Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn y Senedd ar 11 Mawrth 2024.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Yno ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Pwyllgor am i fwy gael ei wneud i gael gwared ar rwystrau sy’n wynebu menywod sy’n sefyll mewn etholiadau (11 Gorffennaf 2024)
- Crynodeb o'r bil gan Ymchwil y Senedd: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – Crynodeb o’r Bil(18 Ebrill 2024)
- Geirfa Ddwyieithog Ymchwil y Senedd. Dyma restr o dermau newydd a thermau technegol yn y Bil. Bwriedir iddi gefnogi gwaith craffu dwyieithog (25 Mawrth 2024).
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): cyflawni Senedd â chydbwysedd rhwng y rhywiau? (11 Mawrth 2024)
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Diwygio’r Senedd: geirfa (20 Medi 2023)
- Tudalen adnoddau: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (20 Medi 2023)
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru