Mae'r Uned Craffu Ariannol yn cynnig gwaith dadansoddi annibynnol i gynorthwyo pwyllgorau'r Senedd wrth iddynt graffu ar faterion ariannol ac i gefnogi gwaith Aelodau unigol ar dueddiadau a materion cyllidebol. Mae hyn yn cynnwys gwaith costio annibynnol ar gyfer cynigion gwariant penodol, a gwneud gwaith ymchwil ar bob agwedd ar yr economi a chyllid cyhoeddus fel y maent yn effeithio ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd.
Cyllidebau Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn ystod yr hydref.
Rôl y Senedd yw craffu ar bob un o'r cyllidebau hyn.
Cyllid canlyniadol Barnett ers Adolygiad o Wariant 2015 (Saesneg yn unig).
Gweld offeryn treth incwm.