Faint o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli tua  £6 biliwn yn flynyddol. Cyfanswm y gwariant cyhoeddus amcangyfrifedig yng Nghymru yw £38 biliwn (tua 5% o gyfanswm gwariant cyhoeddus y DU).

Er bod llawer o wasanaethau cyhoeddus wedi'u datganoli, mae Llywodraeth y DU yn parhau i reoli dros hanner  yr arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, ee, gwariant ar y system les.  Mae'n anodd priodoli rhannau o wariant Llywodraeth y DU, fel yr arian a gaiff ei wario ar amddiffyn a materion tramor, i un ardal ddaearyddol.