Dyma'r cwestiwn mawr yr ydym yn disgwyl i Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, ei ateb pan fydd yn gwneud datganiad i’r Senedd ddydd Mawrth 10 Tachwedd.
Disgwylir i’r Gweinidog egluro dull Llywodraeth Cymru ar gyfer cymwysterau yn 2021, gan ei bod yn anochel y bydd cymwysterau yn fater proffil uchel yn sgil yr helynt yn eu cylch ledled y DU yn 2020.
Helynt cymwysterau haf 2020
Oherwydd y coronafeirws, roedd gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd y dyfarnwyd cymwysterau yn 2020.
Ym mis Mawrth dywedodd y Gweinidog na fyddai cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer haf 2020 yn digwydd. Roedd 'gradd deg' i fod i gael ei dyfarnu i ddysgwyr, 'gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael'.
Yn hytrach na dyfarnu graddau ar sail arholiadau, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai’r bwrdd arholi, CBAC yn dyfarnu graddau dysgwyr ar sail gwybodaeth a gyflwynasid gan ysgolion a cholegau. Yna byddai'r 'Graddau Asesu Canolfannau' yn cael eu 'safoni' o dan fodelau safoni CBAC, wedi’u cymeradwyo gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru.
Ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, 12 Awst, cyhoeddodd y Gweinidog newid cyfeiriad fel y byddai dysgwyr yn cael yr un radd yn awtomatig ag a gawsant ar gyfer eu Safon UG, lle yr oedd honno’n uwch na'r radd safonedig a roddwyd gan CBAC. Erbyn hyn, roedd canlyniadau eisoes wedi cael eu dosbarthu i’r ysgolion, felly golygodd y byddai'n rhaid i'r dysgwyr dan sylw aros i’r graddau newydd gael eu cyhoeddi. Cafodd hyn, yn ei dro, effaith ar dderbyniadau addysg uwch.
Bum diwrnod yn ddiweddarach, ar 17 Awst, cyhoeddodd y Gweinidog newid arall. Byddai graddau yng Nghymru bellach yn cael eu dyfarnu ar sail y wybodaeth yr oedd ysgolion a cholegau wedi'i chyflwyno i CBAC, (y Graddau Asesu Canolfannau), lle'r oedd y graddau hyn yn uwch na'r rhai safonedig.
Gallwch ddarllen cefndir llawn y stori hon yn ein blog:
- Coronafeirws: cymwysterau, 7 Awst
- Coronafeirws: newidiadau i’r ffordd y dyfernir cymwysterau Safon Uwch, 14 Awst, a
- Coronafeirws: rhagor o newidiadau i ganlyniadau arholiadau’r haf, 17 Awst.
Beth yw'r opsiynau ar gyfer arholiadau 2021?
Yn sgil y gyfres o ddigwyddiadau yn ymwneud â chanlyniadau Awst 2020, roedd pryderon sylweddol ynghylch yr effaith ar lesiant ac addysg dysgwyr unigol. Mae hefyd wedi arwain at bryderon na ddylai’r canlyniadau uwch na'r arfer yn 2020 roi dysgwyr sydd i fod i sefyll arholiadau yn 2021 o dan anfantais.
Yn ôl ym mis Gorffennaf 2020, roedd y Gweinidog yn obeithiol y gallai arholiadau fynd yn eu blaenau yn 2021, gan ddweud:
It is absolutely my hope and it is my belief that the examination series next summer needs to go ahead, but we need to recognise that some modifications will be necessary for that to be fair.
Ym mis Awst 2020, comisiynodd y Gweinidog adolygiad annibynnol, gan benodi Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, yn gadeirydd arno. Pwrpas yr adolygiad oedd ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd ar ôl i arholiadau 2020 gael eu canslo a gwneud argymhellion ar gyfer dulliau gweithredu yn 2021. Gofynnwyd i Louise Casella ganolbwyntio ar anghenion dysgwyr a'u dilyniant, ac ar yr angen i gynnal safonau ac uniondeb y system addysg a chymwysterau.
Cafodd adroddiad interim yr Adolygiad Annibynnol ei gyhoeddi ar 29 Hydref 2020, a disgwylir yr adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr. Mae'n argymell na ddylid trefnu unrhyw arholiadau, ac y dylid asesu trwy ddefnyddio asesiad wedi'i gymedroli yn lleoliad addysg y dysgwr.
Gofynnwyd i Gymwysterau Cymru hefyd roi cyngor pellach i'r Gweinidog ar sut y dylid cynnal asesiadau yn 2021, o gofio'r tarfu parhaus yn sgil COVID-19. Cyhoeddodd lythyr o gyngor at y Gweinidog ar drefniadau asesu ar gyfer 2021 ar yr un dydd ag y cyhoeddwyd 'adroddiad interim Casella'. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn argymell peidio â bwrw ymlaen ag arholiadau TGAU a Lefel UG, ond heblaw am hynny, mae'n nodi dull gwahanol i adroddiad interim Casella. Yn hytrach, mae'n argymell defnyddio pedwar math o asesiadau, gyda thri ohonynt yn cael eu gosod yn allanol a'u marcio gan CBAC. Fodd bynnag, er na fyddai arholiadau TGAU yn cael eu gosod, mae Cymwysterau Cymru yn argymell y dylai fod un arholiad i bob Safon Uwch, a’r arholiadau hynny’n cael eu gosod yn allanol a’u marcio.
Gwaith craffu yn y Senedd
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) wedi bod yn edrych yn fanwl ar yr hyn sydd wedi digwydd ers mis Mawrth. Cynhaliodd gyfarfod brys ym mis Awst 2020 i glywed gan y Gweinidog am yr hyn a oedd wedi digwydd. Yn ei gyfarfod ar 12 Tachwedd, bydd y Pwyllgor yn trafod yn fanylach y penderfyniadau y mae'r Gweinidog wedi'u cyhoeddi, a bydd yn clywed gan Gymwysterau Cymru, CBAC, Louise Casella, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a CholegauCymru. Mae’r Pwyllgor Deisebau hefyd wrthi yn ystyried deisebau sy'n galw am i arholiadau TGAU a Safon Uwch gael eu canslo yn 2021 ac i sicrhau tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021.
Penderfyniad y Gweinidog
Mae’r Adolygiad Annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a'r cyngor gan Gymwysterau Cymru ill dau yn egluro buddion a risgiau'r dulliau a argymhellir ganddynt. Ni wyddys eto a yw'r Gweinidog wedi penderfynu ar y naill ddull arfaethedig neu’r llall, ynteu a yw hi wedi dewis model amgen. Heb os, un o’r prif ffactor fydd cadw’r ddysgl yn wastad rhwng llesiant dysgwyr â'r angen i gynnal safonau addysgol a hyder yn y system.
Gallwch wylio'r Gweinidog yn traddodi ei datganiad Senedd.tv am tua 14.30 ddydd Mawrth 20 Hydref.
Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru