Golygfa o'r awyr o dyrbinau gwynt yn ucheldir Cymru

Golygfa o'r awyr o dyrbinau gwynt yn ucheldir Cymru

Bil Seilwaith (Cymru) – Crynodeb o'r Bil

Cyhoeddwyd 20/11/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r Bil Seilwaith (Cymru) yn diwygio’r ffordd y caiff seilwaith ei gydsynio yng Nghymru drwy sefydlu proses unedig, o’r enw cydsyniad seilwaith, ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr o'r enw prosiectau seilwaith arwyddocaol. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a nwy uwchben trothwyon maint neu gapasiti penodol ar dir ac yn ardal forol Cymru.

Mae cydsyniad seilwaith yn disodli cyfundrefnau statudol presennol ac yn lleihau nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu prosiect seilwaith arwyddocaol drwy eu hymgorffori mewn un cydsyniad.

Mae’r Crynodeb hwn o'r Bil yn darparu trosolwg ac yn cyfeirio at ragor o fanylion ar y Bil.

Dewis categori:

Dangos pob un
Prosiectau seilwaith arwyddocaol
Gofyniad am gydsyniad seilwaith
Gwneud cais am gydsyniad seilwaith
Archwilio ceisiadau
Penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith
Gorfodi
Swyddogaethau atodol
Darpariaethau cyffredinol
Darpariaeth sy’n ymwneud â datblygiad neu faterion sy’n atodol iddo
Digolledu am newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith
Diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Dewis adran:

1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
A 1
A 2
A 3

Adran 1

Mae adran 1 yn datgan bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol os yw:

  • yn dod o fewn un o'r diffiniadau a bennir yn Rhan 1 (adrannau 2 i 16) o'r Bil;
  • wedi'i bennu felly mewn cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22; neu
  • wedi'i bennu fel prosiect seilwaith arwyddocaol yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru.

Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru