Mae gwneud dur yn hollbwysig i Gymru. Yn ogystal â bod yn ganolog i’n treftadaeth ddiwydiannol, mae hefyd yn rhan fawr o’n heconomi.
Ac eto, mae'n ddiwydiant sy'n wynebu llawer o heriau – nid lleiaf yr angen i ddatgarboneiddio tra hefyd yn parhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang, ac ymdopi â siociau fel cynnydd sydyn mewn costau ynni.
Mae Tata yn dweud bod angen £1.5 biliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU arno i helpu i ddatgarboneiddio ei weithrediadau yn y DU, ond nid yw’r lefel hon o gymorth ariannol wedi dod i law eto.
Mae'n dweud bod angen penderfyniad erbyn mis Gorffennaf, neu bydd yn ystyried cau safleoedd yn y DU.
Wrth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd gymryd tystiolaeth ar ddyfodol Tata, mae'r erthygl hon yn edrych ar y materion dan sylw.
Pam mae dur yn bwysig
Roedd diwydiant haearn a dur Cymru yn cyflogi 7,330 o bobl yn uniongyrchol yn 2021 – 45 y cant o weithlu dur y DU. Mae Cymru yn cynhyrchu dros 60 y cant o gyfanswm allbwn dur crai y DU. Haearn a dur yw pedwerydd cynnyrch allforio mwyaf Cymru – gwerth tua £1.4bn.
Mae Tata yn cyflogi tua 8,000 o bobl ar ei safleoedd yn y DU, gydag oddeutu tri chwarter ohonynt yng Nghymru, gan gynnwys tua 3,500 o bobl ym Mhort Talbot.
Dywed Tata fod ei weithrediadau yn 2020-21 wedi cyfrannu 3 y cant o allbwn economaidd Cymru, ac wedi talu cyflogau 36 y cant yn uwch na chyfartaledd y DU.
Ond mae'r Athro Max Munday a'r Athro Karen Turner yn nodi bod dur Cymru yn wynebu heriau lluosog – nid datgarboneiddio yn unig. Mae'r rhain yn cynnwys costau ynni uchel, ardrethi busnes a rheoleiddio. Maent yn dweud bod y maes hwn yn agored i amrywiadau mewn arian cyfred a gor-gapasiti byd-eang. Fel y mae UK Steel yn ei nodi, mae’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu o ran prisiau ynni wedi gwaethygu’n aruthrol dros y misoedd diwethaf.
Er bod cost ynghlwm wrth gefnogi'r diwydiant dur, mae pwysigrwydd strategol cynhyrchu dur 'gwyrdd' yn ddomestig yn cael ei dderbyn yn eang, gan gynnwys gan sefydliadau amgylcheddol. Mae dur yn sail i sectorau hanfodol fel ynni, awyrofod ac adeiladu, yn ogystal â bod yn gyflogwr allweddol mewn ardaloedd lle byddai’n anodd disodli’r swyddi medrus hyn.
Sut mae Llywodraeth Cymru wedi helpu dros y blynyddoedd diwethaf?
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ystod o gymorth i Tata a’r diwydiant dur ehangach. Cyfrannodd at fuddsoddiad mewn gorsaf ynni ar y safle i leihau allyriadau carbon, a darparodd gymorth sgiliau yn 2016 ac yn 2018.
Mae hefyd wedi buddsoddi mewn ymchwil a datblygu gyda chymorth cronfa strwythurol yr UE, ac mae wedi gweithio ar gaffael dur i gefnogi prosiectau seilwaith.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn anochel yn canolbwyntio ar feysydd datganoledig. Dywedodd Gweinidog yr Economi fod gan Lywodraeth y DU bwerau allweddol mewn perthynas â datgarboneiddio diwydiannol.
Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cyllid ar gael i ddiwydiannau ynni-ddwys, gan gynnwys dur, a hynny drwy ei Chronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol. Yn 2019, ymgynghorodd ar Gronfa Dur Glân gwerth £250m, ond nid yw wedi'i lansio eto.
Sut mae polisi yn mynd i’r afael â datgarboneiddio’r sector dur?
Mae'r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i sero net erbyn 2050. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU (CCC) hefyd wedi argymell y dylai gwneud dur gyrraedd yn agos at allyriadau sero erbyn 2035.
Dywed Strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU y bydd yn ystyried goblygiadau argymhelliad CCC. Mae ymrwymiadau allweddol hefyd wedi'u cynnwys yn ei Strategaeth Datgarboneiddio Diwydiannol a’i Strategaeth Hydrogen.
Mae Cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru yn cynnwys polisïau ar ddiwydiant a busnes, gan gynnwys dur, ac mae’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd adnoddau, newid tanwydd, a dal, defnyddio a storio carbon. Mae eto’n pwysleisio rôl Llywodraeth y DU o ran mynd i’r afael ag allyriadau diwydiannol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld, heb ymdrechion i sicrhau 'pontio teg', fod sero net yn fygythiad i Gastell-nedd Port Talbot gan mai dyma lle mae’r ganran uchaf o weithwyr a gyflogir mewn diwydiant trwm, a'r ail gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd, yng Nghymru gyfan.
Mae'n dweud nad yw pontio teg yn golygu y bydd swyddi yn y sectorau diwydiannol yng Nghymru yn anochel yn cael eu colli, ond mae'n golygu “bod angen inni weithio gyda’r diwydiannau hyn, a’u trawsnewid, fel y gellir cynhyrchu’r cynhyrchion mewn ffyrdd a fydd yn esgor ar lai o garbon”, a fydd yn angen sgiliau a gwybodaeth newydd.
A yw ‘dur gwyrdd’ yn opsiwn?
Ydy, ond ni fydd yn hawdd (nac yn rhad).
Mae’r gwaith o wneud haearn a dur yn cynhyrchu llawer o allyriadau nwyon tŷ gwydr - gan gynhyrchu 14 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr diwydiannol y DU, a 2 y cant o gyfanswm allyriadau’r DU yn 2019. Yng Nghymru, roedd y sector yn gyfrifol am 37 y cant o gyfanswm allyriadau’r sector diwydiant a busnes yn y flwyddyn honno.
Fodd bynnag, mae dur hefyd yn nwydd hanfodol – ac yn allweddol ar gyfer seilwaith sero net hollbwysig. Yn 2021, mewnforiodd y DU 54 y cant o'r dur yr oedd ei angen arni.
Mae cynhyrchiant ffwrnais chwyth-ffwrnais ocsigen sylfaenol (BF-BOF) ym Mhort Talbot a Scunthorpe yn cynhyrchu 82 y cant o’r dur a gynhyrchir yn y DU, ac yn cyfrif am 95 y cant o allyriadau diwydiant dur y DU. Mewn cyferbyniad, gall ffwrneisi arc trydan (EAF) sy’n defnyddio dur sgrap fod 80% yn llai carbon-ddwys.
Mae amrywiaeth o opsiynau i ddatgarboneiddio dur. Bydd rhai, fel chwistrelliad hydrogen mewn ffwrneisi chwyth, yn lleihau allyriadau. Fodd bynnag, bydd cyflawni sero net a chynhyrchu 'dur gwyrdd' yn her lawer mwy arwyddocaol ac aflonyddgar, a fydd yn cynnwys dulliau fel dal, defnyddio a storio carbon, neu newid i EAF gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy.
Fodd bynnag, bydd cyflawni sero net a chynhyrchu 'dur gwyrdd' yn her lawer mwy arwyddocaol ac aflonyddgar, a fydd yn cynnwys dulliau fel dal, defnyddio a storio carbon, neu newid i EAF gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Er enghraifft, amcangyfrifwyd y byddai cynhyrchu digon o hydrogen glân i gyd-fynd â chynhyrchiant cyfredol BF-BOF drwy haearn gostyngol uniongyrchol yn gofyn am 17 y cant o gyfanswm cynhyrchu ynni adnewyddadwy'r DU ar hyn o bryd.
Fel diwydiant ynni-ddwys, mae costau ynni uchel hefyd yn effeithio ar Tata. Mae’r rhain wedi bod yn gyson uwch yn y DU nac yn ngwledydd eraill Ewrop, ac mae'n glir bod hyn yn her fawr.
Mae Tata wedi croesawu cynigion fel cynllun arfaethedig British Industry Supercharger Llywodraeth y DU ar gyfer diwydiannau ynni-ddwys, gan eu heithrio rhag rhai costau. Ond mae'n pryderu na fydd y rhain yn ddigon.
Beth mae Tata yn ei wneud o ran datgarboneiddio?
Nod busnes Tata yn y DU yw gwneud dur mewn ffordd sy’n niwtral o ran CO2 erbyn 2045, gyda gostyngiad o 30 y cant o leiaf ar lefelau 2018 erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n dweud ei fod yn edrych ar ystod o opsiynau technoleg ac yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn gyfranogwr yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru sy’n anelu at ddatblygu’r clwstwr diwydiannol gwirioneddol gynaliadwy gorau yn y byd.
Mae Tata yn gweithio ar ddatgarboneiddio ei gyfleusterau yn yr Iseldiroedd, sy’n cynnwys buddsoddiad diweddar o €65m mewn cynhyrchu dur seiliedig ar hydrogen yn ninas IJmuiden.
Wrth gyhoeddi hyn, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel yr Iseldiroedd ei fod wedi ymrwymo i gytundebau gyda llywodraeth genedlaethol a thaleithiol ac wedi ymrwymo i fod yn niwtral o ran CO2 cyn 2045 ac allyrru rhwng 35 a 40 y cant yn llai o CO2 cyn 2030.
Felly beth sy’n digwydd nawr?
Fis Gorffennaf diwethaf galwodd Tata am gyfraniad o £1.5bn gan Lywodraeth y DU at gost datgomisiynu ffwrneisi chwyth ac adeiladu EAFs.
Wrth siarad â’r Financial Times, dywedodd Cadeirydd Grŵp Tata, heb gytundeb o fewn 12 mis, y byddai angen ystyried cau safleoedd yn y DU.
Ym mis Ionawr, awgrymodd adroddiadau yn y cyfryngau fod Llywodraeth y DU wedi cynnig £300 miliwn i Tata Steel i gefnogi datgarboneiddio, a bod hyn yn agos at gael ei gymeradwyo.
Fodd bynnag, heb ddim byd ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, dywedodd y cyfryngau y gallai Tata gau un ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot oni bai bod cynllun cymorth hirdymor Llywodraeth y DU yn cael ei gyflwyno erbyn mis Gorffennaf.
Fe wnaeth undeb llafur Community feirniadu cyllideb Llywodraeth y DU gan ddweud nad oedd yn cynnwys unrhyw gynlluniau i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol y mae dirfawr ei hangen a helpu i gyflwyno technolegau gwyrdd mewn diwydiannau fel dur. Pwysleisiodd yr angen i ddiwygio’r system ynni mewn ffordd strwythurol i alinio prisiau â'r rhai yn Ewrop. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Unite hefyd wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn gofyn am weithredu brys.
Gallwch wylio tystiolaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd ynghylch Tata Steel ar Senedd TV.
Erthygl gan Andrew Minnis a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru