Cyflwynwyd Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) i’r Senedd ar 20 o Dachwedd 2023.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Diwygio trethiant lleol: Y Senedd i ystyried gwelliannau i’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) (08 Gorffennaf 2024)
- Crynodeb o'r bil gan Ymchwil y Senedd: Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): crynodeb o’r Bil (22 Ionawr 2024)
- Geirfa ddwyieithog gan Ymchwil y Senedd: Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Geirfa ddwyieithog (12 Rhagfyr 2023)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Ailbrisio ardrethi busnes 2023: beth yw goblygiadau hyn i Gymru (31 Mawrth 2023)
Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru