Mae'r erthygl hon yn ymwneud â’r gynhadledd hinsawdd COP29 ym mis Tachwedd 2024. Mae’n wahanol i gynhadledd bioamrywiaeth COP16, a gynhaliwyd ym mis Hydref-Tachwedd 2024 ac sy’n destun erthygl ar wahân gan Ymchwil y Senedd.
Trodd sylw y byd at Baku, Azerbaijan, ym mis Tachwedd 2024, wrth i 29ain Cynhadledd y Partïon (COP29) i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd ddechrau. Roedd y cyfarfod yn gyfle i wledydd adeiladu ar gytundebau COPau cynharach a hwyluso trosglwyddiad byd-eang i allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net, a hynny drwy fwy o gyllid a chynlluniau datgarboneiddio gwell. Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn ystod COP29, sut mae’n berthnasol i COPau cynharach, a chynnydd Cymru tuag at sero net.
Hanes cryno COPau hinsawdd
Mae COPau hinsawdd wedi digwydd bron bob blwyddyn ers 1995. Maent yn gyfle i lywodraethau byd-eang gytuno ar ddull unedig o fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae COPau hinsawdd yn adlewyrchu'r consensws gwyddonol mai nwyon tŷ gwydr yn cael eu rhyddhau i atmosffer y Ddaear gan weithgaredd dynol sy’n achosi newid hinsawdd.
Naw mlynedd yn ôl, yn COP21, cytunodd arweinwyr y byd ar Gytundeb Paris, a oedd yn cael ei weld fel moment nodedig o ran cydweithrediad hinsawdd rhyngwladol. Roedd ei nodau’n cynnwys cyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd cyfartalog y byd i fod ymhell o dan 2°C a dyhead i gyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd i 1.5°C uwchlaw’r lefelau cyn-ddiwydiannol.
Cyflwynodd Cytundeb Paris y cysyniad o Gyfraniad a Bennir yn Genedlaethol (NDCs). Mae NDCs yn gynlluniau y mae’n rhaid i wledydd eu cyflwyno bob pum mlynedd (i’w gyhoeddi nesaf yn 2025) i ddangos y camau domestig y maent yn eu cymryd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Y llynedd, roedd COP28 yn cynnwys asesiad byd-eang a ganfu nad oedd gwledydd ar y cyd ar y trywydd iawn i gyflawni diben a nodau hirdymor Cytundeb Paris. Galwodd am fwy o uchelgais a gwell gweithrediad o NDCs i gadw cynhesu o dan 2°C.
Cymru yw un o sylfaenwyr yr Under2 Coalition, casgliad o 177 o lywodraethau is-genedlaethol sydd wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Cyllid newydd a hen faterion dadleuol yn COP29
Prif ganlyniad COP29 oedd cytundeb i wledydd datblygedig roi $300 biliwn y flwyddyn mewn cyllid hinsawdd i wledydd sy'n datblygu erbyn 2035. Mae hwn yn gynnydd triphlyg o'i gymharu â'r nod blaenorol, ond yn sylweddol llai na'r $1.3 triliwn y gofynnodd gwledydd sy’n datblygu amdano.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi y byddai ei NDC nesaf yn cynnwys targed o ostyngiad o 81% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2035 o’i gymharu â lefelau 1990. Mae’r amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu bod allyriadau y DU yn 2023 52.7% yn is na lefelau 1990.
Ni ddaethpwyd i gytundeb ar weithredu canlyniadau asesiad byd-eang COP28.
Roedd y cyfnod yn arwain at y gynhadledd yn ddadleuol, gyda’r BBC yn adrodd ei bod yn ymddangos bod llywydd COP29 yn defnyddio ei safle i drafod cytundebau olew a nwy newydd. Cafwyd honiadau tebyg am lywydd COP28 yn 2023.
Roedd grŵp o arbenigwyr hinsawdd, academyddion, a gwleidyddion yn eiriol dros ddiwygio COP, gan ddadlau na all gyflawni’r newid ar gyflymder a graddfa esbonyddol, sy’n hanfodol i sicrhau sefyllfa hinsawdd diogel i ddynoliaeth. Yn gysgod dros y gynhadledd hefyd roedd adroddiadau bod yr Unol Daleithiau yn debygol o dynnu'n ôl o Gytundeb Paris yn 2025.
Cynnydd Cymru tuag at sero net
Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at NDC y DU ac mae gan Gymru ei thargedau lleihau allyriadau statudol ei hun, fel y'u sefydlwyd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru i sero net erbyn 2050, ac i Weinidogion Cymru nodi polisïau ar gyfer datgarboneiddio sy’n cyd-fynd â chyllidebau carbon pum mlynedd.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflawni ei chyllideb garbon gyntaf (2016-2020) a tharged interim 2020 gyda gostyngiad allyriadau cyfartalog o 27.8%, sy'n fwy na'r nod o 23%.
Yn 2021, cymeradwyodd y Senedd dargedau lleihau allyriadau interim ar gyfer 2030 a 2040 a dwy gyllideb garbon ar gyfer 2021-2025 (cyllideb garbon 2) a 2026-2030 (cyllideb garbon 3). Mae’r holl dargedau allyriadau, cyllidebau carbon a gyhoeddwyd, ac allyriadau Cymru hyd yma i’w gweld yn y graff isod.
Ffynhonnell - Allyriadau Atmosfferig Cenedlaethol ar gyfer data allyriadau, Llywodraeth Cymru ar gyfer targedau a chyllidebau carbon (ceir manylion cyllideb garbon 1 yma).
Mae mwy o wybodaeth am gynllun sero net diweddaraf Llywodraeth Cymru i'w gweld yn y briff hwn gan Ymchwil y Senedd.
Mater traws-sector
Mae nwyon tŷ gwydr yn cael eu hallyrru gan amrywiaeth eang o weithgareddau dynol, ac felly mae cynlluniau datgarboneiddio yn torri ar draws llawer o sectorau, gan gynnwys: cynhyrchu trydan a gwres, trafnidiaeth, diwydiant, ac amaethyddiaeth. Mae cymhwysedd mewn rhai o'r meysydd hyn wedi’u cadw’n ôl i Lywodraeth y DU, gan gynnwys trawsyrru, dosbarthu a chyflenwi trydan, a datblygiad diwydiannol. Mae meysydd perthnasol eraill wedi’u datganoli’n rhannol neu’n llawn i Lywodraeth Cymru, lle mae eu cynlluniau datgarboneiddio yn aml yn cael eu hintegreiddio mewn rhaglenni ehangach, megis:
- Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, sy’n cael ei lywio gan Banel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon y Cynllun;
- Y Rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n anelu at wella effeithlonrwydd ynni adeiladau preswyl, ac sy’n destun gwaith craffu ar hyn o bryd fel rhan o ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd; a’r
- Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol 2022-2027, sy'n nodi targedau datgarboneiddio trafnidiaeth.
Beth sydd yn y fantol?
Cynyddodd tymheredd arwyneb cyfartalog y byd tua 1.1°C rhwng diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r unfed ganrif ar hugain. Mae canlyniadau tebygol cynhesu pellach yn cael eu nodi gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn ei adroddiad diweddaraf.
Yn 2022 a 2023, cafwyd record newydd am y flwyddyn boethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru, a gwelwyd y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru o 37.1°C ar 19 Gorffennaf 2022, ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
Yng Nghymru, o ran newid hinsawdd:
- caiff ei nodweddu gan gynnydd o 0.9°C yn nhymheredd cyfartalog y tir, cynnydd o 2% mewn glaw rhwng canol y 1970au a’r 2010au, a chynnydd blynyddol cyfartalog yn lefel y môr o tua 1.4mm dros y ganrif ddiwethaf;
- gallai arwain at gynnydd yn amlder a dwyster digwyddiadau tymheredd eithafol a glaw, sy'n bygwth bywyd dynol, seilwaith adeiledig, bywyd gwyllt, ac amaethyddiaeth; a
- “yn effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth gyfan Cymru”, gan gynnwys meysydd fel maeth, diogelwch bwyd, a dadleoli’r boblogaeth, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU (CCRA) yn asesiad pum mlynedd statudol o’r prif risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd i’r DU. Cafodd CCRA3 ei gyhoeddi yn 2022 ac mae trafodaeth fanwl o effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru yn cyd-fynd â hwn.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw addasu i newid hinsawdd yn y dyfodol. Amlinellodd ei dull gweithredu’n ddiweddar yn Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd Cymru 2024, a lywiwyd gan asesiad 2023 Pwyllgorau annibynnol y DU ar Newid Hinsawdd. Bu Ymchwil y Senedd yn archwilio addasu i’r hinsawdd yn flaenorol mewn briff yn 2021.
Yn hydref 2024, galwodd Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd ar Lywodraeth Cymru i “roi cyfiawnder hinsawdd a chyfrifoldeb byd-eang wrth wraidd pob polisi cyhoeddus”, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig yn ymrwymo i “weithredu dros yr hinsawdd yma yng Nghymru a dangos arweiniad yn y maes ar lwyfan y byd”. Gyda Chymru yn profi cynhesrwydd uchaf erioed ym mis Chwefror a mis Mai, a glaw eithriadol ym mis Tachwedd, mae newid hinsawdd yn debygol o barhau i fod yn ffocws sylweddol i fusnes y Senedd wrth iddo fynd rhagddo.
Erthygl gan Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru