Cyhoeddwyd 20/05/2014
  |  
Amser darllen
munudau
20 Mai 2014
Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1251" align="alignnone" width="300"]
Llun: o Wikimedia Commons gan Postdlf. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Beth yw trosedd casineb?
Mae troseddau a digwyddiadau casineb yn torri ar hawliau dynol mewn modd difrifol, ac yn effeithio’n fawr ar gymunedau dioddefwyr, a gall fygwth diogelwch gartref a diogelwch rhyngwladol. Mae trosedd casineb yn drosedd a ysgogir gan anoddefgarwch o grŵp penodol mewn cymdeithas, ar sail nodweddion y grŵp hwnnw. Mae hyn yn cynnwys anabledd, hil, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, er y gall pobl brofi troseddau casineb oherwydd nodweddion eraill hefyd.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn diffinio
- trosedd casineb fel: unrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd tybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.
- digwyddiad casineb fel: unrhyw ddigwyddiad nad yw’n drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd tybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy’n drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.
Pa mor gyffredin yw troseddau casineb?
Roedd 1,765 o droseddau casineb wedi’u cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn 2012-13. Oherwydd ei bod yn bosibl bod mwy nag un ffactor yn ysgogi trosedd (er enghraifft, mae’n bosibl i drosedd casineb gael ei dynodi fel un y mae anoddefgarwch o hil a chrefydd person yn sail iddi), roedd y troseddau hyn yn cynnwys 1,810 o ffactorau ysgogi o’i gymharu â 1,809 yn 2011-12.
Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn llunio adroddiadau blynyddol ar ‘
Droseddau Casineb a Throseddau yn erbyn pobl hŷn‘ ac yn darparu gwybodaeth am berfformiad o ran erlyn. Dengys y ffigurau diweddaraf, yn 2012-13, roedd 561 o gollfarnau yng Nghymru - 85% o erlyniadau.
Beth yw effaith troseddau casineb?
Holodd arolwg y
Prosiect Ymchwil Troseddau Casineb Cymru Gyfan 1,810 o bobl, yr oedd 564 ohonynt yn dynodi eu hunain fel dioddefwyr troseddau casineb, a chynhaliodd gyfweliadau manwl â 60 o ddioddefwyr troseddau casineb. Canfu fod:
- Troseddau casineb yn cael effaith seicolegol a chorfforol sylweddol. Mae rhagfynegyddion allweddol sy’n dylanwadu ar a fydd dioddefwr trosedd casineb yn dioddef effeithiau lluosog, ar sail newidynnau demograffig, newidynnau troseddau-penodol a newidynnau hunaniaeth-benodol;
- Targedwyd dwy ran o dair o ddioddefwyr gan yr un tramgwyddwr ar fwy nag un achlysur, a dywedodd bron hanner yr ymatebwyr eu bod yn adnabod y person a oedd yn tramgwyddo yn eu herbyn. Cafodd traean bron eu gormesu yn eu cartref, neu’n agos i’w cartref;
- Roedd boddhad dioddefwyr â’r system cyfiawnder troseddol yn ddibynnol ar sut y cawsant eu trin ar amser y cyswllt cyntaf ac yn ystod yr ymchwiliad, yn hytrach nac ar ganlyniad yr achos;
Nid yw effaith troseddau casineb yn unfath yn erbyn pob grŵp lleiafrifol yng Nghymru. Er enghraifft:
- Poeni am droseddau casineb oedd yn effeithio fwyaf ar ymatebwyr ifanc;
- Dioddefwyr anabl oedd y bobl a oedd yn fwy tebygol o fod eisiau symud o’u hardal;
- Roedd ymatebwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig 1.5 gwaith yn fwy tebygol o feddwl bod troseddau casineb yn cael effaith negyddol ar y gymuned;
- Dioddefwyr troseddau casineb ffydd oedd y bobl lleiaf tebygol o annog dioddefwyr eraill i nodi’r drosedd wrth yr heddlu;
- Roedd dioddefwyr troseddau casineb homoffobig yn fwy tebygol o ddioddef digwyddiadau treisgar;
- Roedd dioddefwyr troseddau casineb trawsffobig yn fwy tebygol na’r un grŵp arall i feddwl am hunan-laddiad.
Pam fod diffyg rhoi gwybod am droseddau wrth yr heddlu?
Mae
Prosiect Ymchwil i Droseddau Casineb Cymru Gyfan yn nodi nad oedd dros hanner y rhai a ymatebodd (56%) wedi nodi’r drosedd wrth yr heddlu a bod y lefelau nodi yn parhau’n isel. Rhesymau pennaf ymatebwyr am beidio â nodi digwyddiadau oedd canfyddiadau bod achos yn rhy ddinod (29%), ac na allai’r heddlu wneud dim ynglŷn â’r drosedd neu’r digwyddiad (27%). Roedd pobl eraill yn ystyried bod profiadau o droseddau casineb yn ‘fater preifat’ neu roeddent yn ofni y byddai troseddwyr yn ceisio dial arnynt (19%).
Caiff troseddau a digwyddiadau casineb effaith niweidiol a difaol ar gydlyniant cymunedau, ac yn eu tro gallant gynyddu tensiynau yn y gymuned a chreu teimlad o anoddefgarwch. Nododd yr ymatebwyr i brosiect Ymchwil i Droseddau Casineb Cymru Gyfan yr effeithiau a ganlyn ar eu cymunedau lleol yn sgîl troseddau casineb: rhagor o arwahanrwydd, creu diffyg ymddiriedaeth a llai o barch. Dangosodd y gwaith ymchwil fod dioddefwyr deirgwaith bron yn fwy tebygol o feddwl bod profiadau o droseddau casineb yn cael effaith negyddol ar y gymuned. Gall mynd i’r afael â chasineb yn gynnar gynorthwyo i ddatblygu perthnasoedd da o fewn cymunedau, a sicrhau y caiff naws o berthyn ac o gadernid ei chreu ynddynt.
Sut y byddwn yn mynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru?
Yn 2011, cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i
aflonyddu ar sail anabledd, wedi i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynnal
ymchwiliad drwy’r DU. Gwnaeth yr adroddiad ddeg o argymhellion, gan gynnwys creu cynllun gweithredu troseddau casineb.
Yn dilyn
Ymgynghoriad cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen -
Mynd i’r afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu ar 12 Mai 2014, ac mae’n cynnwys tri phrif nod:
- Atal – drwy herio’r agweddau sy’n sail i droseddau a digwyddiadau o’r fath, codi ymwybyddiaeth, ymyrryd yn fuan i’w hatal rhag gwaethygu, hyfforddi sefydliadau a defnyddio amcanion cydraddoldeb penodol i weithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus.
- Cefnogi dioddefwyr – drwy gynyddu lefelau nodi digwyddiadau wrth yr heddlu, annog rhagor o ddatblygu ar nodi gan drydydd partïon, gwella diogelwch a lles, ac ymchwilio i gefnogaeth o ansawdd i ddioddefwyr.
- Gwella yr ymateb ar y cyd gan asiantaethau – drwy ymchwilio i ddata perthnasol a rhwystrau sy’n atal gwybodaeth rhag cael ei rhannu, cynyddu gwaith ar y cyd gan asiantaethau a mynd i’r afael â’r hyn sy’n ysgogi troseddwyr.
Mae
Fframwaith Gweithredu 2014-15 yn amlinellu’r camau penodol yr ymgymerir â hwy ar draws pob adran fel rhan o’r fframwaith hwn.