Coronafeirws: y celfyddydau

Cyhoeddwyd 23/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 24 Mehefin 2020 bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod adroddiad diweddar y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau. Mae'r blog hwn yn darparu rhywfaint o wybodaeth gefndir am y prif broblemau y mae’r sector yn eu hwynebu.

Ar 16 Mawrth rhoddodd Llywodraeth y DU gyngor y dylai pobl osgoi tafarndai, clybiau, theatrau a lleoliadau cymdeithasol eraill o’r fath. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, daeth y cyngor hwn yn gyfarwyddyd, wrth i Lywodraeth y DU ddweud wrth bob clwb nos, theatr a sinema i gau.

Roedd y cyhoeddiad hwn yn achosi i’r holl incwm sy'n deillio o gynulleidfaoedd corfforol yn mwynhau’r celfyddydau gael ei atal. Nid yw’n bosibl i lawer o ddigwyddiadau celfyddydol fod yn fasnachol hyfyw wrth gadw pellter cymdeithasol, felly mae’n bosibl y bydd y gweithgareddau hyn ymhlith y rhai olaf i ailgychwyn wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi galw am ymestyn y gefnogaeth i'r celfyddydau gan Lywodraeth Cymru, fel y gall sefydliadau celfyddydol aeafgysgu yn hytrach na diffodd eu goleuadau am byth.

Model busnes a oedd fel arall yn sefydlog wedi dymchwel dros nos

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyrff cyhoeddus wedi annog sefydliadau celfyddydol i leihau eu dibyniaeth ar gymhorthdal cyhoeddus. Roedd strategaeth ddiwylliant Llywodraeth Cymru, sef Golau yn y Gwyll: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru yn 2016 yn disgrifio “[bod] angen clir i’r sector diwylliant feithrin ei allu i godi arian, i farchnata ac i greu incwm”. Yn 2018, galwodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Lywodraeth Gymru i ategu’r alwad hon â “lefel briodol o gymorth sydd wedi’i deilwra a’i lywio’n ddoeth” yn ei adroddiad Meithrin Cydnerthedd – Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau.

Mewn byd â llai o incwm o ffynonellau Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol, roedd cynyddu refeniw masnachol yn ffordd o sicrhau cydnerthedd ariannol. Gan fod y rhan fwyaf o weithgareddau masnachol wedi'i atal dros dro yn sgîl y cyfyngiadau ar symud, mae'r model hwn wedi'i wrthdroi.

Fel y dywedodd Cyngor y Celfyddydau wrth y Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu yn ddiweddar:

Under normal circumstances we applaud organisations like Chapter, Galeri in Caernarfon and Wales Millennium Centre for their success in operating with a low dependency on public funding. But with around 80% of their income coming from commercial activities, an otherwise stable business model crashed overnight.

Nid yw'r mwyafrif o berfformiadau artistig yn fasnachol hyfyw gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Eglurodd Nick Capaldi o Gyngor y Celfyddydau, pe bai Canolfan Mileniwm Cymru yn agor gyda rheolau cadw pellter cymdeithasol o 2 medr ar hyn o bryd, gallai werthu un sedd mewn chwech. Mae’r Ganolfan wedi canslo pob sioe yn 2020, ac mae 250 o swyddi mewn perygl, ac mae wedi rhagweld y gallai golli £20 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Mae Theatr Clwyd yn teimlo nad oes model ariannol newydd sy’n gwneud synnwyr - ac na all incwm o ddigwyddiadau celfyddydau byw sy’n ystyried camau cadw pellter cymdeithasol dalu eu costau.

Mae'r rhan fwyaf o weithwyr creadigol llawrydd wedi gweld “100% o'u gwaith yn cael ei ganslo”

Mae gweithwyr llawrydd yn flaenllaw iawn o ran cyflogaeth ym maes y celfyddydau. Ers i'r argyfwng ddechrau, yn ôl Cyngor y Celfyddydau, mae'r rhan fwyaf o weithwyr creadigol llawrydd wedi gweld 100% o’u gwaith yn cael ei ganslo.

Nodwyd yn eang pa mor anaddas oedd prif ffrydiau cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer gweithwyr creadigol llawrydd. Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Caerdydd Greadigol ac Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd yn awgrymu bod meini prawf cymhwysedd y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig yn eithrio rhannau sylweddol o’r gweithlu llawrydd, a bod iawndal yn ffracsiwn o’r hyn a dderbynnir gan weithwyr Talu wrth Ennill sy’n elwa o’r cynllun ffyrlo.

Cyhoeddodd Pwyllgor Trysorlys Tŷ'r Cyffredin adroddiad a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod dros filiwn o bobl wedi cwympo drwy’r bylchau o ran cynlluniau cymorth coronafeirws Llywodraeth y DU. Mae ei argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

Freelancers or those on short term contracts: In industries such as television and theatre, where short-term PAYE contracts are the norm, many workers are not entitled to support under the CJRS (Coronavirus Job Retention Scheme) or SEISS (Self-employment Support Scheme). This cannot be right. The Government should give this group access to financial support that equates to 80 per cent of their average monthly income, up to a total of £2,500 per month.

Cefnogaeth i'r celfyddydau

Ar 7 Ebrill lansiodd Cyngor Celfyddydau Cymru Gronfa Gwytnwch y Celfyddydau gwerth £7 miliwn. Daw £5.1 miliwn o'r cyllid hwn o'r Loteri Genedlaethol, a chaiff y gweddill ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £1.5 miliwn a ddyrennir i gefnogi unigolion a £5.5 miliwn i sefydliadau. Fe'i dosberthir drwy gronfeydd sydd â’r nod o ymateb i galedi ariannol ar unwaith, ac i alluogi unigolion a sefydliadau i addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae'r holl gronfeydd hyn wedi cau i ymgeiswyr newydd.

Rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU barhau’n ffyddiog o ran y sector hwn

Dywedodd Nick Capaldi wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod Cronfa Gwytnwch Cyngor y Celfyddydau yn ddigon i bara hyd at fis Medi. Gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn penderfynu aros ar gau tan o leiaf fis Ionawr 2021, mae'n annhebygol iawn y bydd y problemau sy'n wynebu unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y celfyddydau ar hyn o bryd wedi diflannu erbyn hynny.

Galwodd Mr Capaldi ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU […] i barhau’n ffyddiog o ran y sector hwn, a rhybuddiodd y byddai’n drasiedi pe baem yn cyrraedd mis Hydref, ar ôl buddsoddi miliynau i gadw’r sector â’i phen uwchben y dŵr, a bod y gefnogaeth wedyn yn dod i ben. Mae Cyngor y Celfyddydau eisoes wedi addasu cyllid at ddibenion gwahanol er mwyn ymateb i'r pwysau sy'n wynebu'r sector ar unwaith. Nid yw'n eglur a oes gan y Cyngor yr adnoddau i wneud hynny eto yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Cymeradwyodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr angen i barhau’n ffyddiog o ran y sector yn ei adroddiad diweddar, Effaith argyfwng Covid-19 ar y sector celfyddydau. Galwodd y Pwyllgor hefyd am:

  • gadw Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU y tu hwnt i fis Hydref 2020;
  • adolygu’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig i sicrhau nad oes dim gweithwyr llawrydd yn syrthio drwy’r rhwyd gan nad ydynt yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun.
  • i Lywodraeth Cymru gydnabod y posibilrwydd na fydd ein prif sefydliadau celfyddydol yn broffidiol am rai blynyddoedd o bosibl, a bod yn barod i ymestyn yr arian cyhoeddus angenrheidiol i sicrhau eu parhad.

Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.