Yn dilyn datganoli tua £2.5 biliwn o refeniw treth erbyn 2019, bydd grant bloc Cymru yn cael ei dorri gan swm cyfatebol. Wrth edrych ymlaen, bydd y ffordd y caiff y grant bloc ei addasu bob blwyddyn yn dibynnu ar newidiadau i refeniw treth cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly bydd perfformiad cymharol refeniw treth Cymru yn cael effaith uniongyrchol ar faint y gall Llywodraeth Cymru ei wario yn y gyllideb. Nodir y model addasu grant bloc yn y fframwaith cyllidol i Gymru.
Sut y caiff y grant bloc ei addasu i gyfrif am ddatganoli treth?
Cyhoeddwyd 30/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau