Beth mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ei olygu i wasanaethau lleol yn 2023-24?

Cyhoeddwyd 13/02/2023   |   Amser darllen munudau

Ar 14 Rhagfyr, nododd Llywodraeth Cymru fanylion ei chyllid ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru. Ar £5.5 biliwn, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ei fod yn “Setliad da”, ond mae'n cydnabod y pwysau sylweddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu. Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). y Setliad, ond rhybuddiodd fod “penderfyniadau anodd yn parhau”.

Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro, y pwysau sy’n wynebu awdurdodau lleol, a’r hyn y mae hyn yn ei olygu i gyllidebau’r flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn edrych ar gyllid yr heddlu ar gyfer 2023-24, yn dilyn cyhoeddi Setliad Terfynol yr Heddlu 2023-24 ddiwedd mis Ionawr.

Bydd cyllid craidd ar draws awdurdodau lleol yn cynyddu 7.9%

Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer y 22 awdurdod lleol (a elwir yn Gyllid Allanol Cyfun neu ‘AEF’) yn codi dros dro o £5.1 biliwn i £5.5 biliwn ar sail debyg am debyg, sy’n gynnydd o tua £400 miliwn neu 7.9%. O fewn hynny, ni fydd yr un o'r 22 awdurdod lleol yn cael cynnydd o dan 6.5%.

Mae'r dyraniadau i awdurdodau lleol yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio fformiwla y cytunir arno gyda llywodraeth leol. Mae'r cynnydd canrannol mwyaf eleni ar gyfer Sir Fynwy (9.3%) a'r isaf ar gyfer Blaenau Gwent (6.5%). Ar gyfer cyd-destun, y cynnydd cyffredinol ar gyfer 2022-23 oedd 9.4% , ac fel sy’n wir ar gyfer 2023-24, Sir Fynwy gafodd y cynnydd mwyaf (11.2%) a Blaenau Gwent gafodd yr isaf (8.4%).

Ffigur 1: Newid dros dro mewn Cyllid Allanol Cyfun yn ôl awdurdod lleol (2022-23 i 2023-24)

Sir Fynwy 9.3%, Caerdydd 9.0%, Bro Morgannwg 8.9%, Casnewydd 8.9%, Powys 8.7%, Sir Gaerfyrddin 8.5%, Wrecsam 8.4%, Sir y Fflint 8.4%, Ceredigion 8.2%, Sir Ddinbych 8.2%, Sir Benfro 7.9%, Ynys Môn 7.9%, yr holl awdurdodau lleol 7.9%, Pen-y-bont ar Ogwr 7.7%, Abertawe 7.6%, Torfaen 7.5%, Conwy 7.3%, Castell-nedd Port Talbot 7.1%, Merthyr Tudful 7.0%, Gwynedd 7.0%, Caerffili 6.9%, Rhondda Cynon Taf 6.6%, Blaenau Gwent 6.5%.

 

Ffynhonnell: Setliad refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol 2023 i 2024 Ymchwil y Senedd a Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod ei chyllideb gyffredinol yn gyllideb "a wnaed mewn cyfnod anodd ar gyfer cyfnod anodd". Dywed y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (y 'Gweinidog') fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r "angen i gefnogi gwasanaethau rheng flaen allweddol". Mae wedi nodi diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen fel un o’i thair “conglfaen fuddsoddi allweddol”, ochr yn ochr â pharhau i helpu’r “rhai y mae’r argyfyngau a wynebwn yn effeithio arnynt fwyaf” a “chefnogi ein heconomi drwy gyfnod dirwasgiad”.

Gan edrych ymhellach ymlaen, mae’r Gweinidog hefyd yn nodi’r cyllid dangosol cyfatebol ar gyfer 2024-25. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyrannu £5.69 biliwn, a fyddai'n gynnydd o £169 miliwn neu 3.1% o'i gymharu â'r setliad dros dro ar gyfer 2023-24. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwnnw’n seiliedig ar amcangyfrifon presennol o ardrethi busnes a chyllidebau Llywodraeth y DU – a gallai’r ddau newid.

Ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael i awdurdodau lleol

Yn ogystal â'r cyllid refeniw craidd ar gyfer 2023-24, nododd Llywodraeth Cymru bron £1.4 biliwn mewn cyllid grant penodol (er y bydd hyn yn debygol o gael ei ddiweddaru yn y Setliad Terfynol), ar gyfer pethau fel cymorth tai neu ryddhad ardrethi i fusnesau. Rhoddodd manylion hefyd am gyllid cyfalaf o bron £926 miliwn ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn cynnwys £180 miliwn o gyllid cyfalaf cyffredinol i awdurdodau lleol, sydd tua £30 miliwn yn fwy na 2022-23. Mae gweddill y cyllid cyfalaf yn cael ei dargedu at feysydd polisi penodol, fel 'Cymunedau Dysgu Cynaliadwy' a’r 'rhaglen Trawsnewid Trefi'.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn mynd drwy’r broses o bennu eu cyllidebau eu hunain ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae hyn yn cynnwys gosod lefelau’r dreth gyngor.

Pwysau "enfawr" yn y system

Hyd yn oed gyda chynnydd o 7.9%, dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ei fod yn anochel y byddai gostyngiadau mewn lefelau gwasanaeth. Er hynny, nododd hefyd bod y Setliad yn rhoi gwir gyfle i awdurdodau lleol ymateb i’r bwlch heb fesurau a fydd yn gwneud difrod i’r gwasanaethau lleol y mae pobl yn dibynnu arnynt.

Cyn cyhoeddi'r Setliad, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod pob awdurdod lleol wedi adrodd gorwariannau yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2022-23), a bylchau yn y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod.

Cyn i’r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi amcangyfrif y byddai awdurdodau lleol yn wynebu pwysau cronnol o £784 miliwn erbyn diwedd 2023-24. Nododd £439 miliwn pellach o bwysau ariannol yn 2024-25. Adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi cynyddu 10.5% yn y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2022, a bydd pwysau chwyddiant yn effeithio ar bŵer gwario awdurdodau lleol. Yn ogystal, mae CLlLC yn nodi'r galw cynyddol am wasanaethau awdurdodau lleol a phwysau cyllidebol eraill.

Mae dros £256 miliwn o'r pwysau ariannol yn ymwneud â gofal cymdeithasol, y mae rhai rhanddeiliaid wedi’i ddisgrifio fel gweithlu mewn "argyfwng". Mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys arian ychwanegol i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, wedi'i ddyrannu drwy'r Setliad a thrwy gyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, a groesawyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.. Fodd bynnag, er bod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn dweud y bydd hyn yn helpu o ran cadw staff, nid oedd yn cael ei ystyried fel rhywbeth a fyddai'n cael effaith enfawr ar recriwtio yn y sector.

Wrth graffu ar y Gyllideb Ddrafft, eglurodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn fod gwasanaethau awdurdodau lleol eraill hefyd yn wynebu problemau o ran recriwtio staff, a nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y pwysau mae darparwyr gwasanaethau a gomisiynir yn eu hwynebu. Tynnwyd sylw at gludiant rhwng y cartref a’r ysgol fel enghraifft lle mae contractwyr yn "cynyddu eu costau’n sylweddol", gydag un awdurdod lleol na gafodd unrhyw geisiadau i ddarparu’r gwasanaeth.

Beth am gyllid ar gyfer yr heddlu?

Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei helfen o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer Cymru 2023-24 mewn proses debyg i'r un i awdurdodau lleol. Y flwyddyn nesaf, bydd y pedwar llu heddlu yn cael cyllid craidd o £434 miliwn, sef cynnydd o 0.3% o gymharu â 2022-23, cyn addasiadau.

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a chaiff y cyllid hwn ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy’n golygu bod rhywfaint o gyllid yn dod drwy Lywodraeth Cymru, rhywfaint drwy Swyddfa Gartref y DU a rhywfaint drwy’r dreth gyngor.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith i sicrhau bod holl heddluoedd Cymru a Lloegr yn cael yr un newid canrannol mewn cyllid bob blwyddyn. Bu trafodaethau dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu i’r heddlu, sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd drwy fformiwla'r Swyddfa Gartref. Pan gafodd ei holi yn Senedd y DU ym mis Ionawr am adolygiad o’r fformiwla, dywedodd yr Ysgrifenydd Cartref y byddai ymgynghoriad ar gyllid yr heddlu yn dechrau ‘cyn bo hir’.

Yn ogystal â chyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gosod praesept heddlu lleol, sy'n rhan o filiau’r dreth gyngor gyfan. Ar gyfer 2023-24, mae’r cynnydd yn y praesept hwnnw’n amrywio o 5.14% (Gogledd Cymru) i 7.75% (Dyfed-Powys). Fel gydag awdurdodau lleol, mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wrthi'n gosod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Pryd gallaf gael gwybod am y Setliad Terfynol?

Trafododd y Senedd Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid eisoes wedi dweud, hyd yn oed gyda'r cynnydd mewn cyllid yn y Gyllideb Ddrafft, "mae iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol i gyd yn wynebu penderfyniadau anodd am y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn y flwyddyn i ddod". Disgwylir i'r Gyllideb Derfynol gael ei chyhoeddi ar 28 Chwefror, a'i thrafod ar 7 Mawrth. Yn y cyfamser, bydd y Senedd yn trafod Setliad Terfynol yr Heddlu ar 14 Chwefror, a gallwch wylio hynny'n fyw ar SeneddTV.

Mae'n debygol y bydd y setliad Llywodraeth Leol Terfynol yn cael ei gyhoeddi a'i drafod yn ôl yr un amserlenni â Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog, er nad yw hi’n gallu gwarantu na fydd y Setliad yn newid rhwng y setliadau dros dro a'r setliad terfynol, nid oedd yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r fethodoleg na'r data sy'n sail iddo, y tu hwnt i’r rhai a nodwyd. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n edrych yn debyg y bydd heriau i awdurdodau lleol sy’n darparu gwasanaethau yn 2023-24.


Erthygl gan Owen Holzinger a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru