Ar 22 Hydref bydd y Senedd yn penderfynu p’un a fydd cyfraith newydd sy'n gwneud newidiadau i iechyd a gofal cymdeithasol plant ac oedolion yn symud gam yn nes i gael ei gwireddu. Rhai o'r newidiadau mwyaf y byddai Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn eu cyflwyno yw:
- rhoi mesurau ar waith i atal darparwyr llety ar gyfer gwasanaethau i blant mewn gofal rhag gwneud elw; a
- gwneud Taliadau Uniongyrchol yn bosibl ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
Mae ein crynodeb o'r Bil yn egluro'r newidiadau hyn a newidiadau arfaethedig eraill i'r gyfraith.
Yn yr erthygl gyntaf hon o ddwy, edrychwn ar y prif effaith y gallai’r Bil hwn ei chael ar blant a phobl ifanc. Mae ein hail erthygl yn edrych ar effaith y Bil ar oedolion a phobl anabl. Bydd y ddwy yn nodi themâu allweddol o adroddiad Pwyllgor ar gyfnod cyntaf proses ddeddfwriaethol y Senedd.
Nid yw gwneud dim yn opsiwn
Eglurodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS, y rhesymeg dros y ddeddfwriaeth hon drwy ddweud nad yw gwneud dim yn y maes hwn yn opsiwn i’r Llywodraeth. Aeth ymlaen i ddweud nad yw plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal am gael eu trin fel nwyddau a bod costau’r system bresennol yn anghynaliadwy i awdurdodau lleol, gan egluro:
“In 2016-17, I think the cost to local authorities of looked-after children was around £65 million. We’ve seen that increase in less than 10 years to nearly £200 million; that’s a 300 per cent increase. Somewhere in the region of 20 per cent to 25 per cent of that is being extracted as private profit (…) if we continue on this trajectory, we are going to see within another 10 years potential costs for looked-after children approaching £1 billion.”
Sut y bydd y Bil yn 'cyfyngu' ar elw a phryd?
Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fod yn endid "nid-er-elw", fel a ddiffinnir yn ei Femorandwm Esboniadol (ME). Y darparwyr hyn yn unig gaiff ddarparu lleoliadau yn gyfreithlon.
- Y bwriad yw, o fis Ebrill 2026, y bydd yn rhaid i ddarparwyr newydd sy’n cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fod â statws “nid-er-elw”.
- O fis Ebrill 2027, bydd trefniadau pontio ar gyfer y ddarpariaeth “er elw” bresennol (bydd rhai eithriadau).
- Mae pwerau yn y Bil i atal endidau 'er elw' rhag rhoi llety i unrhyw blentyn newydd ar ôl dyddiad penodol (sydd eto i'w nodi). Mae'r Gweinidog wedi dweud y gallai fod dyddiadau terfyn gwahanol i awdurdodau lleol bontio: “at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol”.
- Yn y tymor hwy, y cynllun yw y byddai angen i awdurdodau lleol gael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru fesul achos pe baent am leoli plentyn sy'n derbyn gofal yn rhywle heblaw am endid 'nid-er-elw'. Byddai hyn wedyn yn cael ei alw’n ‘lleoliad atodol’. er nad yw'r manylion llawn ynghylch sut y byddai'r broses hon yn gweithio wedi'u penderfynu eto.
- Ar ôl i’r holl ddarpariaethau trosiannol ddod i ben, byddai’n rhaid i’r lleoliadau atodol hyn fod yn Lloegr, oherwydd endidau ‘di-elw’ yn unig a allai gofrestru’n gyfreithiol yng Nghymru o dan ddarpariaethau’r Bil.
Mae pryderon yn cynnwys 'prinder sydyn a difrifol o leoliadau'
Mae crynodeb Llywodraeth Cymru o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dweud y teimlwyd bod "amseriad arfaethedig cyflwyno'r gofynion ar gyfer darparwyr presennol ar 1 Ebrill 2027 yn rhy uchelgeisiol ac roedd yn peri risg i ddiogelwch plant a phobl ifanc sydd angen lleoliad sefydlog cofrestredig o ansawdd da".
Mae CLlLC hefyd wedi dweud os bydd darparwyr er elw presennol yn penderfynu gadael y farchnad neu leihau eu gwasanaethau, mae risg o brinder lleoliadau sydyn a difrifol, yn enwedig i blant ag anghenion cymhleth. Dywedwyd wrth y Pwyllgor am amrywiaeth o bryderon, gan gynnwys:
- Galw sydd eisoes yn fwy na'r cyflenwad: Mae cynghorau wedi wynebu heriau sylweddol a hirdymor o ran sicrhau bod ganddynt ddigon o lety ar gyfer y plant y maent yn gofalu amdanynt. Mae ME y Bil yn cyfeirio at 'alw yn fwy na'r cyflenwad'. Mae’n dweud nad oes cyflenwad digonol o leoliadau preswyl a lleoliadau gofal maeth i ddiwallu anghenion eang ein poblogaeth plant sy'n derbyn gofal.
- Bron i 2,000 o blant mewn lleoliadau preifat: Ym mis Mehefin 2023, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 1880 o blant wedi’u lleoli gan awdurdodau lleol Cymru mewn lleoliadau annibynnol/preifat yng Nghymru (1284 wedi'u lleoli gydag asiantaethau maethu annibynnol a 596 wedi'u lleoli gyda darparwyr preswyl annibynnol). Clywodd y Pwyllgor bod holl ddarpariaeth breswyl 7 o’r 22 o awdurdodau yn y sector ‘er-elw’.
- Mwy o blant yn derbyn gofal ac sydd ag anghenion cynyddol gymhleth: Er gwaethaf polisïau a chyllid sydd â'r nod o wrthdroi'r duedd, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu'n sylweddol. Roedd 7,210 o blant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru ar 31 Mawrth 2023, cynnydd o 26% ers 2014. Dywed ADSS a CLlLC fod achosion yn mynd yn fwyfwy cymhleth.
- Prinder staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol plant: mae’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn dweud bod perygl y bydd dileu elw darparwyr yn arwain at gyfres o ganlyniadau sylweddol, anfwriadol gan gynnwys gweithlu yn gadael y farchnad yn ystod cyfnod pan fo argyfwng gweithlu a sgiliau’n cael eu colli. Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd eisoes wedi canfod, yn 2021-22, o weithlu o 4,774 o swyddi roedd 639 o swyddi gwag mewn timau gwaith cymdeithasol plant ledled Cymru. Dywedodd Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Tachwedd 2023 bod 17.5% o weithwyr cymdeithasol plant yn gweithio i asiantaeth.
Nid ydynt am gael eu hysbysebu gyda phris
Rhoddodd pobl ifanc â phrofiad o ofal dystiolaeth i’r cyfnod cyntaf hwn o graffu gan y Senedd, a dywedodd un person ifanc:
“Mae plant mewn gofal am i’r bobl sy’n gofalu amdanynt eu trin nhw fel petaent yn perthyn. Nid ydynt am gael eu hysbysebu gyda phris”.
Aeth Rowan Gray ymlaen i ddweud:
"Rwy'n cytuno â'r Bil—rwy'n cytuno'n llwyr—ond fy mhryder mwyaf, os bydd yn cael ei atal, yw bod yr holl gwmnïau hyn yn mynd i roi’r gorau i gynnig gwasanaeth a symud rhywle arall yn y pen draw, gan nad ydyn nhw bellach yn gallu gwneud elwa oddi wrthym ni, ac mae hynny'n mynd i achosi llawer o broblemau i'r holl blant sy'n cael gofal gan yr holl gwmnïau gwahanol hyn."
Beth nesaf?
Roedd mwyafrif y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cefnogi’r egwyddorion cyffredinol y tu ôl i’r Bil hwn ond gwnaed 26 o argymhellion ar gyfer newid, 16 o’r rhain yn ymwneud â gofal cymdeithasol plant Felly er bod cefnogaeth eang gan lawer i’r egwyddorion y tu ôl i’r Bil hwn, mae cwestiynau mawr o hyd ynghylch sut y bydd yn gweithio’n ymarferol. Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor:
“More than one child in every hundred children in Wales is now in care. Their needs must be central to any reform which passes through the Senedd. Whilst the ambition is clear, the Welsh Government’s plan for making it work is not.”
Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru