Offeryn treth incwm

Cyhoeddwyd 24/01/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/10/2024   |   Amser darllen munudau

Ers 6 Ebrill 2019, gostyngodd cyfraddau treth incwm a delir ar incwm di-gynilion a di-ddifidend ('NSND') gan drethdalwyr Cymru 10c yn y bunt a disodlwyd hwy gan Gyfraddau Treth Incwm Cymru.

Rhagwelir y bydd cadw cyfraddau treth sy’n cael eu talu gan drethdalwyr Cymru heb eu newid drwy osod cyfradd o 10c ym mhob band yn codi dros £2 biliwn i Lywodraeth Cymru yn 2024-25. Mae hyn yn seiliedig ar ddata a rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer mis Rhagfyr 2023.

Mae’r model hwn wedi’i ddiweddaru gan Ymchwil y Senedd yn seiliedig ar ddadansoddi a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru ac ymchwilwyr o dîm Dadansoddi Cyllidol Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Defnyddiwch y rheolyddion i amrywio’r cyfraddau treth incwm a’r newidiadau ymddygiadol ac i weld yr effeithiau amcangyfrifedig ar refeniw treth incwm Llywodraeth Cymru. Rhowch eich incwm trethadwy blynyddol i weld faint yr ydych yn ei dalu, neu y byddech yn ei dalu, i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Amcangyfrifydd Refeniw Llywodraeth Cymru

AILOSOD Y RHEOLYDDION
Cyfanswm y refeniw yn eich model
Y gwahaniaeth rhwng eich model a ffigurau cyfredol
Y Gyfradd Sylfaenol: £12,571 i £50,270 y flwyddyn
+

10c

-
Ymateb ymddygiadol*
I ffwrdd
£2374.9m
£0.0m
Y Gyfradd Uwch: £50,271 i £125,140 y flwyddyn
+

10c

-
Ymateb ymddygiadol*
I ffwrdd
£2374.9m
£0.0m
Y Gyfradd Ychwanegol: £125,141+ y flwyddyn
+

10c

-
Ymateb ymddygiadol*
I ffwrdd
£2374.9m
£0.0m
Cyfanswm:
£2374.9m
£0.0m

Fy incwm trethadwy

Nodwch eich incwm trethadwy ac eithrio lwfansau a rhyddhadau.
Amcangyfrif o’r swm y byddech yn ei dalu i Lywodraeth y DU
Amcangyfrif o’r swm y byddech yn ei dalu i Lywodraeth Cymru
0 (0%)
0 (0%)

 

*Pe bai Llywodraeth Cymru yn newid cyfraddau treth incwm yng Nghymru, mae’n debyg y byddai rhywfaint o ymateb ymddygiadol gan drethdalwyr Cymru. Mae ymatebion ymddygiadol posibl yn cynnwys mwy o ddefnydd o gynllunio treth, osgoi neu efadu trethi, unigolion yn chwilio am wahanol swyddi neu’n newid nifer yr oriau y maent yn eu gweithio, a / neu ymfudo i mewn ac allan o Gymru. Mae graddau ac effeithiau’r newid ymddygiadol sydd i’w ddisgwyl yn ansicr iawn ond er hynny, mae'n rhaid ei ystyried wrth bennu polisi treth incwm. Nid yw ymfudo wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad o ymateb ymddygiadol.

Noder bod ‘Fy Incwm Trethadwy’ yn adlewyrchu lwfansau 2024-25 yn Natganiad y DU ar gyfer Hydref 2023.

Gweler Adroddiad Sylfaen Dreth Cymru, Gorffennaf 2018 ar gyfer methodoleg.