3 Hydref 2013
[caption id="attachment_440" align="aligncenter" width="300"] Llun o Wicipedia gan James Hearton. Dan drwydded Creative Commons[/caption]Ym mis Mehefin 2013, ymrwymodd datblygwyr ynni gwynt a gweithredwyr ffermydd gwynt ledled Cymru i ddatganiad buddion cymunedol newydd, a gefnogir gan RenwableUK Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r Datganiad yn cynnwys addewid i sicrhau bod cymunedau sy'n cynnal ffermydd gwynt yn cael eu cynnwys yn llawn a'u bod yn cael buddion cadarnhaol yn y tymor hir. Mae ystod o gwmnïau wedi ymrwymo i'r datganiad, gan gynnwys SSE, RWE, West Coast Energy a Vattenfall.
Mae'r Datganiad yn amlinellu nifer o fathau o fanteision cymunedol y gallai fod ar gael i'r rheini sy'n cynnal ffermydd gwynt. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
- Cymorth ariannol uniongyrchol;
- Perchnogaeth gymunedol, rhannu elw a pherchen ar gyfranddaliadau;
- Mesurau neu fentrau i gefnogi lleihau costau ynni;
- Darparu isadeiledd lleol newydd neu well;
- Noddi sefydliadau a digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol;
- Cynigion eraill fel rhaglenni rheoli cynefinoedd, a
- Cyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Mae'r Datganiad yn nodi bod y rhain yn ffordd i ddod â manteision gwirioneddol i'r cymunedau hynny sy'n cynnal prosiectau gwynt, yn ychwanegol at y manteision economaidd, diogelwch ynni ac amgylcheddol sy'n deillio o'r datblygiadau hynny. At hynny, mae'r datganiad yn rhoi ymrwymiad i greu cofrestr o fuddion economaidd a chymunedol ar gyfer Cymru, ac ychwanegu ato yn barhaus, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, cymunedau a rhanddeiliaid eraill.
Ar adeg pan fo Powys yng nghanol yr ymchwiliad cyhoeddus mwyaf erioed ym Mhrydain i ffermydd gwynt, a all y datganiad buddion cymunedol newydd wneud gwahaniaeth i ganfyddiad y gymuned o ddatblygiadau ffermydd gwynt, eu helpu i'w derbyn ac i deimlo mwy o gysylltiad â'r broses?
Erthygl gan Chloe Corbyn