Cyhoeddwyd 02/12/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024
  |  
Amser darllen
munudau
2 Rhagfyr 2015
Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gweithlu’r GIG, Asesiadau Effaith ar Iechyd, targedau perfformiad, a mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol
Yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Cynulliad yn 2016, mae rhanddeiliaid yn cyhoeddi maniffestos a phapurau briffio, gyda’r nod o ddylanwadu ar faniffestos pleidiau gwleidyddol yng Nghymru.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau yn tynnu sylw at y materion iechyd a gofal cymdeithasol allweddol a nodwyd gan randdeiliaid fel camau gweithredu blaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru ymgymryd â hwy ym mhumed tymor y Cynulliad.
Mae maniffesto Conffederasiwn GIG Cymru
yn galw am y canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Ymrwymo i newid trawsnewidiol o fewn y gwasanaeth iechyd drwy roi ar waith cronfa bontio er mwyn galluogi buddsoddi mewn newid gwasanaethau (i hwyluso symud gwasanaethau yn agosach i’r cartref)
- Datblygu a gweithredu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
- Cefnogi ailwampio targedau perfformiad y GIG, gan ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau
- Ymrwymo i ddatblygu integreiddio effeithiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol drwy fframwaith canlyniadau ar y cyd a dangosyddion wedi’u halinio. Dylai hyn gynnwys ymrwymiad i gyd-ffinio rhwng y bwrdd iechyd a ffiniau llywodraeth leol
- Gweithredu dull ‘iechyd ym mhob polisi’ , gyda gofyniad ar gyrff cyhoeddus i gynnal asesiadau o effaith ar iechyd ar bolisïau yn y dyfodol
Mae maniffesto’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) yn yr un modd yn galw am benderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol i gynnwys
asesu’r effaith ar iechyd y cyhoedd er mwyn ystyried effaith penderfyniadau cynllunio ar iechyd y cyhoedd, ee ar weithgarwch corfforol a gordewdra.
Mae BMA Cymru hefyd yn galw am
roi Asesiadau Effaith ar Iechyd ar sylfaen gyfreithiol orfodol yn ei faniffesto:
Tri cham at genedl iachach (PDF, 1.62MB). Mae rhai o alwadau eraill y BMA yn cynnwys:
- Sicrhau bod ansawdd y gofal i gleifion yn cael ei asesu gyda ffocws clinigol, drwy gael gwared ar dargedau mympwyol a’u disodli gyda model sy’n seiliedig ar anghenion clinigol.
- Cymryd camau i fynd i’r afael â’r her frys o recriwtio a chadw’r gweithlu.
Mae RCN Cymru hefyd yn canolbwyntio ar y gweithlu, ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i
‘sicrhau lefelau diogel staff nyrsio’ yn ei
ymgyrch Amser i Ofalu.
Mae galwadau
maniffesto’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn cynnwys:
- Sefydlu Gwasanaeth Meddyginiaeth Cronig Cymru wedi’i arwain gan fferyllfeydd
- Caniatáu mynediad i fferyllwyr i gofnodion iechyd unigolion
- Integreiddio arbenigedd fferyllwyr yn llawn i mewn i Dimau Amlddisgyblaeth GIG
Mae maniffesto’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant hefyd yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddefnyddio pwerau treth yn y dyfodol i
gyflwyno ardollau ar fwyd a diodydd â llawer o fraster, siwgr a halen i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru.
Mae RNIB Cymru yn galw am
dargedau deallus newydd ar gyfer triniaeth offthalmoleg. Mae’n datgan bod y targed atgyfeiriad ar gyfer triniaeth offthalmoleg ar hyn o bryd yn canolbwyntio’n unig ar y diagnosis cychwynnol a’r driniaeth gyntaf. Mae’n dadlau oherwydd bod y rhan fwyaf o gyflyrau colli’r golwg yn rhai dirywiol ond y gellir eu trin, mae angen targed dan arweiniad clinigol gyda thriniaethau dilynol yn rhan o hynny.
Mae RNIB Cymru hefyd yn galw am
gyllid cynaliadwy ar gyfer darpariaeth ddigonol o ran Gwasanaethau Swyddogion Cyswllt Clinigau Llygaid ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol. Yn ôl yr elusen, gall y gwasanaethau hyn arbed £10.57 y defnyddiwr i’r cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol, drwy leihau’r angen am ymyriadau pellach. [Cysylltwch â’r
RNIB am wybodaeth bellach ar ei maniffesto]
Mae maniffesto Action on Hearing Loss Cymru
sef Materion Clyw yn cynnwys galwad i
fynd i’r afael â nifer yr achosion cynyddol o golli clyw a’i effaith a gwneud hyn yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru. Mae hefyd am i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau bod pawb a allai elwa o gymhorthion clyw yn parhau i’w derbyn yn rhad ac am ddim ar y GIG.
Mae
galwadau Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru yn cynnwys:
- Buddsoddi mewn adfer yr ysgyfaint - mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn dweud mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sydd â Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint sy’n cael mynediad at gwrs adfer yr ysgyfaint. Mae am weld rhagor o ffisiotherapyddion resbiradol yn cael eu cyflogi i gyflwyno’r cyrsiau hyn ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cysylltiedig.
- Buddsoddi mewn addysg i gleifion - Byddai Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru yn hoffi gweld rhaglen addysg Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint i gleifion yn cael ei chyflwyno ledled Cymru ac mae’n credu y byddai cyflyrau cronig eraill hefyd yn elwa ar gyrsiau pwrpasol. Mae’n dadlau bod cleifion sy’n meddu ar fwy o wybodaeth yn rheoli eu cyflyrau yn fwy llwyddiannus ac yn arbed arian i’r GIG - er enghraifft mae gan naw deg y cant o bobl sy’n byw gyda chyflwr yr ysgyfaint dechneg anadlydd gwael, ac felly nid ydynt yn cymryd eu meddyginiaeth yn effeithiol.
[Cysylltwch â
Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru am fwy o wybodaeth]
Mae
maniffesto’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn galw am fynediad i hunangyfeirio at ffisiotherapi i fod ar gael i bawb sydd ei angen ar draws Cymru (gan nad yw hyn yn wir mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd). Mae hefyd am i
amseroedd aros ar gyfer asesiad ffisiotherapi yng Nghymru gael eu dileu. Mae’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn tynnu sylw at amodau penodol lle mae angen gweithredu; er enghraifft, mae’n galw am ddatblygu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Poen Anfalaen Cronig.
Mae’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi hefyd am weld
cynnydd enfawr o ran mynediad i ffisiotherapi sy’n seiliedig ar ofal sylfaenol. Mae
Coleg y Therapyddion Galwedigaethol yn galw am
fynediad i therapi galwedigaethol ar gyfer pob adran Damweiniau ac Achosion Brys a phob tîm gofal sylfaenol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choleg y Therapyddion Galwedigaethol am fwy o wybodaeth.
Mae Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru yn datgan nad yw pobl â sglerosis ymledol yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y Gweithwyr Iechyd Proffesiynol cywir mewn modd amserol. Mae am weld pob person â sglerosis ymledol yn cael cynnig adolygiad gofal o leiaf bob blwyddyn, a datblygu rhwydwaith o ofal sglerosis ymledol i ddarparu gwasanaeth tecach a mwy effeithlon.
Cysylltwch â Chymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru am ragor o wybodaeth.
Bydd ein blog nesaf yn y gyfres hon yn edrych ar alwadau maniffesto ynghylch iechyd meddwl, gofalwyr, dementia, a chanser.
View this post in
English
Darllenwch yr erthygl yma yn
Saesneg