Yn sgil creu’r Cynulliad ym 1999, atgyfodwyd y Gymraeg fel iaith gyfreithiol. Ers hynny, mae’r Senedd wedi bod yn ddeddfwrfa ddwyieithog sy’n gwneud cyfreithiau o statws cyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae'r corff o gyfreithiau Cymreig a ddatblygodd yn Gymreig mewn dwy ystyr - o ran eu cynnwys unigryw ac o ran eu hiaith. Mae drafftwyr, cyfreithwyr, cyfieithwyr, Aelodau a swyddogion wedi chwarae eu rhan yn y gwaith o sicrhau bod cyfraith Cymru ar gael i ddinasyddion yn y ddwy iaith swyddogol.
Mae datblygiad y Gymraeg fel iaith gyfreithiol fodern wedi bod yn hollbwysig i stori deddfu 25 mlynedd y Senedd.
Statws cyfartal
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ymgorffori yn y gyfraith yr egwyddor, pan wneir deddfwriaeth yn ddwyieithog, y dylid trin y testunau Cymraeg a Saesneg yn gyfartal at bob diben. Ailddatganwyd yr egwyddor bwysig hon yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Adlewyrchir y statws cyfartal hwn yn y rheolau, y gweithdrefnau a’r canllawiau a ddatblygwyd yn y Senedd a Llywodraeth Cymru ar sut y dylid gwneud cyfreithiau. Er enghraifft:
- dywed Rheolau Sefydlog y Senedd, sy’n llywodraethu sut y mae’r Senedd yn cael ei rhedeg, ei bod yn rhaid cyflwyno Bil “yn Gymraeg a Saesneg” (ac eithrio mewn achosion penodol iawn) a bod yn rhaid i bwyllgor a gaiff ei greu i edrych ar is-ddeddfwriaeth adrodd ynghylch a ddylai’r Senedd roi sylw arbennig i "anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg” wrth graffu ar gyfreithiau;
- noda llawlyfrau a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylid drafftio Biliau ac is-ddeddfwriaeth y dylai'r rhai sy'n drafftio sicrhau bod y ddau destun “yn cael yr un effaith gyfreithiol” ac y dylid cymryd camau i sicrhau “nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg”; a
- mae gwaith craffu, diwygio a phleidleisio ar ddeddfwriaeth yn digwydd yn ddwyieithog yn y Senedd ac mae deunyddiau newydd, megis geirfaoedd dwyieithog ar gyfer Biliau, wedi helpu i gefnogi'r gwaith craffu yn y ddwy iaith.
Fodd bynnag, fel y nododd Comisiwn y Gyfraith:
Mae system lle gwneir cyfreithiau mewn dwy iaith sy’n cael eu trin i bob pwrpas fel rhai ac iddynt statws cyfartal wedi creu heriau newydd i’r rheini y mae gofyn iddynt eu dehongli a’u gweithredu.
Yr her o ddehongli deddfwriaeth ddwyieithog
Mae’r her o ran sut y dylai dinasyddion a’r llysoedd ddehongli deddfwriaeth sydd wedi’i hysgrifennu mewn dwy iaith wahanol yn broblem gyffredin mewn systemau â chyfreithiau dwyieithog. Beth sy'n digwydd os yw'n ymddangos bod gan y geiriau a ddefnyddir mewn ieithoedd gwahanol ystyron neu bwyslais gwahanol?
Ystyriodd Comisiwn y Gyfraith y mater hwn yn ei adolygiad o hygyrchedd cyfraith Cymru yn 2016. Daeth i’r casgliad ei bod yn rhaid i’r rhai sydd am ddeall ystyr cyfraith ddwyieithog yng Nghymru ystyried y testun yn y ddwy iaith er mwyn cael ateb. Dywedodd y byddai dibynnu ar un iaith yn unig yn tanseilio statws cyfartal y Gymraeg a’r Saesneg.
Ystyriodd yn fanwl yr hyn a ddylai ddigwydd os nad yw’n bosibl dod o hyd i ystyr cyffredin rhwng y ddwy iaith a daeth i’r casgliad, er mai mater i’r llysoedd yw hyn yn y pen draw, mai’r ffordd orau o fynd ati fyddai ystyried bwriad y Senedd wrth wneud y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio’n fwriadol at yr egwyddorion hyn yn ei Nodiadau Esboniadol ar gyfer Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Yn 2020, aethpwyd â'r achos cyntaf i'r Llys Gweinyddol yn gofyn iddo ystyried gwahaniaethau rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y gyfraith. Cafodd y penderfyniad hwn ei wrthdroi yn y Llys Apêl, ond, wrth ddod i'w ddyfarniad, ystyriodd y Llys y dylid cymhwyso egwyddorion arferol dehongliad statudol i ddadansoddi'r testunau Cymraeg a Saesneg ill dau. Daeth i'r casgliad, lle nad oedd modd canfod ystyr cyffredin, y dylai'r llysoedd edrych ar bwrpas a bwriad y Senedd wrth wneud y gyfraith.
Mae'r ddadl ynglŷn â'r achos hwn a'r arfer y dylai'r llysoedd ei fabwysiadu wrth ystyried achosion sy'n ymwneud â dehongli deddfwriaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg yn parhau i fod yn destun trafodaeth. Dywedodd Comisiwn y Gyfraith y dylai sicrhau bod niferoedd digonol o farnwyr sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg ar achosion lle mae gwahaniaethau rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg fod yn “[d]dyhead hirdymor”.
Mae’r achos hwn, a’r dadleuon sy’n deillio ohono, yn tanlinellu pwysigrwydd a chyfrifoldeb y Senedd i graffu’n gyfartal ar fersiynau Cymraeg a Saesneg y ddeddfwriaeth.
Hygyrchedd y gyfraith Gymraeg
Wrth ddatblygu’r Gymraeg fel iaith gyfreithiol fodern, mae Llywodraeth Cymru a’r Senedd hefyd wedi gorfod mynd i’r afael â sut i sicrhau bod cyfraith Gymraeg yn hygyrch i ddinasyddion.
Datblygu terminoleg
Mae drafftwyr a chyfieithwyr wedi gorfod datblygu terminoleg Gymraeg newydd a chyson. Mae gwefan BydTerm Cymru a geirfaoedd drafftio deddfwriaethol wedi’u datblygu gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda’r dasg hon. Mae Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn nodi am y tro cyntaf restr ddwyieithog o dermau ac ymadroddion cyfreithiol allweddol diffiniedig.
Cyfraith sy'n gyfredol
Mae mynediad i fersiynau cyfredol o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar gael i'r cyhoedd yn Gymraeg hefyd wedi bod yn her ac mae'n rhan o raglen gyntaf Llywodraeth Cymru i wella hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru.
Ysgrifennu cyfreithiau yn y Gymraeg
Mae sut y dylid ysgrifennu neu ddrafftio’r gyfraith yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau ei bod yn glir ac yn hawdd ei deall, wedi bod yn ffocws parhaus i’r rhai sy’n drafftio ac yn craffu ar gyfraith yn y Senedd.
Pwysleisiwyd yr angen i’r gyfraith beidio â chael ei “chyfieithu’n gaeth” ond i fod yn glir ac yr un mor “ddefnyddiadwy” gan Gomisiwn y Gyfraith, cymdeithas sifil a chan bwyllgorau'r Senedd.
Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth ddwyieithog yn cael ei chyd-ddrafftio yn y Gymraeg a’r Saesneg ond yn aml mae fersiynau Cymraeg yn cael eu cyfieithu o’r Saesneg gan ieithyddion deddfwriaethol, sy'n arbenigwyr mewn cyfieithu’r gyfraith.
Un o'r prif alwadau fu’r angen i neilltuo digon o amser yn y broses o ysgrifennu deddfwriaeth ar gyfer cyfieithiadau drafft o ddeddfwriaeth:
- i'w hystyried fel rhan o broses ailadroddol o ddatblygu Bil; a
- eu gwirio i sicrhau bod ganddynt yr un ystyr.
Galwodd Comisiwn y Gyfraith i'r amser sydd ar gael i gyfieithu ac ystyried y testun yn y ddwy iaith i gael ei amddiffyn yn "gadarn”. Galwodd un o bwyllgorau blaenorol y Senedd hefyd ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau hirdymor ar waith i gynyddu cyfran y Biliau sy’n cael eu cyd-ddrafftio.
Y Senedd fel gwarcheidwad
Yn ogystal â phasio cyfreithiau dwyieithog, mae’r Senedd a’i phwyllgorau yn gweithredu fel gwarcheidwaid statws cyfartal y gyfraith, gan sicrhau bod y gyfraith a gyflwynir yn y ddwy iaith yn bodloni’r rheolau a’r safonau a ddisgwylir.
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad presennol yn craffu ar a yw is-ddeddfwriaeth a wneir yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gyson. Mae'n cyhoeddi adroddiadau sy'n tynnu sylw at anghysondebau ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro'r ystyr.
Caiff cyfreithiau a wneir yn San Steffan mewn meysydd datganoledig eu gwneud yn Saesneg yn unig. Mae'r Pwyllgor wedi codi pryderon am effeithiau hyn ar fynediad dinasyddion i gyfreithiau yn y Gymraeg. Mae hefyd yn parhau i graffu ar raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru.
Awdurdodaeth wirioneddol ddwyieithog?
Yn ddi-os, mae creu’r Senedd 25 mlynedd yn ôl wedi arwain at adfywio'r Gymraeg fel iaith gyfreithiol. Mae ei statws cyfartal wedi’i ymgorffori yn y gyfraith ac wedi’i ymgorffori yn y rheolau sy’n llywodraethu sut y mae cyfreithiau’n cael eu gwneud yng Nghymru.
Mae effaith ehangach y statws cyfartal hwn hefyd yn amlwg yn natblygiad drafftwyr ac ieithyddion deddfwriaethol Cymraeg, yn natblygiad terminoleg gyfreithiol Gymraeg ac mewn galwadau am fwy o fyfyrwyr y gyfraith, cyfreithwyr a barnwyr sy’n medru'r Gymraeg.
Er hynny, erys yr angen am ffocws parhaus ar sicrhau bod cyfraith ddwyieithog yn wirioneddol gyfartal a hygyrch. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar hygyrchedd cyfraith Cymru yn pennu sawl amcan ar gyfer gwell darpariaeth o’r gyfraith yn Gymraeg. Mae pwyllgorau ac Aelodau’r Senedd yn parhau i alw am sicrhau bod statws cyfartal yn cael ei anrhydeddu'n briodol yn y cyfreithiau a gaiff eu gwneud.
Yn ystod ei 25 mlynedd gyntaf, mae’r Senedd wedi gosod y seiliau i’r Gymraeg barhau fel iaith gyfreithiol. Bydd cyflawni statws gwirioneddol gyfartal yn fater allweddol yn y 25 mlynedd nesaf yn hanes y Senedd.
Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru