Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei gyflwyno i’r Senedd ar 18 Medi 2023.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei ddiweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfu’r Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys y Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Cwestiynau cyffredin: Beth sy’n digwydd nesaf gyda diwygio’r Senedd? (17 Mai 2024)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Ail gyfle i'r Senedd drafod gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (25 Ebrill 2024)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Un o bwyllgorau’r Senedd yn mynegi “amheuon sylweddol” ynghylch y system etholiadol arfaethedig (25 Ionawr 2024)
- Crynodeb o’r Bil gan Ymchwil y Senedd. Mae’n rhoi trosolwg o’r darpariaethau yn y Bil ac yn dangos lle mae rhagor o wybodaeth i’w chael (11 Hydref 2023)
- Geirfa Ddwyieithog Ymchwil y Senedd. Dyma restr o dermau newydd a thermau technegol yn y Bil. Ei bwriad yw cefnogi gwaith craffu dwyieithog (28 Medi 2023)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): y camau nesaf ar gyfer diwygio'r Senedd (20 Medi 2023).
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Diwygio’r Senedd: geirfa. Mae’n esbonio’r termau allweddol sy’n cael eu defnyddio yn y Bil ac yn y ddadl ehangach ynghylch diwygio’r Senedd (20 Medi 2023).
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Diwygio’r Senedd – y stori hyd yma (24 Awst 2023).
- Briff Ymchwil y Senedd: Diwygio Etholiadol y Senedd. Mae hwn yn friff cefndir ar y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (mis Awst 2023).
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Y Senedd i drafod cynigion ar gyfer Senedd â 96 o Aelodau (mis Mehifin 2022).
- Briff Ymchwil y Senedd: Hysbysiadau Hwylus Cyfansoddiadol (mis Tachwedd 2021)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Adroddiad yn canfod bod y Senedd yn ‘rhy fach’ a bod ‘diffyg amrywiaeth’ yn ei haelodaeth (mis Hydref 2020).
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru