Beth yw Fformiwla Barnett?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Defnyddir fformiwla Barnett i bennu'r newid blynyddol a wneir i grantiau bloc y tair gweinyddiaeth ddatganoledig. Os bydd Llywodraeth y DU yn newid gwariant yn Lloegr mewn maes sydd wedi'i ddatganoli'n llawn neu'n rhannol, bydd grant bloc Cymru yn newid.  Yn aml, y term a roddir i'r arian hwn yw 'arian canlyniadol'. 

Cyflwynodd y Fframwaith Cyllidol ffactor sy'n seiliedig ar angen i gymhwyso fformiwla Barnett yng Nghymru.  O 2018-19, bydd y cynyddrannau a drosglwyddir i gyllideb Cymru o Fformiwla Barnett yn 5% yn fwy nag y byddent wedi bod o dan y fformiwla flaenorol.  Yn 2017, cyfrifwyd bod y cyllid cymharol y person yng Nghymru oddeutu 120% o'r hyn ydyw yn Lloegr.  Os bydd hyn, yn y dyfodol, yn is na 115%, yna bydd y ffactor sy'n seiliedig ar angen yn cael ei newid i 115%.​