Ar hyn o bryd, nid oes dim rhwystrau cyfreithiol i wahardd syrcasau yng Nghymru rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt.
Ar 23 Ionawr 2018, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd syrcasau yng Nghymru rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt.
Mae 6398 wedi llofnodi’r ddeiseb, a chaiff ei thrafod yn awr yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth.
Anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau
Mae rhai syrcasau yn y DU yn teithio ar hyn o bryd gydag anifeiliaid fel camelod, ceirw Llychlyn a sebras. Mae anifeiliaid syrcas gwyllt fel arfer wedi’u magu mewn caethiwed ond, yn ôl yr RSPCA, nid yw hynny’n golygu eu bod yn ddof, ac mae bywyd y syrcas yn debygol o fod yn niweidiol i’w hiechyd.
Ar hyn o bryd, nid oes dim syrcas yng Nghymru sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt, ond mae syrcasau o’r fath yn ymweld ag ardaloedd yng Nghymru.
Mae’r mater wedi cael cryn dipyn o sylw cyhoeddus a chyflwynwyd deiseb debyg yn y Pedwerydd Cynulliad (P-04-653). RSCPA Cymru gyflwynodd hon, ac roedd yn galw am wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt. Rebecca Evans AC oedd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd, ac ymatebodd i’r ddeiseb drwy gyhoeddi adolygiad annibynnol o’r dystiolaeth am les anifeiliaid mewn syrcasau teithol a syrcasau sefydlog.
Adolygiad annibynnol o faterion lles anifeiliaid mewn syrcasau
Cyhoeddwyd yr adolygiad annibynnol ym mis Ionawr 2016, ac roedd o blaid gwahardd syrcasau a sŵau teithiol rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt. Wrth archwilio lles corfforol a meddyliol anifeiliaid mewn syrcasau teithiol, daeth i’r casgliad a ganlyn:
The available scientific evidence indicated that captive wild animals in circuses and other travelling shows do not achieve their optimal welfare requirements, as set out under the Animal Welfare Act 2006, and the evidence would therefore support a ban on using wild animals in travelling circuses and mobile zoos on animal welfare grounds.
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at arolwg gan yr RSPCA (a ddiweddarwyd yn 2016) a nododd fod deg o awdurdodau lleol Cymru wedi gwahardd syrcasau ar eu tir.
Ymgynghori ynghylch dangos anifeiliaid mewn arddangosfeydd teithiol
Mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddodd ar 15 Rhagfyr 2016, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ei bod yn awyddus i fynd i’r afael â lles anifeiliaid a ddefnyddir mewn arddangosfeydd teithiol, gan gynnwys syrcasau. Roedd yr arddangosfeydd hyn yn cynnwys arddangosfeydd heboga teithiol, anifeiliaid anwes egsotig sy’n cael eu dangos mewn ysgolion at ddibenion addysgol, ceirw Llychlyn mewn digwyddiadau adeg y Nadolig ac, wrth gwrs, anifeiliaid mewn syrcasau teithiol. Tynnodd sylw at y ffaith bod ei swyddogion yn gweithio ar gynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer arddangosfeydd o’r fath, ac y byddai hyn yn ymdrin ag archwilio a gorfodi. Ar ddechrau 2017, roedd o leiaf 53 arddangosfa deithiol yng Nghymru yn defnyddio anifeiliaid.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd nad oedd wedi diystyru’r posibilrwydd o wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt yng Nghymru. Dywedodd fod posibilrwydd o hyd y byddai hyn yn cael ei gynnwys mewn Bil gan Lywodraeth y DU yn ymwneud â’r mater hwn ond dywedodd nad oedd modd aros am byth am y posibilrwydd hwnnw.
Yna, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad (17 Gorffennaf – 8 Hydref 2017) ynghylch pa mor ymarferol fyddai creu system drwyddedu neu gofrestru ar gyfer arddangosfeydd teithiol yng Nghymru sy’n defnyddio anifeiliaid domestig neu egsotig. Yn y ddogfen ymgynghori, tynnwyd sylw at y sefyllfa a ganlyn yng Nghymru:
Ceir amrywiaeth o wahanol fathau o ADA ac nid oes trefn drwyddedu safonol na gofyn i gynnal archwiliad rheolaidd. Mae ambell ADA wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925. Mae hyn yn gofrestriad am oes ac nid oes gofyn penodol ynddi i gynnal archwiliadau. O'r herwydd, mae'n annhebygol bod safonau lles llawer o anifeiliaid perfformio yng Nghymru'n cael eu hasesu.
Ceisiwyd sylwadau hefyd ar wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid.
Ar 14 Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig a chrynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad. O ystyried bod ‘mwyafrif yr ymatebwyr’ yn cytuno y dylid sefydlu trefn drwyddedu neu gofrestru ar gyfer arddangosfeydd teithiol sy’n defnyddio anifeiliaid, (a’r rhan fwyaf o blaid trwyddedu’n hytrach na chofrestru), dywedodd y datganiad ysgrifenedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ddatblygu cynllun trwyddedu yn y cyswllt hwn. Bydd hyn yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus yn 2018 ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
O ran cyflwyno gwaharddiad, mae’r crynodeb o’r ymatebion yn nodi:
Rhaid cydnabod y teimladau cryfion ymhlith yr ymatebwyr o blaid gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Bydd swyddogion yn para i weithio gyda Defra a'r Gweinyddiaethau Datganoledig i ystyried materion trawsffiniol.
Mae RSPCA Cymru yn credu bod y wybodaeth a gasglwyd i gefnogi’r gwaharddiad, yn ddigonol i gyflwyno gwaharddiad o dan Adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, gan arbed amser seneddol.
Yn ei datganiad diweddaraf am y mater ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bwriad i wahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt.
Rwy'n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Rwyf am ddysgu oddi wrth y craffu a fu ar y Wild Animals in Travelling Circuses (Scotland) Act 2018, yn enwedig y dadleuon moesol a lles o blaid gwaharddiad.
Y tu hwnt i Gymru
Yr Alban
Ym mis Mai 2017, cyflwynodd yr Alban y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) yn gwneud syrcasau anifeiliaid gwyllt yn anghyfreithlon; y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Gwnaed hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2015, pan ddywedodd 98% o ymatebwyr eu bod o blaid gwaharddiad llawn. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018.
Lloegr
Mae Llywodraeth y DU wedi ystyried gwahardd syrcasau rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt ar sail foesegol, a hynny ers nifer o flynyddoedd, ond nid yw wedi cyflwyno deddfwriaeth eto. Ar 20 Chwefror 2017, cyflwynwyd Bil Aelod preifat yn dwyn y teitl Wild Animals in Circuses (Prohibition) Bill 2016-17 yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd yn ymdrin â Lloegr yn unig, ac roedd disgwyl iddo gael ei ail ddarlleniad ar 12 Mai 2017. Methodd y Bil, fodd bynnag, yn dilyn etholiad cyffredinol y DU.
Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Lloegr) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i bob syrcas teithiol yn Lloegr fod â thrwydded os ydynt yn defnyddio anifeiliaid gwyllt. Cyflwynwyd canllawiau (PDF 654KB) ym mis Tachwedd 2012 sy’n cynnwys safonau lles anifeiliaid y mae’n rhaid i ddeiliaid trwydded gydymffurfio â nhw.
Gogledd Iwerddon
Nid yw Gogledd Iwerddon wedi gwneud unrhyw ymrwymiadau pendant eto o ran gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Gweriniaeth Iwerddon
Ers 1 Ionawr 2018, mae syrcasau wedi’u gwahardd rhag defnyddio anifeiliaid gwyllt yng Ngweriniaeth Iwerddon o dan Rheoliadau Syrcasau (Gwahardd Defnyddio Anifeiliaid Gwyllt) 2017. Hon oedd y bumed wlad ar hugain yn y byd i wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru