Fel rhan o'i chynlluniau sero net, mae'r UE yn newid sut mae'n trin mewnforion o ddiwydiannau carbon-ddwys. Bydd y newidiadau yn berthnasol i rai diwydiannau i ddechrau, ond yn y pen draw, byddant yn berthnasol i holl fewnforion yr UE.
Mecanwaith Addasu Ffin Carbon yr UE (CBAM) yw’r dreth ffin 'cyntaf yn y byd' ar garbon. Mae’r dreth wedi'i chynllunio i atal "gollyngiadau carbon", lle mae cwmnïau'n symud cynhyrchiant i leoedd sydd â rheolau hinsawdd llai llym er mwyn osgoi mesurau lleihau allyriadau domestig, neu pan fydd nwyddau domestig yn cael eu disodli gan fewnforion mwy carbon-ddwys. Gall ymdrechion domestig i leihau allyriadau gael eu tanseilio, a gall swyddi gael eu colli, tra bod ôl troed carbon y wlad yn aros yr un fath, neu hyd yn oed yn tyfu.
Gallai CBAM olygu newidiadau mawr i allforion Cymru i'r UE. Rhaid i fewnforwyr yr UE adrodd faint o allyriadau a ryddhawyd wrth iddynt gynhyrchu eu mewnforion ac, o 2026, talu ffioedd ychwanegol yn seiliedig ar lefelau’r allyriadau hyn.
Gyda gwerth 59.5% o allforion Cymru yn mynd i’r UE, mae Llywodraeth Cymru yn aml yn disgrifio'r bloc fel ein "partner masnachu pwysicaf".
Mae'r erthygl hon yn cyflwyno CBAM yr UE, ac yn esbonio pam ei fod yn bwysig.
Hanfodion CBAM yr UE
Mae'r UE eisiau bod yn garbon niwtral erbyn 2050 fel rhan o'i Bargen Werdd Ewrop. Un targed ar hyd y ffordd yw sicrhau gostyngiad net o 55 y cant mewn allyriadau erbyn 2030. Hefyd, y mis diwethaf, cyhoeddodd yr UE fap ffordd ar gyfer ei thargedau ar gyfer 2040.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn dweud bod yr UE mewn mwy o berygl o ollwng carbon wrth iddi ddod yn ‘arweinydd hinsawdd byd-eang’. Mae'n cadw rhestr o sectorau ac is-sectorau sydd mewn perygl o ollwng carbon, sy'n cynnwys dur, petrol a glo.
Mae'r UE yn credu y bydd CBAM yn dod â phris carbon ei mewnforion yn unol â phris carbon nwyddau'r UE, gan ei gwneud yn llai deniadol symud cynhyrchiant dramor.
Bydd taliadau CBAM yn seiliedig ar Gynllun Masnachu Allyriadau yr UE (ETS). Mae ETS yr UE yn rhoi swm o allyriadau rhad ac am ddim i rai sectorau cyn iddynt orfod prynu lwfansau ychwanegol i barhau i allyrru. Mae rhai diwydiannau carbon-ddwys yr UE yn cael cyfran uwch o lwfansau allyriadau ETS rhad ac am ddim i ddiogelu eu gallu i gystadlu, ond bydd y rhain yn cael eu diddymu’n raddol rhwng 2026-2034.
Diwydiannau CBAM
Bydd CBAM yn berthnasol i chwe diwydiant i ddechrau:
- Haearn a dur;
- Sment;
- Gwrteithiau;
- Alwminiwm;
- Cynhyrchu trydan; a
- Hydrogen.
Ers 1 Hydref 2023, mae mewnforwyr yr UE wedi gorfod adrodd am allyriadau a briodolir i'w mewnforion.
O 1 Ionawr 2026, bydd taliadau ychwanegol yn berthnasol yn seiliedig ar allyriadau'r mewnforio. Bydd y gost ychwanegol yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio'r pris cyfartalog arwerthiant wythnosol o allyriadau ETS yr UE. Bydd hyn yn cynyddu wrth i lwfansau rhad ac am ddim gael eu diddymu’n raddol.
Sut fydd hyn yn effeithio ar Gymru?
Yr UE yw partner masnachu mwyaf Cymru ac mae'n dibynnu mwy ar fasnach yr UE na chenhedloedd eraill y DU. Mae'r ystadegau masnach diweddaraf yn dangos bod gwerthoedd allforion i’r UE yn cyfrif am tua 59.% o allforion Cymru o gymharu â 50.4% ar gyfer y DU.
Mae CBAM yn golygu newidiadau i allforwyr o Gymru sy’n allforio i'r UE. Efallai y bydd angen iddynt ddarparu gwybodaeth ychwanegol i gwsmeriaid yr UE i'w helpu i gyflawni dyletswyddau adrodd allyriadau newydd. Gallai hyn fod yn wybodaeth fasnach, fel codau gwlad, neu wybodaeth amgylcheddol, fel symiau allyriadau.
Mae diwydiant dur y Deyrnas Unedig yn pryderu y gallai dur a fyddai wedi cael ei werthu i'r UE o wledydd eraill gael ei ddargyfeirio a'i ddympio yn y DU yn lle hynny, gan orfodi diwydiant dur Cymru i gystadlu â mewnforion rhad.
Efallai yn fwyaf arwyddocaol, gallai datgarboneiddio i osgoi/lleihau taliadau CBAM ac aros yn gystadleuol ddod yn ystyriaeth frys.
Yn ogystal â'r nwyddau eu hunain, canfu adroddiad gan y Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol (CITP) fod gan Gymru gyfran uwch o bobl mewn cyflogaeth yn niwydiannau CBAM nag unrhyw ranbarth arall yn y DU. Felly, mae'n ymddangos yn debygol iawn o effeithio ar gyflogaeth yng Nghymru, a hynny’n fwy difrifol nag mewn mannau eraill. Canfu hefyd, gan fod gan bob un ond un o'r rhanbarthau mwyaf agored i niwed o ran cyflogaeth y cynhyrchiant llafur isaf yn 2021, y gallai CBAM hefyd waethygu anghydraddoldeb daearyddol ymhellach a gwanhau effeithiolrwydd rhaglen ffyniant bro y DU.
Allforion nwyddau CBAM
Mae cyfrifo allforion nwyddau CBAM o Gymru yn gymhleth oherwydd nid yw ystadegau allforio’r DU yn cyd-fynd yn llwyr â’r rhestr nwyddau CBAM yn Rheoliad yr UE.
'Haearn a dur' sy’n alinio’n agosaf at ei gilydd. Yn ôl yr ystadegau masnach 2023, allforiodd Cymru werth £913.7 miliwn o haearn a dur i'r UE. Mae Tata Steel yn bwriadu cau ei ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd 2024 wrth i’r safle symud tuag at ddefnyddio ffwrneisi arc drydan. Mae Tata wedi dweud y bydd yn mewnforio dur o’r Iseldiroedd ac India am y tro, yn hytrach na defnyddio dur crai o Bort Talbot, er mwyn iddo allu parhau i greu cynnyrch yn ei safleoedd eilaidd tra bydd y ffwrnais arc drydan newydd yn cael ei hadeiladu.
Mae categorïau eraill yn fwy cymhleth. Ar gyfer 'cynhyrchu trydan', allforiodd Cymru £932.7 miliwn mewn peiriannau cynhyrchu pŵer a £447.5 miliwn mewn peiriannau, offer a darnau o eitemau trydanol i'r UE a allai arwain at ffioedd CBAM. Ond roedd Cymru yn allforiwr net o drydan adnewyddadwy i Ewrop yn 2022, a fyddai'n debygol o osgoi CBAM. Fe wnaeth Cymru hefyd allforio cerrynt trydan i’r UE, gwerth £160.5 miliwn.
Mae alwminiwm yn gategori cymhleth arall. Allforiodd Cymru £455.8 miliwn mewn metelau anfferrus, £249.0 miliwn mewn metelau a weith gynhyrchwyd, a £61.1 miliwn mewn mwynau metelaidd a metel sgrap yn ystod 2023, a gallai pob un o’r rhain gynnwys alwminiwm.
Y camau nesaf ar gyfer y DU
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i gyflwyno CBAM y DU erbyn 2027, a fydd yn berthnasol i’r cyfan ond un o ddiwydiannau CBAM yr UE (bydd CBAM y DU yn berthnasol i wydr a serameg yn lle cynhyrchu trydan). Dangosodd data pleidleisio o fis Tachwedd bod 73% o weithgynhyrchwyr y DU yn cefnogi CBAM y DU a 70% yn cefnogi ei alinio â CBAM yr UE. Nid oes sôn am gysylltu’r ddau yng nghynigion diweddaraf y DU, a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth.
Bydd y manylion yn cael eu cwblhau eleni ond mae CBAMs wedi ffurfio rhan o drafodaethau ar ddyfodol dur Cymru ym Mhwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, gan gynnwys gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies.
Mae UK Steel, sy'n cefnogi CBAM y DU yn gryf, eisoes wedi rhybuddio ei fod yn bryderus iawn y bydd bwlch o flwyddyn rhwng dyddiadau dechrau CBAMs y DU a’r UE. Mae'n amcangyfrif y gallai 23 tunnell fetrig o ddur gael ei ddympio yn y DU yn y ffenestr hon.
Yng nghyfarfod diwethaf cyd-senedd y DU a’r UE, y Cynulliad Partneriaeth Seneddol (PPA), adleisiodd Huw Irranca-Davies AS a Sam Kurtz AS y pryderon hyn.
Mae llawer o oblygiadau CBAM yr UE a'r DU yn anhysbys. Er enghraifft, nid ydym yn gwybod a allai mewnforwyr o'r UE newid o allforwyr o Gymru i gyflenwyr yr UE cyn efallai y bydd gan CBAM y DU gyfle i sicrhau tegwch.
Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod CBAMs wedi'u cynllunio i atal gollyngiadau carbon, gan orfodi'r mater ynghylch a ddylid datgarboneiddio i barhau’n gystadleuol.
Mae un peth yn sicr: nid yw ras yr UE i sero net yn ras ar gyfer yr UE yn unig.
Erthygl gan Sara Moran a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru