Mae'r achosion o goronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar y sector trafnidiaeth ac ar symudedd. Mae adroddiad Google ar symudedd cymunedol ar gyfer y DU, a gyhoeddwyd ar 29 Mawrth , yn un o gyfres o adroddiadau a luniwyd er mwyn helpu Llywodraethau i ddeall ymateb y cyhoedd i ganllawiau ar ymbellhau cymdeithasol. Mae’r adroddiad dan sylw yn awgrymu bod nifer yr ymweliadau â gorsafoedd tramwy'r DU, a hyd arosiadau, wedi gostwng 75 y cant. Mae canlyniadau awdurdodau lleol Cymru hefyd yn awgrymu gostyngiadau sylweddol, gan gynnwys: 79 y cant yng Nghaerdydd; 69 y cant yng Ngheredigion; 67 y cant yn Abertawe; a 63 y cant yn Ynys Môn.
Mae'r blog hwn yn nodi rhai o'r camau allweddol a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig.
Statws gweithwyr trafnidiaeth
Mae trafnidiaeth yn rhan hanfodol o gadwyni cyflenwi ac yn rhan hanfodol o’r broses o sicrhau y gall gweithwyr allweddol deithio i'r gwaith. O ganlyniad, mae “gweithwyr trafnidiaeth” wedi'u cynnwys ymhlith y gweithwyr allweddol a restrwyd gan Lywodraeth Cymru.
O ystyried bod gweithwyr trafnidiaeth yn aml yn gweithio’n agos at y cyhoedd, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i staff yn y sector trafnidiaeth.
Teithio rhyngwladol
Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) wedi cyhoeddi cyngor teithio penodol sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws, ynghyd â chyngor ar gyfer gwledydd penodol. Yn gyffredinol, mae'n cynghori pawb i osgoi pob taith heblaw am rai hanfodol, ac yn cynghori pobl o'r DU sy'n teithio dramor ar hyn o bryd i ddychwelyd yn syth.
Ar 24 Mawrth, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor ddatganiad ar ddarparu cymorth i bobl o Brydain sydd dramor, gan amlinellu’r camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â gwledydd penodol er mwyn cynorthwyo’r broses ail-wladoli.
Yn dilyn hynny, ar 30 Mawrth, cyhoeddodd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad fod partneriaeth wedi’i sefydlu â chwmnïau hedfan at ddibenion ail-wladoli teithwyr a oedd yn sownd. Dylai twristiaid archwilio opsiynau masnachol yn gyntaf, cyn gwirio cyngor teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a monitro’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol a negeseuon e-bost consylaidd. Mae Llywodraeth y DU wedi addo swm o £75 miliwn ar gyfer hediadau siarter ychwanegol at ddibenion ail-wladoli. Fel "dewis olaf”, bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynnig benthyciad brys i deithwyr. Ar 14 Ebrill, cyhoeddodd y Swyddfa ganllawiau ar sut i wneud cais am fenthyciad brys i gael hediad ail-wladoli.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 4 Ebrill y byddai hediadau siarter o Bolifia, Ecwador, y Philippines ac India at ddibenion ail-wladoli teithwyr o Brydain, a bod 10 cwmni hedfan arall wedi ymuno â'r cynllun. Cyhoeddodd hefyd fod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi ymestyn ei gyngor i osgoi unrhyw deithiau tramor “am gyfnod amhenodol”. Ar 10 Ebrill cyhoeddodd yr FCO 12 o hediadau siarter ychwanegol o India. Mae canllawiau hefyd wedi'u cyhoeddi ar gyfer pobl o Brydain sy'n teithio dramor ond nad ydynt yn gallu teithio yn ôl i'r DU yn sgil cyfyngiadau yn ymwneud â'r coronafeirws.
Mae Asiantaeth Hedfan Sifil y DU wedi cyhoeddi gwybodaeth am y feirws ar gyfer teithwyr a phobl sydd ar eu gwyliau, gan gynnwys cyngor ar eu hawliau mewn achosion o oedi neu ganslo, ynghyd â gwybodaeth ar gyfer y diwydiant hedfan ei hun.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad i'r wasg ar 18 Mawrth yn nodi ei bod yn gweithio ar becyn o fesurau i gefnogi'r diwydiant hedfan. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod yn cefnogi camau gan EUROCONTROL, y corff sy'n rheoli taliadau awyrlywio ledled Ewrop, i ohirio'r taliadau hynny, nid oes unrhyw gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer y diwydiant yn ei gyfanrwydd wedi dilyn hyd yma.
Ar 31 Mawrth, cyhoeddodd Cymdeithas Gweithredwyr y Meysydd Awyr (yr AOA) ddatganiad i’r wasg yn galw am weithredu ac yn awgrymu bod y DU, o ran ei hymdrechion i gefnogi’r diwydiant hedfan, yn colli tir o’i gymharu ag economïau eraill. Ar 14 Ebrill, gwnaeth yr AOA, Airlines UK a'r ADS, sef corff masnach ar gyfer y sectorau awyrofod, amddiffyn, diogelwch a gofod yn y DU, alwad ar y cyd i ymestyn cynlluniau cymorth busnes.
Ar 31 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig yn nodi bod y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi ei atal, ac yn addo darparu rhagor o wybodaeth am sefyllfa Maes Awyr Caerdydd, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Cafwyd y wybodaeth honno ar 3 Ebrill, pan gyhoeddodd y Llywodraeth gyllid tymor byr ar gyfer y maes awyr, gan alw hefyd ar Lywodraeth y DU i newid ar frys ei dull gweithredu o ran darparu cymorth ariannol i feysydd awyr rhanbarthol.
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi cyngor ar y coronafeirws sy'n nodi bod yr holl hediadau teithiwr o Faes Awyr Caerdydd wedi'u hatal.
Teithio ar fysiau a’r rheilffyrdd
Ar 23 Mawrth, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU fesurau brys ar gyfer y masnachfreintiau rheilffordd y mae'n eu goruchwylio. Yng Nghymru, mae'r rhain yn berthnasol i fasnachfreintiau Great Western Railways (GWR), CrossCountry, ac Avanti West Coast. Yn ogystal, cyhoeddodd gytundeb ar y trefniadau ar gyfer gwneud ad-daliadau i ddeiliaid tocynnau uwch a thocynnau tymor. Yna, ar 30 Mawrth, cafwyd cyhoeddiad ynghylch contract dyfarnu uniongyrchol gyda GWR dros gyfnod o dair blynedd. Yn y tymor byr, bydd y contract hwn yn cydredeg â'r cytundebau mesurau brys a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth.
Mewn datganiad i'r wasg ar 29 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gymorth ar gyfer y diwydiant bysiau yng Nghymru, a chymorth ychwanegol ar gyfer masnachfraint reilffordd Trafnidiaeth Cymru, sef y fasnachfraint y mae’n gyfrifol amdani. Cafwyd manylion pellach mewn datganiad ysgrifenedig ar 31 Mawrth. Roedd y pecyn cymorth hwn werth cyfanswm o £69 miliwn dros y misoedd nesaf. Dywedodd y Gweinidog hefyd ei fod wedi ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn parhau i dalu 75 y cant o werth contractau ar gyfer gwasanaethau teithwyr ysgolion a gwasanaethau teithwyr lleol eraill dan gontract er mwyn sefydlogi'r sector.
Mewn ymateb, ar 30 March, cyhoeddodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, corff masnach y diwydiant bysiau, ddatganiad i'r wasg yn croesawu’r cyllid ond yn nodi y byddai angen cefnogaeth ychwanegol ar weithredwyr er mwyn talu'r costau a fyddai'n gysylltiedig â darparu’r lefelau gwasanaeth a ragwelir gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn hynny, ar 3 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phecyn cymorth ei hun ar gyfer gwasanaethau bysiau yn Lloegr, sef pecyn werth bron £400 miliwn.
Mae'r ddwy Lywodraeth wedi nodi'n glir mai gweithwyr allweddol yn unig ddylai ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae Traveline Cymru wedi coladu gwybodaeth gan weithredwyr bysiau a rheilffyrdd ynghylch newidiadau i amserlenni mewn ymateb i'r feirws. Mae gwybodaeth debyg ar gael hefyd gan wasanaeth Traveline ar gyfer Lloegr.
Trafnidiaeth ar y ffyrdd a'r sector cludo nwyddau
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ystod eang o fesurau sy'n ymwneud a materion nad ydynt wedi’u eu datganoli ym maes trafnidiaeth ar y ffyrdd. Mae'r adran hon yn nodi rhai o'r camau allweddol a gymerwyd. Mae manylion pellach ynghylch y camau eraill a gymerwyd ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.
Ar 17 Mawrth, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (y DVSA), sy’n un o asiantaethau Llywodraeth y DU, fod profion theori gyrru yn cael eu hatal am fis, a phrofion gyrru ymarferol am hyd at dri mis. Fodd bynnag, mae profion ar gael ar gyfer gweithwyr hanfodol.
Ar 20 Mawrth, cyhoeddodd y DVSA ganllawiau ar gyfer y drefn o esemptio lorïau, bysiau a threlars o'r angen am brawf MOT am gyfnod o dri mis yn dechrau ar 21 Mawrth.
Ar 25 Mawrth, cyhoeddodd y DVSA y byddai ceir, beiciau modur a faniau a oedd i fod i gael prawf MOT o 30 Mawrth ymlaen yn cael eu hesemptio o’r angen am brawf am gyfnod o chwe mis. Fodd bynnag, tynnodd y cyhoeddiad hwn sylw at y ffaith bod yn rhaid cadw cerbydau mewn cyflwr a oedd yn addas i'r ffordd a bod garejys yn parhau i fod ar agor. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd y DVSA ganllawiau yn pwysleisio’r ffaith bod angen cynnal profion ar gerbydau yr oedd eu tystysgrifau MOT yn dod i ben ar 29 Mawrth neu cyn hynny, er bod darpariaeth ar gael ar gyfer gyrwyr a oedd yn hunan-ynysu a gyrwyr a oedd yn ‘gwarchod’.
Mae camau hefyd wedi’u cymryd mewn perthynas â rheoleiddio gweithrediadau ym meysydd cludo nwyddau a bysiau.
Ar 17 Mawrth, cyhoeddodd Comisiynwyr Traffig Prydain Fawr, sy'n gyfrifol am drwyddedu a rheoleiddio’r sector cerbydau nwyddau trwm (HGV) a'r sector bysiau, ac am gofrestru gwasanaethau bysiau lleol, ganllawiau statudol ar gynllunio wrth gefn a chynllunio brys. Mae’r canllawiau hyn yn ceisio gweithredu arferion gwaith hyblyg ac agwedd gymesur tuag at y gwaith dan sylw.
Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau ar gyfer y diwydiant cludo nwyddau yng nghyd-destun teithio rhyngwladol. Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod y broses o gludo nwyddau yn rhyngwladol neu’n ddomestig, mewn unrhyw fodd, yn cael ei chategoreiddio fel gweithgaredd hanfodol yng nghyd-destun ei chyngor teithio.
Ar 20 Mawrth, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU a’r DVSA ganllawiau ar lacio’r rheolau sy’n ymwneud ag oriau gyrwyr sy’n cludo nwyddau ar y ffordd ar gyfer y cyfnod rhwng 23 Mawrth a 21 Ebrill. Mae'r rhain yn cael eu cymhwyso’n awtomatig mewn sefyllfaoedd brys – fel darparu nwyddau neu wasanaethau i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fel arall, rhaid cydymffurfio â’r rheolau arferol ar gyfer oriau gyrwyr.
Ar 31 Mawrth, cyhoeddodd y DVSA ganllawiau ar gyfer gweithredu newidiadau dros dro er mwyn caniatáu i yrwyr bysiau a lorïau barhau i yrru, hyd yn oed oes nad oedd modd iddynt gwblhau eu hyfforddiant ar gyfer y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gyrwyr, sy'n dystysgrif orfodol.
Ochr yn ochr â chanllawiau'r Llywodraeth, mae gan y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd dudalennau yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws, gan gynnwys gwybodaeth allweddol ar gyfer y sector cludo nwyddau ar y ffyrdd. Mae’r Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, sy'n cynrychioli pob dull o gludo nwyddau, hefyd wedi cyhoeddi adnoddau ar-lein.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.