Cafodd Bil Seilwaith (Cymru) ei gyflwyno gerbron y Senedd gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mehefin 2023.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei ddiweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar gyfer Bil Seilwaith (Cymru). Yma ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys y Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Y Senedd i drafod gwelliannau i'r Bil Seilwaith (15 Mawrth 2024)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Bil Seilwaith (Cymru): materion a amlygwyd yn sgil gwaith craffu (1 Rhagfyr 2023)
- Crynodeb o dystiolaeth Ymchwil y Senedd: Dyma grynodeb o dystiolaeth ysgrifenedig a gafodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith mewn ymateb i'w ymgynghoriad ar y Bil yng Nghyfnod 1 (Medi 2023).
- Mae Crynodeb o’r Bil gan Ymchwil y Senedd yn darparu trosolwg o’r Bil ac yn cyfeirio at ragor o wybodaeth. (19 Medi 2023).
- Geirfa Ddwyieithog Ymchwil y Senedd. Dyma restr o dermau newydd a thermau technegol yn y Bil. Bwriedir iddi gefnogi gwaith craffu dwyieithog (28 Mehefin 2023).
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Bil Seilwaith (Cymru): beth mae’n ei wneud a beth fydd yn digwydd nesaf? (20 Mehefin 2023).
- Hysbysiad hywlus Ymchwil y Senedd: Y drefn gydsynio ar gyfer seilwaith ynni. Mae’n nodi’r prosesau presennol ar gyfer caniatáu seilwaith ynni ar dir ac yn y môr (Mehefin 2023).
- Hysbysiad hywlus Ymchwil y Senedd: Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Ceir yma’r broses bresennol ar gyfer caniatáu rhai mathau o seilwaith ar dir (Medi 2022).
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Trefn cydsynio seilwaith newydd i Gymru. Mae’n crynhoi’r ymgynghoriad o 2018 a ragflaenodd y Bil (7 Mehefin 2018).
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru