Mae'r Uned Craffu Ariannol yn cynnig gwaith dadansoddi annibynnol i gynorthwyo pwyllgorau'r Senedd wrth iddynt graffu ar faterion ariannol ac i gefnogi gwaith Aelodau unigol ar dueddiadau a materion cyllidebol. Mae hyn yn cynnwys gwaith costio annibynnol ar gyfer cynigion gwariant penodol, a gwneud gwaith ymchwil ar bob agwedd ar yr economi a chyllid cyhoeddus fel y maent yn effeithio ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd.

Cyllidebau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn ystod yr hydref.

Rôl y Senedd yw craffu ar bob un o'r cyllidebau hyn.

Gwybodaeth am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2024-25

YMCHWIL ERTHYGLAU