A yw strategaeth TB buchol Llywodraeth Cymru yn gweithio?

Cyhoeddwyd 29/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad i TB Buchol

Mae twbercwlosis buchol (TB) yn glefyd heintus sy'n ymosod ar yr ysgyfaint a nodau lymff gwartheg a rhywogaethau buchol eraill. Gellir trosglwyddo'r clefyd cyn i unrhyw symptomau gael eu canfod ac felly gall ledaenu'n gyflym drwy yrroedd. Mae'r clefyd hwn nid yn unig yn effeithio ar yr anifeiliaid, ond hefyd bywoliaeth ac incwm ffermwyr yn ogystal â chostio £179,000 fesul gyr i Lywodraeth Cymru mewn profion ac iawndal. Mae Llywydd NFU Cymru, John Davies, yn disgrifio TB fel 'y bygythiad mwyaf i'n diwydiant cig eidion a llaeth mewn rhannau mawr o'r wlad'.

I nodi blwyddyn ers i strategaeth TB newydd Llywodraeth Cymru ddod i rym, mae'r erthygl hon yn trafod y rhaglen ddileu ac a oes unrhyw beth wedi newid ers ei chyflwyno.

Strategaeth TB Buchol Llywodraeth Cymru

Ym mis Mehefin 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Dileu TB newydd, gyda nifer o bolisïau wedi'u hanelu at leihau cyfraddau TB.

Cyhoeddwyd dull rhanbarthol, sy'n rhannu Cymru yn ardaloedd TB risg uchel, canolradd ac isel (PDF, 1MB), yn debyg i Strategaeth Lloegr (PDF, 1.3MB) o wahanu'n ardaloedd risg gwahanol. O fewn y parthau risg uchel yng Nghymru mae 'Ardal Triniaeth Ddwys' (PDF, 5MB) yng Ngogledd Sir Benfro a rhannau bach o Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sy'n wynebu rhai o'r cyfraddau uchaf o TB buchol yng Nghymru (PDF, 892KB). Mae'r rhaglen yn mynnu bod gyrroedd yng Nghymru yn cael eu profi o leiaf bob blwyddyn. Er mwyn helpu i hysbysu ffermwyr o'r statws TB presennol ar gyfer gwartheg y gallent fod yn eu prynu, mae polisi masnachu yn seiliedig ar risg yn cael ei gyflwyno lle mae gwybodaeth TB yn cael ei harddangos ar y pwynt gwerthu.

I ddechrau, ni chyhoeddwyd unrhyw dargedau ar gyfer dileu TB yn llawn yng Nghymru. Ers hynny, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi (PDF, 208KB) targed o 2041 am ddim mwy o achosion o TB yng Nghymru ar ôl derbyn argymhellion (PDF, 597KB) gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i ddatblygu a hyrwyddo arferion bioddiogelwch a hwsmonaeth da, ar gyfer pob rhan o Gymru, gyda'r nod o leihau'r risg a lledaeniad yr haint. Un enghraifft yw cyflwyno profion ar ôl symud ar gyfer anifeiliaid sydd wedi'u symud o ardaloedd risg uchel.

Cred Llywodraeth Cymru er mwyn dileu'r clefyd mewn gwartheg, rhaid hefyd ymdrin â'r haint mewn moch daear. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol raglen frechu ar gyfer moch daear, y bu'n rhaid ei gohirio oherwydd prinder byd-eang o'r brechlyn TB.

Effeithiolrwydd difa moch daear

Mae difa moch daear yn fater dadleuol sydd wedi'i drafod gan lywodraethau, gwyddonwyr, grwpiau ffermio a grwpiau hawliau anifeiliaid ers nifer o flynyddoedd. Un o'r gwahaniaethau mawr mewn polisi TB rhwng Cymru a Lloegr yw bod difa moch daear, dan drwydded, yn cael ei ganiatáu yn Lloegr (PDF, 312KB) tra bod yr arfer yn cael ei wahardd yng Nghymru.

Mewn Astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (PDF, 444KB) nodwyd bod gostyngiad mewn cyfraddau achosion TB yn cael ei gofnodi o 10.4 y cant i 5.6 y cant a 23.5 y cant i 11.2 y cant, yn y drefn honno, mewn pedair blynedd o ddifa wedi'i reoli mewn ardaloedd dethol yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf. Yn yr un astudiaeth, dangosodd ardal ddifa yn Dorset gynnydd mewn cyfraddau achosion TB o 15.9 y cant i 20.6 y cant ar ôl dwy flynedd o ddifa dan reolaeth. Disgwylir i'r astudiaeth hon barhau ac mae gwaith pellach yn cael ei wneud i edrych ar y gwahaniaethau rhwng ardaloedd a reolir ac ardaloedd na reolir gyda phapur a adolygwyd gan gymheiriaid y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Yn ddiweddar, comisiynodd Llywodraeth Cymru dreial ar dair fferm wahanol i edrych ar effaith difa moch daear ar ffermydd. Awgrymodd canlyniadau'r astudiaeth hon fod cyfraddau haint TB yn isel ym moch daear ger y ffermydd. Cafodd cyfanswm o 37 o foch daear eu dal a chafodd 5 eu dinistrio ar ôl profi'n bositif mewn prawf maes. Fodd bynnag, datgelodd profion post-mortem nad oedd yr un o'r moch daear hyn wedi'u cadarnhau fel eu bod yn cario TB.

Mae 'Canfod Moch Daear Marw' yn arolwg ymchwil arall a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i fapio a phrofi TB mewn unrhyw foch daear marw sy'n cael eu canfod yng Nghymru.

Ar 18 Gorffennaf 2018, gwnaeth Lesley Griffiths sylw ei bod hi bob amser wedi diystyru galwadau difa fel yn Lloegr ac mae'n disgwyl i'r rhaglen frechu ailddechrau unwaith y bydd y brechlyn ar gael eto yn ddiweddarach eleni.

Statws presennol TB buchol yng Nghymru

Wrth i'r strategaeth newydd ddechrau ym mis Hydref 2017, dylid bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau mor gynnar â hyn gan y gall y tueddiadau data fod yn anwadal oherwydd y ffactorau niferus yn yr amgylchedd.

Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau, er enghraifft gan NFU Cymru a Farmers Weekly, yn awgrymu cynnydd yn yr achosion newydd mewn gyrroedd a gwartheg sydd wedi'u lladd, yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018.

Mae'r data mwyaf diweddar (ODS, 678KB), hyd at fis Mehefin 2018, yn dangos cynnydd llai mewn achosion newydd ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mehefin, fel y gwelir yn Nhabl 1. Mae symud y ffenestr adrodd dri mis i fis Mehefin, o'i gymharu â'r adroddiadau yn y cyfryngau ym mis Mawrth, yn dangos cynnydd blynyddol yn yr achosion newydd mewn gyrroedd o 17 am y blynyddoedd hyd at fis Mehefin o'i gymharu â'r cynnydd o 89 o achosion a nodwyd hyd at fis Mawrth, sy'n tynnu sylw at anwadalrwydd y data. Efallai y bydd y cynnydd yn yr anifeiliaid sydd wedi'u lladd dros y ddwy flynedd hefyd oherwydd newidiadau mewn cyfundrefnau profi.

Cyflwynir data am achosion newydd mewn gyrroedd ac anifeiliaid sydd wedi'u lladd yn Nhabl 2 ar gyfer y misoedd Ionawr - Mehefin yn 2017 a 2018 i ganiatáu cymhariaeth o gyfnodau cyn ac ar ôl y rhaglen ddileu newydd. Er bod y data hyn yn anwadal, ymddengys bod y data mwyaf diweddar yn dangos gostyngiad yn yr achosion newydd mewn gyrroedd ers dechrau 2018 tra bod nifer y gwartheg a laddwyd yn dangos ychydig o newid.

I gymharu â Lloegr, mae Ffigur 1 yn dangos bod nifer yr achosion newydd mewn gyrroedd wedi gostwng yng Nghymru ers 2009, ond yn Lloegr mae'n ymddangos bod nifer yr achosion newydd mewn gyrroedd wedi aros yr un peth ers 2009.

Casgliadau a datblygiadau diweddar

Ar 24 Medi 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fesurau newydd ynghylch iawndal ar gyfer lladd gwartheg beichiog. Canfuwyd bod 2,817 o'r 7,418 o wartheg a laddwyd a oedd yn 'feichiog' heb lo yn yr archwiliad post-mortem. Arweiniodd hyn at dalu £459,000 ychwanegol mewn 12 mis gan fod ffermwyr yn cael iawndal uwch ar gyfer gwartheg beichiog sydd wedi'u heintio â TB.

Cyhoeddwyd profion cyfagos ychwanegol ar 15 Hydref 2018 ar gyfer Ardal Ganolradd yng Ngogledd Cymru, ar ôl cynnydd mewn achosion newydd mewn gyrroedd.

Mae TB buchol yn bwnc cymhleth heb unrhyw atebion hawdd na chonsensws ar y dull sydd ei angen. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i ariannu ymchwil yn y maes hwn gyda'r gobaith o wella polisïau i gyrraedd eu targedau dileu.

Mae rhagor o wybodaeth am TB yng Nghymru ar gael yn y papurau briffio a ganlyn gan y Gwasanaeth Ymchwil:


Erthygl gan Chris Wiseall, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Chris Wiseall gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Briff Ymchwil hwn gael ei chwblhau.