Lluniodd Ymchwil y Senedd restr o arbenigwyr i gyflwyno gwaith ymchwil a rhoi sesiynau briffio ynghylch penderfyniad y DU i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Fframwaith Ymchwil ynghylch Brexit yn caniatáu i’r Senedd gytuno ar gontractau yn ôl y gofyn gyda’r rhestr hon o arbenigwyr pan fo angen gwaith ymchwil a phapurau briffio arbenigol.
Mae’r detholiad a ganlyn o waith wedi’i gyhoeddi hyd yma o dan y fframwaith hwn:
- Cynlluniau rheoli tir yn seiliedig ar ganlyniadau: dadansoddiad o astudiaeth achos (Tachwedd 2018)
- Asesu a chrynhoi goblygiadau’r cytundeb ymadael drafft i Gymru, a gyhoeddwyd ar ffurf Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (Tachwedd 2018)
- Sut y gallai newidiadau yn yr economi wledig ar ôl Brexit effeithio ar anghydraddoldebau gofal iechyd/iechyd yng Nghymru wledig (Chwefror 2019)