Pryd a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn pennu ei Chyllideb?

Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb bob blwyddyn drwy broses sy’n cynnwys nifer o gamau. Mae tair elfen i’r broses o osod cyllideb:

  • Cynigion y gyllideb ddrafft: caiff cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru eu cyflwyno gan ganiatáu i’r Senedd graffu arnynt a chynnig gwelliannau.
  • Cynnig y gyllideb derfynol a’r gyllideb ddrafft: ceisio cymeradwyaeth ffurfiol y Senedd i ddefnyddio adnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol.
  • Cynnig y gyllideb atodol: ceisio cymeradwyaeth ar gyfer newidiadau yn ystod y flwyddyn i gynnig y gyllideb flynyddol.

Fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’i chyllideb ddrafft yn nhymor yr hydref bob blwyddyn. Bydd pwyllgorau, ac eraill sydd â diddordeb, yn craffu ar y gyllideb ddrafft. Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyllideb ddrafft, a bydd y Senedd gyfan yn pleidleisio ar gynnig y gyllideb flynyddol. 

Weithiau, bydd Adolygiad o Wariant neu gyhoeddiad Cyllidebol gan y DU yn golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno’i chyllideb yn ddiweddarach yn y flwyddyn.   

Llinell Amser Cyllideb Llywodraeth 2025-26

Mehefin 2024 – Pwyllgor Cyllid

Digwyddiad rhanddeiliaid cyn y Gyllideb Ddrafft yng Nghaerfyrddin

Mehefin/Gorffennaf 2024 – Pwyllgor Cyllid

Ymgysylltu pellach â dinasyddion

17 Gorffennaf 2024 – Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn

Dadl y Pwyllgor Cyllid yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru

Medi 2024 – Galwad agored am dystiolaeth gan y Pwyllgor Cyllid

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymgynghoriad i lywio gwaith craffu diweddarach ar y Gyllideb Ddrafft ym mhwyllgorau’r Senedd

30 Hydref 2024 - Datganiad hydref y DU

10 Rhagfyr 2024 - Cyllideb ddrafft amlinellol a manwl

Cyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol a manwl yn dangos cynlluniau ariannu, gwariant a threthi. Pwyllgorau polisi a Chyllid yn craffu arni

3 Chwefror 2025 – Dyddiad cau i’r holl bwyllgorau ar gyfer cyflwyno adroddiad

4 Chwefror 2025 – Dadl ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn

25 Chwefror 2025 – Cyhoeddi’r Gyllideb Derfynol

4 Mawrth 2025 – Dadl ar y Gyllideb Derfynol