Mae’r Senedd yn dibynnu ar arbenigedd a gwaith ymchwil o’r radd flaenaf i ddeddfu, trafod materion pwysig a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
‘Cyfnewid gwybodaeth’ yw rhannu syniadau, tystiolaeth a phrofiad rhwng ymchwilwyr a defnyddwyr gwaith ymchwil – sef, yn yr achos hwn, Aelodau o’r Senedd (ASau) a staff y Senedd.
Mae’r Senedd yn cynnig nifer o gyfleoedd i ymchwilwyr o brifysgolion, melinau trafod a sefydliadau ymchwil eraill gyfrannu at ei gwaith.
Ymchwil y Senedd yw’r gwasanaeth ymchwil mewnol ar gyfer Aelodau o’r Senedd a phwyllgorau’r Senedd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ymchwilwyr o Gymru a thu hwnt i ymestyn, dyfnhau ac ehangu’r ystod o dystiolaeth a ddefnyddir i lywio’r drafodaeth ddemocrataidd.
Hefyd, rydym yn llunio adnoddau i gefnogi’r broses o gyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd rhwng y gymuned ymchwil a’r Senedd.
Darllenwch ragor am ddull y Senedd o gyfnewid gwybodaeth yn ein strategaeth.
Gallwch gofrestru i’n rhestr bostio i gael diweddariadau ar raglen cyfnewid gwybodaeth y Senedd, gan gynnwys cyfleoedd ymgysylltu newydd (megis ymgyngoriadau pwyllgor, cymrodoriaethau, a rolau cynghori arbenigol), adnoddau, hyfforddiant, a digwyddiadau.