Nodyn: Mae gwladolion yr UE, yr AEE-EFTA a’r Swistir a’u teuluoedd yn gymwys ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae gwladolion Iwerddon wedi’u hesemptio. Er hwylustod, mae’r erthygl hon yn defnyddio’r term “dinasyddion yr UE” i ddisgrifio’r grŵp hwn. |
Dydd Mercher 6 Tachwedd, bydd y Senedd yn trafod yr heriau y mae dinasyddion yr UE yn parhau i’w hwynebu bron i bedair blynedd ers i’r DU adael yr UE.
Rhaid i ddinasyddion yr UE a oedd yn byw yng Nghymru cyn Brexit fod wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (“y Cynllun”) i aros. Ail adroddiad blynyddol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (“y Pwyllgor”) ar y Cynllun yw canolbwynt y ddadl, sydd wedi’i grynhoi mewn erthygl arall. Mae’r ystadegau diweddaraf i’w gweld yn adroddiad monitro’r Pwyllgor ar gyfer mis Medi.
Dywedodd y Cadeirydd Jenny Rathbone AS y canlynol wrth dystion am eu tystiolaeth i’r Pwyllgor:
It provides some clarity as to what we need to do to prevent this turning into yet another Windrush scandal, which would just cause huge untold agony, as well as a lot of cost.
Mae’r erthygl hon yn esbonio pam y mae’r Cynllun wedi arwain at rybuddion o “ail Windrush”.
Sut y daethom i’r fan hon?
Yn ystod Brexit, daethpwyd i gytundebau gwahanu (gan gynnwys y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE) rhwng y DU, yr UE a’r gwledydd y tu allan i’r UE Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir. Mae’r cytundebau yn gwarantu hawliau dinasyddion yr UE a oedd yn byw yn y DU cyn Brexit.
Lansiodd Llywodraeth y DU y Cynllun ym mis Hydref 2019 i ddinasyddion yr UE wneud cais i aros. 30 Mehefin 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ond mae’n parhau i fod ar agor at ddibenion ceisiadau hwyr.
Rhoddir naill ai statws ‘preswylydd sefydlog’ parhaol (i’r rhai sy’n gallu profi eu bod wedi byw yma ers pum mlynedd) neu statws ‘preswylydd cyn-sefydlog’ dros dro (i’r rhai na allant wneud hynny). Pan fydd gan ddinasyddion cyn-sefydlog y prawf hwn, gallant uwchraddio i statws preswylydd sefydlog.
Gall y ddau grŵp fyw, gweithio a chael mynediad at ofal iechyd ond mae gwahaniaethau pwysig. Er enghraifft, efallai na fydd dinasyddion cyn-sefydlog yn gallu cael budd-daliadau ac na all aelodau o’u teulu ymuno â hwy.
Datblygiadau ers Brexit
Bu 8.1 miliwn o geisiadau i’r Cynllun, sef system fisa ddigidol yn unig gyntaf y DU. Daeth 124,642 o geisiadau o Gymru. Gall 108,666 aros, naill ai’n barhaol neu dros dro (gallai’r gweddill fod yn aros am benderfyniad, neu gallent fod yn geisiadau dyblyg, yn geisiadau sydd wedi’u gwrthod neu eu tynnu’n ôl neu’n geisiadau annilys).
Cytunodd tystion pwyllgor fod y Cynllun wedi bod yn syml i’r rhai sydd â sgiliau digidol, gweinyddol a Saesneg. Ond, dywedodd Fiona Costello o Brifysgol Caergrawnt:
it's very important to remember those who are more vulnerable, for whom the EUSS has been a challenge and is still a challenge, and they include younger people, older people, children in care or who are looked after, other people with care needs, the Roma community, people who are homeless, victims of domestic abuse, et cetera.
Cafwyd 17.5 y cant (21,809) o geisiadau gan bobl dan 18 oed o Gymru a chafwyd tua 3 y cant (3,681) gan bobl 65+ oed. Nid yw ethnigrwydd yn cael ei gofnodi ond yn ôl Settled y Roma yw’r categori agored i niwed yr ydym yn ei gynorthwyo fwyaf yng Nghymru.
Gall fod angen i 40,254 o ddinasyddion cyn-sefydlog yng Nghymru wneud cais arall am statws preswylydd sefydlog, oni bai eu bod yn cael eu huwchraddio’n awtomatig fel rhan o newidiadau a gyhoeddwyd yn 2023.
Windrush yn ailddigwydd?
Gall methu â chael statws arwain at golli hawliau i weithio ac i gael tai, addysg a budd-daliadau, a hyd yn oed at allgludo. Dywedodd Settled fod diffyg ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid, cyflogwyr, awdurdodau lleol a gwasanaethau statudol hefyd wedi arwain at wrthod gwasanaethau, hyd yn oed i ddeiliaid statws.
Mae enghreifftiau o’r fath wedi tynnu syw at gymhariaeth â’r Windrush gwarthus, pan fo gwasanaethau wedi’u gwrthod i bobl a gyrhaeddodd y DU yn gyfreithlon o wledydd y Caribî rhwng 1948-1971 ac a gafodd eu cadw’n gaeth, eu hallgludo ac y gwrthodwyd eu hawliau yn anghywir er bod gandynt hawl i fyw a gweithio yma’n barhaol. Roedd profi preswyliad a diffyg dogfennaeth yn nodweddion Windrush ac yn cael eu hailadrodd yn y Cynllun.
Yn 2019, disgrifiodd Yvette Cooper, yr Ysgrifennydd Cartref, y Cynllun fel “Windrush on steroids”, barn a gefnogir gan Colin Yeo, y bargyfreithiwr mewnfudo. Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor, lleisiwyd pryderon gan Settled, the3million, Fiona Costello o Brifysgol Caergrawnt, a chorff gwarchod hawliau dinasyddion yr UE, yr Awdurdod Monitro Annibynnol.
Yn debyg i Windrush, mae’r Cynllun yn gosod baich ar unigolion i brofi preswyliad ond nid oes gan rai mo’r ddogfennaeth angenrheidiol. Yn 2019, roedd dadansoddiadau gan felin drafod y sector cymdeithasol, NPCa British Future yn dangos y gallai cynllun gwarthus posibl effeithio ar lawer mwy o ddinasyddion na’r rhai yr effeithiodd Windrush arnynt:
If just 5% of the [then] estimated 3.5m EU citizens living in the UK do not register by the deadline, 175,000 people would be left without status.
Nid yw’n hawdd i rai grwpiau, fel plant, ddatblygu ôl troed digidol i brofi preswyliad. Mae diffyg llythrennedd digidol ynghyd â rhwystrau iaith yn ychwanegu at y cymysgedd hwn.
Ym mis Ebrill 2024, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol y DU y bydd dogfennau mewnfudo corfforol yn cael eu diddymu’n raddol erbyn 2025.
Goblygiadau cenedlaethau
Mae cytundebau gwahanu Brexit yn gwarantu hawliau plant deiliaid statws fel y gallai materion ddod i’r amlwg ymhell i’r dyfodol. Esboniodd Settled fod hyn yn golygu:
it may well be a generation until the children of the current EU citizens have grown up before we can be assured that everybody who needed to sort out their status has done it, and is able to use the digital scheme to demonstrate it.
Nid oes neb yn gwybod faint o ddinasyddion yr UE a oedd yn byw yn y DU cyn Brexit, felly nid ydym yn gwybod faint o geisiadau i’w disgwyl. Mae hyn yn parhau i fod yn wir heddiw. I ddechrau, roedd amcangyfrifon yn dangos bod 95,000 o ddinasyddion cymwys yng Nghymru ond mae dros 124,000 o geisiadau eisoes wedi bod. Ledled y DU, cafwyd cyfanswm o dros 8.1 miliwn o geisiadau o’i gymharu ag amcangyfrifon o rhwng 3 a 4 miliwn.
Dywedodd Fiona Costello wrth y Pwyllgor:
it's important to take that long-term view of the EUSS in order to avoid a Windrush situation in the future for future generations.
Esboniodd Settled nad yw rhai o ddinasyddion yr UE sydd wedi byw yma ers degawdau yn sylweddoli bod angen iddynt wneud cais. Maent bellach yn wynebu meini prawf cymhwysedd culach oherwydd newidiadau diweddar i’r Cynllun. Mae yna 537-808 o geisiadau hwyr o Gymru bob mis yn 2024.
Osgoi ail Windrush
Awgrymodd tystion pwyllgor gamau i liniaru problemau’r Cynllun, y mae’r Pwyllgor wedi’u cofnodi gyda phryder cynyddol er 2021.
Dywedodd Settled fod diffyg ymwybyddiaeth o’r Cynllun yn ôl pob tebyg yn un o’r problemau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru. Mae’n gobeithio y gall y Pwyllgor ac Aelodau’r Senedd helpu i godi ymwybyddiaeth. Gallai cyllid cynaliadwy hefyd warantu sicrwydd a chefnogaeth hirdymor i sefydliadau sy’n cynnig cymorth o ran y Cynllun. Mae cyllid presennol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn para tan fis Mawrth 2025.
Siaradodd yr Arsyllfa Mudo am ymdeimlad y bydd y Cynllun yn diflannu’n raddol. Dywedodd tystion pwyllgor fod rhaid mynd i’r afael â’r camsyniad bod angen llai o gymorth. Gwnaeth the3million rybuddio:
the problems that we're finding out about are probably just the tip of the iceberg.
Ychwanegodd Settled ei fod yn fater hirdymor sydd wedi para am genedlaethau, ac roedd y tystion i gyd yn gobeithio bod llywodraethau yn cydnabod hyn.
Dywed corff gwarchod annibynnol ei bod yn bryder i ni i gyd
Cafodd y Pwyllgor drafodaethau rheolaidd â Llywodraeth Cymru ers i’w waith ar y Cynllun ddechrau yn 2021. Ac er bod Gweinidogion olynol wedi siarad am bwysigrwydd cefnogi dinasyddion yr UE yng Nghymru, yn fwyaf diweddar ym mis Mehefin 2024, nid yw’r Cynllun wedi’i restru mewn portffolio cabinet ers mis Mawrth 2024.
Mae’r Cynllun yma i aros, ac, yn ôl tystiolaeth y Pwyllgor, mae’n achosi problemau difrifol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Yn ôl yr Arsyllfa Mudo, bydd y problemau hyn yn parhau am amser hir iawn.
Ar 16 Medi, dywedodd yr Awdurdod Monitro Annibynnol wrth y Pwyllgor yn blwmp ac yn blaen:
We’re all concerned about that risk of Windrush.
Cyflwynodd y Pwyllgor y ddadl hon i Aelodau o’r Senedd drafod: a yw dinasyddion yr UE yng Nghymru mewn perygl o “ail Windrush”?
Gallwch wylio’n fyw neu’n ddiweddarach ar Senedd.TV (Dydd Mercher 6 Tachwedd).
Os yw’r materion a godwyd yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae Settled yn cynnig cyngor achrededig am ddim ar y Cynllun mewn amrywiaeth eang o ieithoedd Ewropeaidd. Gallwch gysylltu â Settled drwy’r ffurflen atgyfeirio ar-lein, drwy e-bost neu ar y llinell gymorth: 0330 223 5336. |
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru