Ar 10 Gorffennaf 2024, bydd y Senedd yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Hawliau darlledu Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad.
Mae'r Senedd, Pwyllgor Diwylliant y Senedd, Llywodraeth Cymru a Pwyllgor Materion Cymreig blaenorol Tŷ'r Cyffredin oll wedi galw am amddiffyniad ychwanegol i gemau rygbi’r Chwe Gwlad fel y gall gwylwyr yng Nghymru eu gwylio ar deledu am ddim. Cafodd y galwadau hyn eu gwrthod gan Lywodraeth flaenorol y DU, sydd â chyfrifoldeb dros reoleiddio darlledu.
Pa amddiffyniad sydd gan hawliau darlledu chwaraeon?
Mae Deddf Ddarlledu 1996, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfryngau 2024, yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon lunio rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon o ddiddordeb cenedlaethol. Golyga hyn bod yn rhaid i’r hawliau darlledu i’r digwyddiadau hyn gael eu cynnig i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar delerau teg a rhesymol.
Nid yw rhestru yn golygu bod yn rhaid dangos digwyddiad ar deledu am ddim. Mae’n golygu, os yw’r deiliaid hawliau’n rhoi’r hawliau ar werth, mae’n rhaid iddynt roi’r cynnig cyntaf i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar delerau teg a rhesymol.
Mae dau grŵp o ddigwyddiadau wedi’u rhestru:
- Mae darllediadau byw llawn wedi'u diogelu ar gyfer digwyddiadau Grŵp A, ac maent yn cynnwys Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop, y Gemau Olympaidd a Wimbledon.
- Dim ond darllediadau eilaidd sydd wedi’u diogelu ar gyfer digwyddiadau Grŵp B (uchafbwyntiau wedi’u golygu neu ddarlledu wedi’i ohirio), sy’n cynnwys gemau rygbi’r Chwe Gwlad lle mae’r gwledydd cartref yn chwarae.
Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n brin o arian yn wynebu cystadleuaeth fyd-eang gyda phocedi dwfn
Mae storom berffaith o ran deinameg y farchnad wedi arwain at roi nifer gynyddol o ddigwyddiadau chwaraeon a oedd yn arfer bod ar gael i dalwyr ffi'r drwydded deledu y tu ôl i wal dalu.
Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu cyfyngiadau cyllidebol, boed hynny o ganlyniad i doriadau hirdymor i ffi’r drwydded neu ostyngiad yn y farchnad hysbysebu, ac mae chwyddiant mewn costau cynhyrchu yn gwaethygu hyn. Mae gwerth hawliau wedi cynyddu gyda dyfodiad gwasanaeth ffrydio byd-eang â phocedi dwfn i’r farchnad.
Yn 2021, collodd y BBC ac S4C yr hawliau darlledu byw ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol yr hydref, sydd bellach ar gael ar wasanaeth tanysgrifio Amazon Prime. Ym mis Medi 2023, adroddwyd yn eang, yn dilyn sylwadau a wnaed gan Alan Gilpin, Prif Swyddog Gweithredol Rygbi’r Byd, efallai y byddai gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn y dyfodol hefyd yn mynd y tu ôl i wal dalu.
Ym mis Mai 2021, cytunodd trefnwyr y Chwe Gwlad ar gytundeb mewn egwyddor i’r BBC ac ITV barhau i ddarlledu twrnameintiau rygbi. Mae’r cytundeb pedair blynedd yn rhedeg o 2022 tan ddiwedd y twrnament yn 2025, sydd wedi cael ei ddarlledu am ddim ers 2003 (roedd cyfnod o bum mlynedd, rhwng 1997 a 2002, pan oedd gemau cartref Lloegr yn cael eu darlledu ar Sky Sports).
Mae rygbi yn parhau i fod yn benodol boblogaidd yng Nghymru. Dyma’r unig un o genhedloedd y DU ag unrhyw gemau rygbi yn ei 10 o raglenni a wyliwyd fwyaf yn 2022. Fel yn 2021, gêm Cymru v Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a ddarlledwyd ar BBC One, oedd y rhaglen a gafodd ei gwylio fwyaf yng Nghymru am y flwyddyn, gyda chynulleidfa o 652,000 ar gyfartaledd.
Fe wnaeth Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, ddweud wrth Bwyllgor Diwylliant y Senedd ei fod yn gryf iawn o blaid digwyddiadau rhestredig. Er bod gan y BBC gyllideb gyfyngedig, dywedodd nad oes angen argyhoeddi yn y BBC ar draws yr holl uwch-dîm am werth rygbi yn y wlad hon.
“Effaith ddinistriol ar y gêm gyfan yng Nghymru”
Dywedodd Llywodraeth flaenorol y DU yn gyson nad oedd yn bwriadu cynyddu amddiffyniad i hawliau darlledu’r Chwe Gwlad. Dywedodd:
The current list of events works well to deliver the best outcome and that it strikes an appropriate balance and therefore we have no plans to undertake a full review of the list.
Ond pan siaradodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd ym mis Hydref 2023 â’r Gwir Anrhydeddus Syr John Whittingdale OBE AS, y Gweinidog Gwladol dros y Cyfryngau, Twristiaeth a Diwydiannau Creadigol ar y pryd, roedd ei safbwynt ef yn fwy cynnil.
Dywedodd: “We've always said that if the Welsh Parliament argued very strongly that, for the good of sport in Wales, we needed to look again at the listed events, we would look at it, certainly.”
Penderfynodd y Pwyllgor i archwilio’r cwestiwn ynghylch a ddylai’r Chwe Gwlad ddod yn ddigwyddiad rhestredig Grŵp A drwy siarad ag Undeb Rygbi Cymru ac arbenigwyr rygbi a darlledu ym mis Chwefror 2024.
Dadleuodd Undeb Rygbi Cymru yn gryf yn erbyn y symudiad, gan ddweud y gallai mwy o amddiffyniad gael effaith ddinistriol ar y gêm gyfan yng Nghymru. Dywedodd fod hawliau cyfryngau yn cyfrif am £20m o gyfanswm ei refeniw blynyddol o £90m.
Ni ddywedodd Undeb Rygbi Cymru ei fod am i hawliau Chwe Gwlad, sy’n cael eu negodi’n ganolog gan Six Nations Rugby Limited, fynd y tu ôl i wal dalu. Ond roedd yn teimlo bod cadw'r opsiwn hwn yn agored yn bwysig o ran cynyddu gwerth bidiau a gwneud y mwyaf o'r incwm sy’n cael ei ddefnyddio yn y pen draw i ariannu'r gêm.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn wynebu heriau ariannol hirsefydlog. Roedd adroddiad Oakwell Sports Advisory, a gomisiynwyd gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022 ac nad yw yn y parth cyhoeddus, yn rhagweld yn ôl pob sôn y byddai diffyg o £7m ar gyfer rygbi Cymru yn 2023, a fyddai’n dyblu erbyn 2025. Roedd adroddiadau diweddar yn awgrymu bod gan yr Undeb ddiffyg blynyddol o £15m wrth iddo frwydro i dalu dyled o £24m, sy’n cael ei feio ar Covid i raddau helaeth. Mae bwlch ariannu o £35m ar gyfer y rhanbarthau dros y pum mlynedd nesaf yn rhoi dyfodol y pedwar rhanbarth dan amheuaeth.
Dywedodd Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, wrth y Pwyllgor Diwylliant na all yr Undeb barhau i ariannu’r rhanbarthau ar yr un lefel, fel o’r blaen, oni bai ei bod yn dod yn fwy llwyddiannus yn fasnachol. Nid yw'n ymddangos bod lleihau gwerth un o asedau mwyaf gwerthfawr y sefydliad, sef ei hawliau cyfryngau, yn helpu i sicrhau mwy o lwyddiant masnachol.
“Pwyso a mesur nifer o ffactorau”
Ym mis Ebrill 2024, daeth y Pwyllgor Diwylliant i’r casgliad y dylai Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad symud o fod yn ddigwyddiad rhestr Grŵp B i fod yn ddigwyddiad rhestr Grŵp A. Roedd hyn yn dilyn argymhellion tebyg gan Bwyllgor Materion Cymreig blaenorol Tŷ’r Cyffredin ym mis Hydref 2023, a’r Senedd, a gytunodd ym mis Ionawr 2024 ar gynnig gan y Ceidwadwyr bod y Senedd “yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys gemau rygbi’r chwe gwlad yn y categori am ddim at ddibenion darlledu”.
Roedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r Pwyllgor Diwylliant, ac roedd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn flaenorol yn galw am amddiffyniad ychwanegol i’r Chwe Gwlad ac adolygiad o’r digwyddiadau rhestredig i gydnabod y sefyllfa yng Nghymru.
Dywedodd y Pwyllgor Diwylliant fod ei benderfyniad yn gofyn am “bwyso a mesur nifer o ffactorau”, gan nodi “pa mor werthfawr yw hawliau darlledu fel ffrwd incwm i URC”. Ond yn y pen draw daeth i’r casgliad “nad yw’r ystyriaethau hanfodol bwysig hyn, at ei gilydd, yn drech na phwysigrwydd rygbi i’r bywyd diwylliannol”. Roedd yn teimlo bod sicrhau bod talwyr ffi'r drwydded yn gallu parhau i wylio eu gêm genedlaethol am ddim yn bwysicach na sicrhau’r refeniw mwyaf i Undeb Rygbi Cymru.
Er bod gwleidyddion Cymru wedi bod yn glir eu bod am weld mwy o amddiffyniad i gemau’r Chwe Gwlad ar deledu am ddim, cafodd y mater hwn ei gicio allan ar ei ben gan Lywodraeth flaenorol y DU. Gyda newid diweddar yng ngweinyddiaeth San Steffan, a yw’n bryd trosi’r galwadau hyn yn gamau gweithredu?
Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru