Coronafeirws: diwylliant, y diwydiannau creadigol a chwaraeon

Cyhoeddwyd 17/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon oedd rhai o agweddau cyntaf ar fywyd Cymru i ddioddef effaith pandemig y coronafeirws, pan ganslwyd digwyddiadau cyn i unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol gael eu cyflwyno.

Mae Llywodraeth Cymru, a’r cyrff sy’n cefnogi diwylliant a chwaraeon yng Nghymru, wedi ymateb gyda gwahanol gynlluniau i helpu unigolion a sefydliadau y mae’r coronafeirws yn effeithio arnynt.

Ar 1 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi £18 miliwn i gefnogi diwylliant, y diwydiannau creadigol a chwaraeon. Mae hwn yn gyfuniad o arian Llywodraeth Cymru, ac arian o ffynonellau eraill, fel y Loteri Genedlaethol.

Y celfyddydau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn elusen annibynnol sy’n ariannu ac yn datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n dosbarthu cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

Ar 7 Ebrill lansiodd y Gronfa Gwytnwch y Celfyddydau gwerth £7 miliwn, y daw £5.1 miliwn ohono gan y Loteri Genedlaethol. Mae’n bwriadu dosbarthu £1.5 miliwn i unigolion, a £5.5 miliwn i sefydliadau.

Yn dilyn hyn:

  • Ar 14 Ebrill 2020, lansiodd Cyngor y Celfyddydau y rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer unigolion sy’n wynebu anhawster ariannol a chaledi ar unwaith sef, y Gronfa Ymateb Brys i Unigolion.
  • O 21 Ebrill 2020 bydd modd gwneud cais i Gronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau Cyngor Celfyddydau Cymru.
  • O 29 Mai 2020 bydd modd gwneud cais i Gronfa Ymsefydlogi i Unigolion y Cyngor.

Mae Cyngor y Celfyddydau hefyd wedi llacio rhai o’r amodau o ran cyllid y mae’n ei ddarparu, ac wedi gohirio adolygiad buddsoddi a oedd wedi’i gynllunio o’r sefydliadau a ariennir gan refeniw ganddo, a hynny tan 2021. Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, ynghyd â chyngor a gwybodaeth arall ar gyfer y sector ar gael ar ei wefan yma.

Mae Cyngor y Celfyddydau hefyd wedi llunio canllawiau ar rai ffynonellau cyllid a chefnogaeth eraill ar gyfer y sector diwylliannol.

Y diwydiannau creadigol

Lansiodd Cymru Greadigol, sef is-adran diwydiannau creadigol newydd Llywodraeth Cymru, gronfa o £1 miliwn i ymateb i argyfwng y coronafeirws. Mae’n cynnwys Cronfa Rhyddhad o ran Cerddoriaeth Llawr Gwlad i gefnogi pobl, ar wahân i gerddorion, sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth, gyda chyllid o hyd at £25,000 y busnes.

Hefyd dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael i’r sector teledu a chyhoeddi er mwyn caniatáu iddo ystyried cyfleoedd yn y dyfodol.

Efallai y bydd busnesau sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yn gymwys i gael cymorth busnes cyffredinol, yr ydym wedi’i gwmpasu mewn erthygl flog arall.

Codwyd pryderon y gallai’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol ddisgyn drwy’r rhwyd, fel petai, o ran y gefnogaeth hon. Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Caerdydd Greadigol ac Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd yn awgrymu bod meini prawf cymhwysedd yn eithrio rhannau sylweddol o’r gweithlu sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain, ac y byddai’r iawndal yn ddim ond cyfran fach o’r hyn a gaiff gweithwyr Talu wrth Ennill sydd ar seibiant. Adleisiwyd y pryderon hyn hefyd gan BECTU, undeb y cyfryngau ac adloniant.

Mae ffynonellau cymorth eraill ar gyfer y sector cynhyrchu yn cynnwys:

  • Mae gan yr Elusen Ffilm a Theledu dudalen ar ei gwefan sy’n rhoi cymorth a chyngor. Mae’n cynnwys gwybodaeth am grantiau a benthyciadau y mae’n eu cynnig ar y cyd â’r BFI ar gyfer gweithwyr ffilm, teledu a sinema sy’n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19.
  • Mae Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) wedi ailgyflwyno dros £4.6 miliwn o arian y Loteri ar gyfer meysydd penodol o’r sector, gan gynnwys arddangoswyr, gweithwyr llawrydd a chynhyrchwyr. Mae hefyd wedi addasu meini prawf o ran cynlluniau presennol mewn ymateb i broblemau fel llif arian a gorbenion cwmnïau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan.
  • Mae Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol wedi llunio rhestr o ffynonellau cefnogaeth a chyngor ar ei gwefan.
  • Cyhoeddodd BBC Cymru wybodaeth am becyn cymorth ar gyfer y sector cynhyrchu.
  • Mae S4C wedi cyhoeddi pecyn cefnogaeth i'r sector gynhyrchu. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan S4C: gwybodaeth ddiweddaraf COVID-19.

Treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau

Roedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys Cronfa Gwydnwch Diwylliannol gwerth £1 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, casgliadau, gwasanaethau cadwraeth, archifau a llyfrgelloedd cymunedol a chyhoeddus, a fydd ar gael ar sail cais am grant.

Bydd gwerth £250,000 o Adnoddau Llyfrgell Ddigidol ychwanegol yn helpu llyfrgelloedd cyhoeddus i ddarparu adnoddau digidol ychwanegol i’r cyhoedd, gan gynnwys pethau i’w darllen wrth hunan-ynysu.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi sefydlu Cronfa Argyfwng Treftadaeth gwerth £50 miliwn. Dywed Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol y bydd y gronfa hon yn darparu “cyllid tymor byr ar gyfer sefydliadau sy’n darparu prosiectau treftadaeth neu’n rhedeg prosiectau a ariannwyd yn flaenorol, a diogelu safleoedd treftadaeth yr ydym wedi buddsoddi ynddynt o’r blaen er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu colli i’r cyhoedd.” Mae’r sefydliad hefyd yn llacio ei reolau ynghylch grantiau eraill y mae wedi’u rhoi.

Mae Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru yn rheoli Cynllun grant gwytnwch COVID-19 gwerth £325,000 ar gyfer amgueddfeydd ac atyniadau treftadaeth.

Chwaraeon

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Bydd yn arwain Cronfa Gwydnwch Chwaraeon gwerth £8 miliwn i gefnogi clybiau chwaraeon a’u rhwydweithiau. Nid oes rhagor o fanylion ynglŷn â’r gronfa ar gael ar adeg ysgrifennu’r papur hwn. Yn ogystal â hyn:


Erthygl gan Robin Wilkinson, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.