod tri chyflenwr ynni wedi bodloni ei amodau, a’u bod felly’n gallu ailgychwyn gosodiadau anwirfoddol fel dewis olaf. Nododd Ofgem ei fod yn mynd ati’n ofalus i ganiatáu cyflenwyr i ailddechrau gosodiadau, gan ychwanegu ei fod wedi bod yn glir ynghylch y rheolau sydd yn eu lle a’r hyn y mae’n ei ddisgwyl gan gyflenwyr.
Oedi wrth dalu iawndal
Mae cyflenwyr ynni wedi bod yn adolygu achosion cwsmeriaid a gafodd mesurydd rhagdalu yn anwirfoddol rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Ionawr 2023, i nodi’r cwsmeriaid sy’n gymwys i gael iawndal.
Dywed Ofgem fod cyflenwyr yn asesu 150,000 o osodiadau anwirfoddol, a bod 1,502 o gwsmeriaid wedi cael iawndal gwerth cyfanswm o £342,450 hyd yma (fel ar 3 Ebrill 2024), gyda chynlluniau yn yr arfaeth i wneud taliadau ychwanegol o tua £200,000 ar gyfer 1,000 o gwsmeriaid eraill. Bydd ffigurau wedi’u diweddaru ar gael ym mis Mehefin 2024. Adroddir bod Claire Coutinho AS, Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net, wedi dweud bod y nifer fach o daliadau iawndal hyd yma yn gwbl annerbyniol.
Yn ôl adroddiad diweddar gan y BBC, nid yw Nwy Prydain, y cyflenwr ynni a ganfuwyd ei fod yn gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol mewn cartrefi cwsmeriaid bregus, wedi'i gynnwys yn y ffigurau iawndal hyn, ond mae'r cwmni’n destun ymchwiliad ar wahân sy’n parhau.
Dod â'r premiwm rhagdalu i ben
Yn draddodiadol, mae cwsmeriaid sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol wedi gallu manteisio ar dariffau rhatach, sy’n golygu bod ynni wedi bod yn ddrutach yn hanesyddol i’r bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu.
Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd y byddai’r 'premiwm rhagdalu' hwn yn cael ei ddileu. I ddechrau, ariannwyd hyn gan Lywodraeth y DU drwy'r cap ar bris ynni – sy’n golygu bod Ofgem yn gallu cyfyngu ar y gost fesul uned ar gyfer trydan a nwy, yn ogystal â gosod cyfyngiadau ar y tâl sefydlog ar gyfer y cyflenwadau hyn, ac ail-werthuso’r camau a gymerir o bryd i'w gilydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyllido cap is i gwsmeriaid sydd â mesuryddion rhagdalu tan fis Ebrill 2024, ac ar ôl hynny mae Ofgem yn rhoi mesurau ar waith i ddileu’r premiwm rhagdalu yn barhaol. Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Ofgem ei benderfyniad ar sut y bydd yn addasu taliadau sefydlog i sicrhau bod dulliau talu yn fwy cyfartal neu’n decach (ond yn llai adlewyrchol o ran cost).
Galwadau i amddiffyn cwsmeriaid bregus drwy dariff cymdeithasol
Mae tariff cymdeithasol yn rhoi gostyngiad ar filiau ynni i rai grwpiau, er enghraifft pobl sydd ar incwm is neu bobl sydd ag anghenion penodol. Yn natganiad yr hydref gan Lywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n mabwysiadu dull newydd o ddiogelu defnyddwyr ynni o fis Ebrill 2024, ac y byddai’n ystyried y ffordd orau o wneud hynny, gan gynnwys opsiynau fel tariffau cymdeithasol. Ysgrifennodd grwpiau ymgyrchu at y Prif Weinidog ym mis Medi 2023 i nodi nad yw hyn wedi digwydd eto.
Argymhellodd y Pwyllgor Deisebau y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi camau i greu tariff cymdeithasol newydd ar gyfer pobl agored i niwed. Er bod Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar y pryd, wedi derbyn yr argymhelliad hwn, aeth ymlaen i nodi: “Cefais gyfarfod â Gweinidog Defnyddwyr Ynni a Fforddiadwyedd y DU ym mis Tachwedd i drafod y mater hwn ac er i mi glywed geiriau cynnes, nid oedd ymrwymiad pendant i ymgynghori na gwneud cyhoeddiad”.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru