Ar 17 Gorffennaf 2024, amlinellodd y Brenin raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth newydd y DU ar gyfer y sesiwn seneddol hon. Roedd yr araith yn cynnwys ymrwymiadau ar ystod eang o feysydd, megis cynllunio, datblygu economaidd ac ynni.
Fodd bynnag, faint o hyn sy'n berthnasol i Gymru?
Mae rhai o’r Biliau arfaethedig yn ymwneud â meysydd datganoledig, megis tai. O dan y confensiwn cydsyniad deddfwriaethol (neu gonfensiwn Sewel), ni fydd Senedd y DU, fel arfer, yn deddfu ar faterion sydd wedi’u datganoli i Gymru heb gydsyniad y Senedd. Yn y blynyddoedd diwethaf, bu niferoedd cynyddol o Filiau’r DU sy’n gwneud darpariaeth mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad y Senedd.
Mae Biliau arfaethedig eraill a fydd yn berthnasol i Gymru yn ymwneud â meysydd a gedwir yn ôl i Senedd y DU, megis diogelwch ffiniau.
Pa Filiau fydd yn berthnasol i Gymru?
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS, wedi nodi 29 Bil sy’n ymestyn i Gymru ac yn gymwys iddi, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Nid yw’r nifer hwn yn cynnwys Biliau drafft.
Mae hi wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Biliau perthnasol, ac ailddatganodd ymrwymiad Llywodraeth y DU i femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd ar Gonfensiwn Sewel.
Daw’r wybodaeth sydd isod o'r ddogfen briffio gefndir ar Araith y Brenin.
Mae'r Bil Diogelwch Ffiniau, Lloches a Mewnfudo yn lansio Awdurdod Diogelwch Ffiniau er mwyn dwyn y rheini sy’n smyglo troseddwyr o flaen eu gwell, fel rhan o’r amcanion i gael ffiniau diogel a chryfach. At hynny, bydd yn dwyn y Bartneriaeth Mudo a Datblygu Economaidd gyda Rwanda i ben.
Trwy ei Bil Troseddu a Phlismona, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu haneru trais difrifol fel troseddau cyllyll a thrais yn erbyn menywod a merched, rhoi mwy o bwerau i’r heddlu fynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a sicrhau’r safonau uchaf o fewn plismona.
Mae'r Bil Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) – a elwir hefyd yn gyfraith Martyn – yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n gyfrifol fangreoedd a digwyddiadau penodol gymryd camau i liniaru effaith ymosodiad terfysgol, a lleihau niwed pe bai ymosodiad terfysgol yn digwydd.
Mae'r Bil Dioddefwyr, Llysoedd a Gwarchod y Cyhoedd yn cyflwyno nifer o fesurau, gan gynnwys cryfhau pwerau'r Comisiynydd Dioddefwyr a mynnu bod troseddwyr yn bresennol wrth gael eu dedfrydu.
Nod y Bil Cynllunio a Seilwaith yw mynd i’r afael â chyfyngiadau presennol y system gynllunio, gan anelu at hwyluso mwy o adeiladu tai a datblygu seilwaith. Disgwylir i fwyafrif y Bil hwn fod yn berthnasol i Gymru.
Trwy’r Bil Hawliau Rhentwyr, nod Llywodraeth y DU yw rhoi mwy o hawliau ac amddiffyniadau i bobl sy’n rhentu eu cartrefi. Bydd hyn yn cynnwys rhoi terfyn ar achosion o droi allan heb fai, a diwygio’r seiliau dros feddiannu. Dim ond yn Lloegr y bydd mwyafrif y Bil hwn yn berthnasol.
Er mwyn harneisio pŵer data ar gyfer twf economaidd, bydd y Bil Gwybodaeth Ddigidol a Data Clyfar yn sefydlu Gwasanaethau Dilysu Digidol, datblygu Cofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol, a sefydlu cynlluniau Data Clyfar.
Nod y Bil Seiberddiogelwch a Gwydnwch yw cryfhau amddiffynfeydd seiber a sicrhau bod mwy o wasanaethau digidol hanfodol yn cael eu diogelu.
Gan ddadlau bod presenoldeb arglwyddi etifeddol yn hen-ffasiwn ac yn anamddiffynadwy, mae Bil Tŷ'r Arglwyddi (Arglwyddi Etifeddol) yn dileu hawl yr arglwyddi etifeddol sy’n weddill i eistedd a phleidleisio yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Er nad oes angen deddfwriaeth, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sefydlu Cyngor newydd y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau, a fydd yn dwyn Prif Weinidog y DU, penaethiaid llywodraethau datganoledig a meiri awdurdodau cyfun yn Lloegr, at ei gilydd. Nid yw'n glir eto a fyddai hwn yn cyd-fynd â'r strwythur presennol uchaf ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol, neu’n disodli’r strwythur hwnnw.
Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r diwylliant amddiffynnol annerbyniol sy’n gyffredin ar draws gormod o’r sector cyhoeddus, bydd Cyfraith Hillsborough yn cyflwyno dyletswydd o onestrwydd i weision cyhoeddus.
Mae’r Bil Tybaco a Fêps yn cyflwyno mesurau fel gwaharddiad cynyddol ar werthu cynhyrchion tybaco. At hynny, bydd yn atal fêps a chynhyrchion nicotin eraill rhag cael eu brandio’n a’u hysbysebu’n fwriadol i apelio at blant. Bydd y Bil yn ymestyn i’r DU gyfan, er y bydd y ffordd y caiff ei fesurau eu cymhwyso yn amrywio ledled y DU.
Mae'r Bil Iechyd Meddwl yn moderneiddio Deddf Iechyd Meddwl 1983, er mwyn sicrhau, er enghraifft, mai dim ond pan ei bod yn angenrheidiol y caiff pobl eu cadw a’u trin o dan y Ddeddf.
Mae'r Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) yn diwygio masnachfreintiau rheilffyrdd ac dwyn gweithredwyr trenau ym Mhrydain i berchnogaeth gyhoeddus. Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddweud y bydd hyn yn golygu mwy o sicrwydd ynghylch gweithrediad Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo cyhoeddus, drwy gadarnhau y gall barhau fel gweithredwr diofyn gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.
At hynny, bydd Bil Rheilffyrdd ar wahân yn cyfrannu at ddiwygio’r rheilffyrdd drwy, er enghraifft, sefydlu corff cyhoeddus newydd (Rheilffordd Prydain Fawr, neu Great British Rail) a symleiddio’r drefn docynnau.
Trwy ei Bil Ynni Prydain Fawr, bydd Llywodraeth y DU yn sefydlu corff cynhyrchu ynni newydd dan berchnogaeth gyhoeddus, Ynni Prydain Fawr (neu Great Britsh Energy), a fydd yn berchen ar brosiectau pŵer glân, yn eu rheoli ac yn eu gweithredu.
Gan ddadlau bod cwmnïau dŵr yn methu â chyflawni ar gyfer eu cwsmeriaid a’r amgylchedd, mae’r Bil Dŵr (Mesurau Arbennig) yn anelu at gryfhau rheoleiddio fel cam cyntaf i “lanhau ein hafonydd, llynnoedd a moroedd.
Mae Bil Ystad y Goron yn dileu cyfyngiadau ar weithgareddau Ystad y Goron, yn rhoi pwerau iddi fenthyca, ac yn ehangu ei phwerau buddsoddi.
Mae'r Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy (Mecanwaith Cynnal Refeniw) yn anelu at annog buddsoddiad mewn adeiladu gweithfeydd tanwydd hedfan cynaliadwy.
Bydd y Bil Cyfrifoldeb Cyllidebol yn sicrhau bod llywodraethau’r DU yn y dyfodol yn gwneud newidiadau sylweddol a pharhaol i drethi a gwariant, yn ddarostyngedig i asesiad annibynnol gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
Mae Bil y Gronfa Cyfoeth Genedlaethol yn ganolog i genhadaeth Llywodraeth y DU i sicrhau twf ac economi wyrddach. Ei fwriadu yw helpu Llywodraeth y DU i wneud buddsoddiadau i gefnogi swyddi, cataleiddio buddsoddiad y sector preifat a symleiddio tirwedd dameidiog y DU o gymorth i fusnesau a buddsoddwyr.
Trwy ei Bil Hawliau Cyflogaeth, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno diwygiadau fel gwahardd contractau oriau sero, dirwyn arferion ‘diswyddo ac ailgyflogi’ a ‘diswyddo a disodli’ i ben, gan wneud gweithio hyblyg yn ddiofyn o’r diwrnod cyntaf a chryfhau amddiffyniad i famau newydd. At hynny, bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni cyflog byw gwirioneddol, sy’n cyfrif am gostau byw.
Mae'r Bil Diogelwch Cynnyrch a Mesureg yn darparu sefydlogrwydd rheoleiddiol, ac yn darparu mwy o amddiffyniad i ddefnyddwyr. Nod y Bil yw caniatáu i’r DU ddewis a ddylid adlewyrchu neu wyro oddi wrth reolau diweddaraf yr UE, er mwyn cynnal diogelwch cynnyrch uchel a chefnogi busnesau a thwf economaidd.
Nod y Bil Cynlluniau Pensiwn yw cefnogi pobl sy'n cynilo mewn cynlluniau pensiwn sector preifat, drwy gymryd nifer o fesurau i'w helpu i gynilo mwy.
Mae'r Bil Penderfyniadau Banc (Ail-gyfalafu) wedi’i gynllunio i ganiatáu ymatebion mwy effeithiol i fethiannau banc bach, lle bernir bod datrysiad er budd y cyhoedd, fel nad yw costau penodol rheoli eu methiant yn disgyn ar drethdalwyr.
Mae'r Bil Cymrodeddu yn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i anelu at gefnogi dulliau datrys anghydfodau yn fwy effeithlon, denu busnes cyfreithiol rhyngwladol, a hybu twf economaidd y DU.
Mae’r Biliau eraill a ganlyn yn Araith y Brenin, yn berthnasol i Gymru:
- Y Bil Llywodraethiant Pêl-droed;
- Bil Comisiynydd y Lluoedd Arfog;
- Bil Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad a Phwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (Statws); a hefyd
- Bil yr Arglwyddi Ysbrydol (Menywod) 2015 (Estyniad).
At hynny, roedd yr Araith yn cynnwys y Biliau canlynol sy’n berthnasol i Gymru, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ffurf drafft:
- Y Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) drafft;
- y Bil Arferion Trosi drafft; a hefyd
- y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Chyfunddaliad drafft.
Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?
Estynnodd Llywodraeth Cymru groeso i’r “trafodaethau cynnar ac ystyriol a gynhaliwyd cyn Araith y Brenin” gan Lywodraeth y DU. Ychwanegodd, er mai ei safbwynt o hyd yw y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei phasio gan y Senedd, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod yna “amgylchiadau pan fydd yn gwneud synnwyr i ddarpariaethau, sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu cynnwys mewn Biliau gan Senedd y DU, gyda chydsyniad penodol y Senedd”.
Y camau nesaf:
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno sawl Bil i Senedd y DU. Bydd amseriadau a manylion y Biliau yn dod yn gliriach ar ôl toriad yr haf, wrth i’r broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru