Cymal 1
■ Mae cymal 1 yn machlud is-ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r UE a deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ar 31 Rhagfyr 2023 oni bai y caiff ei hachub gan Weinidogion.
■ Mae cymal 1(2) yn cynnig opsiwn i osgoi'r machlud hwn a machlud yn y dyfodol os pennir deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion y DU, Gweinidogion Cymru neu Weinidogion y DU a Chymru yn gweithredu ar y cyd.
Cymal 2
Mae cymal 2 yn darparu'r pŵer i Weinidogion y DU yn unig ymestyn y machlud awtomatig cyntaf o 31 Rhagfyr 2023 hyd at y 23 Mehefin 2026. Yn wreiddiol dywedodd Llywodraeth y DU y gallai hyn gael ei ddefnyddio "i weithredu diwygiadau mwy cymhleth".
Cymal 3
Mae cymal 3 yn machlud yr hawliau, y pwerau, y rhwymedigaethau ac ati sy'n deillio o'r UE yn adran 4 o Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018, ac unrhyw beth sydd wedi'i gadw yn ôl yn ar sail ei rinwedd ar 31 Rhagfyr 2023.
Cymal 4
Mae cymal 4 yn diddymu goruchafiaeth deddfwriaeth yr UE ar ddiwedd 2023 ac yn cyflwyno hierarchaeth newydd mewn cyfraith ddomestig.
Cymal 5
Mae cymal 5 yn diddymu egwyddorion cyffredinol deddfwriaeth yr UE ar 31 Rhagfyr 2023. Mae'r rhain yn cynnwys sicrwydd cyfreithiol, triniaeth gyfartal, cymesuredd, parch at hawliau sylfaenol a'r egwyddor ragofalus.
Cymal 6
Mae cymal 6 yn ailenwi deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir sy'n goroesi'r machlud awtomatig cyntaf ar 31 Rhagfyr 2023 fel "cyfraith gymathedig" o 1 Ionawr 2024.
Cymal 7
Mae cymal 7 yn newid rôl y llysoedd fel nad ydynt bellach yn gaeth i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir ar gyfer achosion. Mewn rhai amgylchiadau, gall y Cwnsler Cyffredinol gyfeirio pwyntiau'r gyfraith ar achosion deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir o fewn chwe mis, a all arwain yn y pen draw at glywed yr achos gan y Goruchaf Lys. Gall y Cwnsler Cyffredinol hefyd ddod yn rhan o achosion sy'n ymwneud ag ystyr neu effaith deddfwriaeth Gymreig.
Cymal 8
Mae cymal 8 yn caniatáu i ddeddfwriaeth ddomestig gael ei darllen a rhoi effaith iddi fel ei bod yn gydnaws â deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir. Daw'r pŵer hwn i ben ar 23 Mehefin 2026.
Cymal 9
Mae cymal 9 yn caniatáu i lysoedd a thribiwnlysoedd gyhoeddi gorchmynion anghydnawsedd pan maent yn penderfynu bod deddfwriaeth ddomestig yn anghydnaws â deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir.
Cymal 10
Mae cymal 10 yn addasu'r gweithdrefnau sy'n berthnasol wrth ddiwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018. O ganlyniad, bydd yn dod yn haws diwygio categorïau penodol o deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir.
Cymal 11
Mae cymal 11 yn diwygio Deddf yr UE (Ymadael) 2018 mewn perthynas â gofynion gweithdrefnol ar gyfer offerynnau statudol.
Cymal 12
Mae cymal 12 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU neu Weinidogion Cymru sy'n gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd i ailddatgan unrhyw is-ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir cyn diwedd 2023.
Cymal 13
Mae cymal 13 yn efelychu cymal 12 fel bod Gweinidog y DU neu Weinidog Cymru sy'n gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd yn gallu ailddatgan is-gyfraith gymathedig neu atgynhyrchu hawliau, pwerau, rhwymedigaethau yr UE a ddargedwir cyn 23 Mehefin 2026.
Cymal 14
Mae cymal 14 yn darparu canllawiau cyffredinol mewn perthynas â chymalau 12 a 13.
Cymal 15
Mae cymal 15 yn bŵer eang sy'n caniatáu i Weinidogion y DU neu Weinidogion Cymru sy'n gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd i
■ ddirymu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir heb ei disodli, neu
■ ei disodli gan yr un amcanion neu amcanion tebyg, neu
■ rhoi trefniadau amgen ar waith.
Rhaid i Weinidogion beidio â chynyddu'r baich rheoleiddio wrth ddirymu neu ddisodli deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir o dan y cymal hwn. Daw'r pwerau hyn i ben ar 23 Mehefin 2026.
Cymal 16
Mae cymal 16 yn caniatáu i Weinidogion y DU neu Weinidogion Cymru, sy'n gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd, addasu is-deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir ac is-ddeddfwriaeth gymathedig i ystyried newidiadau neu ddatblygiadau technolegol mewn dealltwriaeth wyddonol.
Cymal 17
Mae cymal 17 yn diwygio deddfwriaeth sy'n caniatáu i Weinidogion y DU ddileu a lleihau beichiau. Ystyr "baich" yw unrhyw rai o'r canlynol: cost ariannol, anghyfleustra gweinyddol yn rhwystr i effeithlonrwydd, cynhyrchiant neu broffidioldeb, neu gosb, troseddol neu fel arall, sy'n effeithio ar barhad unrhyw weithgaredd cyfreithlon.
Cymal 18
Mae cymal 18 yn diddymu'r Targed Effaith Busnes (BIT) fel rhan o ddiwygiadau rheoleiddio eraill. Nid yw'r Targed yn berthnasol i ddarpariaethau rheoleiddio mewn meysydd datganoledig.
Cymal 19
Mae cymal 19 yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU wneud rheoliadau o ganlyniad i'r Bil fel y maent yn ystyried sy'n briodol, sy'n cynnwys y pŵer i addasu "unrhyw" ddeddfiad.
Cymal 20
Mae cymal 20 yn egluro cwmpas y pwerau gwneud rheoleiddiad yn y Bil, ac yn cyflwyno Atodlenni 2 a 3 i'r Bil.
Cymal 21
Mae cymal 21 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Bil.
Cymal 22
Mae cymal 22 yn nodi pryd y daw pob cymal i rym.
Cymal 23
Mae cymal 23 yn datgan teitl llawn y Bil ac yn cadarnhau ei fod yn berthnasol i Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Atodlen 1
Mae Atodlen 1 yn gwneud gwelliannau sy'n ganlyniadol i gymal 10, gan gynnwys diwygio gweithdrefn seneddol ar gyfer deddfwriaeth uniongyrchol penodol yr UE a ddargedwir.
Atodlen 2
Mae Atodlen 2 yn amlinellu'r cyfyngiadau ar Weinidogion datganoledig, fel na allant wneud darpariaeth y tu allan i gymhwysedd datganoledig.
Atodlen 3
Mae Atodlen 3 yn gosod gweithdrefnau ar gyfer y pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil, gan gynnwys darparu rôl sifftio i un o bwyllgorau'r Senedd. Ar hyn o bryd, Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd yw'r pwyllgor cyfrifol ar gyfer sifftio rheoliadau a wneir o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 a Deddf yr UE (Perthynas y Dyfodol) 2020.