map o'r byd

map o'r byd

Newid y gwarchodlu: cysylltiadau rhyngwladol a'r Prif Weinidog newydd

Cyhoeddwyd 14/05/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Prif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething AS, yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru gan fod y mater ym mhortffolio’r Prif Weinidog yn y cabinet newydd.

Ac yntau wedi bod yn gyfrifol am fasnach ryngwladol rhwng 2021-24 fel Gweinidog yr Economi, bydd yn gyfarwydd â’r bensaernïaeth hon, y mae rhywfaint ohoni wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer.

Bu esblygiad proffil rhyngwladol Cymru yn faes diddordeb allweddol i’r Aelodau a’r pwyllgorau.

Mae'r erthygl hon yn cyflwyno ein ffeithlun cysylltiadau rhyngwladol newydd. Mae’n dangos perthnasoedd blaenoriaeth rhyngwladol Llywodraeth Cymru, ei swyddfeydd tramor, ei chytundebau rhyngwladol dwyochrog a blynyddoedd hyrwyddo, i gyd mewn un man am y tro cyntaf. Mae’r trefniadau’n rhychwantu pedwar rhanbarth byd-eang sef, Ewrop, Gogledd America, Asia a’r Dwyrain Canol.

Mae’r ffeithlun yn dangos trefniadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a ddisgrifir yn yr erthygl hon, ar ffurf diagram haul lliwgar.

Cysylltiadau rhyngwladol a datganoli

Mae cysylltiadau rhyngwladol yn fater a gedwir yn ôl, fel y darperir ym mharagraff 10 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae hyn hefyd yn gymwys i fasnach ryngwladol a chymorth datblygu a chydweithredu rhyngwladol.

Fodd bynnag, mae lle o fewn y mater a gedwir yn ôl i Lywodraeth Cymru weithredu mewn swyddogaeth ryngwladol. Er enghraifft mae:

  • yn gallu cwblhau cytundebau nad ydynt yn rhwymol gyda llywodraethau eraill mewn meysydd datganoledig;
  • yn gallu cynnal cyfarfodydd â’i chymheiriaid o wledydd eraill, gan gynnwys eu croesawu i Gymru;
  • â'r pŵer i gyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy'n effeithio ar Gymru; a
  • yn rhaid iddi gadw at rwymedigaethau cyfreithiol rhyngwladol a’u rhoi ar waith.

Mae gan Gymru lawer o gysylltiadau rhyngwladol, y mae rhai ohonynt yn rhagflaenu’r Deyrnas Unedig, a chaiff y rhain eu hadlewyrchu yn ei threfniadau cysylltiadau rhyngwladol.

Gwledydd a rhanbarthau blaenoriaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi perthnasoedd rhyngwladol â blaenoriaeth i Gymru yn ei Strategaeth Ryngwladol (2020-25). Mae yna wledydd a rhanbarthau blaenoriaeth:

  • Gwledydd blaenoriaeth: Yr Almaen, Ffrainc, Iwerddon, UDA a Chanada
  • Rhanbarthau blaenoriaeth: Gwlad y Basg, Llydaw a Fflandrys.

Dewiswyd y rhain:

oherwydd treftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol gyffredin, gwerthoedd cyffredin a buddiannau economaidd a chymdeithasol cyffredin.

Rhoddir sail resymegol fanylach ar gyfer pam y dewiswyd pob partner blaenoriaeth. Er enghraifft, mae'n dweud bod yr Almaen a Ffrainc yn bartneriaid masnachu pwysig ac mai Iwerddon yw cymydog Ewropeaidd agosaf Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn canolbwyntio ei hymdrechion ar y mannau hyn ond mae'n cydnabod bod ganddi drefniadau mewn mannau eraill, sydd hefyd i'w gweld ar ein ffeithlun.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (“y Pwyllgor”) yn monitro cynnydd yn ôl y Strategaeth Ryngwladol, gan gynnwys drwy gynnal sesiynau craffu blynyddol gyda'r Prif Weinidog.

Y berthynas rhwng Cymru a’r UE

Mae’r cyn Brif Weinidog a’r Prif Weinidog newydd (y Prif Weinidog newydd yn ei rôl flaenorol) yn aml wedi amlygu arwyddocâd yr UE i Gymru, gan ei ddisgrifio “ymhlith ein perthnasoedd pwysicaf, mwyaf sefydledig” a’r “partner masnachu agosaf a phwysicaf”, yn y drefn honno.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Pwyllgor argymhellion allweddol ar gyfer perthynas Cymru â’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys galw am strategaeth benodol ar gyfer yr UE, ac i’r UE gael ei chynnwys fel perthynas flaenoriaeth. Ymatebodd Mark Drakeford AS, y cyn Brif Weinidog, gan ddweud y gallai dimensiwn Ewropeaidd y Strategaeth Ryngwladol gael “ei wneud yn fwy eglur” pan gaiff ei adnewyddu yn 2025.

Ym mis Tachwedd hefyd, fe wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynegi gweledigaeth glir a blaenoriaethau strategol ar gyfer cysylltiadau â’r UE, naill ai mewn strategaeth yr UE benodol neu yn y Strategaeth Ryngwladol ddiwygiedig. Dywedodd y cyn Brif Weinidog nad oedd yn credu bod angen strategaeth yr UE ar wahân bryd hynny.

Mater i’r Prif Weinidog newydd yw penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r materion hyn.

Swyddfeydd tramor

Mae gan Lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd tramor mewn 12 gwlad (mae ei swyddfa yn Llundain wedi'i chynnwys yn y niferoedd hyn).

Mae gan bob swyddfa gylch gwaith, a nodir mewn dogfen ddyddiedig 2020, i gyflawni dyheadau’r Strategaeth Ryngwladol. Sef:

  1. Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol;
  2. Tyfu economi Cymru drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad; a
  3. Sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae’r ddogfen yn egluro sut mae pob swyddfa:

yn rhoi pwyslais gwahanol ar bob uchelgais i adlewyrchu’r elw a’r perthnasedd posibl i’r farchnad maen nhw’n gweithio ynddi. Bydd gan bob swyddfa gylch gwaith cyffredin i ddod o hyd i gyfleoedd denu mewnfuddsoddiad, i nodi cyfleoedd masnach ac adeiladu a chreu rhwydweithiau cryf o Gymry ar wasgar yn eu marchnadoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau rhwydwaith tramor blynyddol. Mae dau wedi bod hyd yma, sef ar gyfer 2021-22 a 2022-23.

Cytundebau rhyngwladol dwyochrog

Gall Llywodraeth Cymru ddod â chytundebau nad ydynt yn rhwymol, fel Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, cynlluniau gweithredu ar y cyd a chytundebau cyfeillgarwch, i ben mewn meysydd datganoledig. Mae ganddi gytundebau â gwledydd, rhanbarthau a dinasoedd.

Dangosir wyth o'r cytundebau hyn ar dudalen we bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru a sefydlwyd ar gais y Pwyllgor. Mae’r cytundebau ar y dudalen we ag:

  1. Iwerddon
  2. Quebec
  3. Gwlad y Basg
  4. Oita Prefecture
  5. Fflandrys
  6. Llydaw
  7. Baden-Württemberg
  8. Silesia

Nid yw cytundebau eraill, fel cytundeb recriwtio gofal iechyd newydd Llywodraeth Cymru gyda thalaith Kerala, India, a'i chytundeb cyfeillgarwch rhyngwladol gyda dinas Birmingham, Alabama yn yr Unol Daleithiau, ar y dudalen we.

'Cymru mewn' blynyddoedd hyrwyddo

Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar bartner rhyngwladol gwahanol bob blwyddyn ers 2021. Hyd yma, y partneriaid fu yr Almaen (2021), Canada (2022) a Ffrainc (2023).

Y nod yw dangos y cysylltiadau rhwng Cymru a'r gwledydd hyn drwy gymorth rhaglen gynlluniedig o weithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu’r cysylltiadau hyn.

2024 yw blwyddyn 'Cymru yn India', y mae'r cynlluniau ar eu cyfer wedi'u crynhoi mewn erthygl arall.

Cymru ac Affrica

Yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ryngwladol mae pum cynllun gweithredu, ac un o’r rhain yw 'Cymru ac Affrica'. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i bartneriaethau yn rhanbarth Is-Sahara Affrica sy'n cynorthwyo Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys y nod o drechu tlodi.

Er bod Llywodraeth Cymru yn egluro mai ei chysylltiadau cryfaf ar y cyfandir yw Lesotho ac Uganda, nid oes ganddi’r trefniadau a ddisgrifir uchod, fel cytundebau dwyochrog a swyddfeydd tramor, yn Affrica.


Erthygl gan Sara Moran a Ahmed Ahmed, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru