Cyflawni cyfiawnder yn y pandemig a thu hwnt: adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2020-21

Cyhoeddwyd 23/11/2021   |   Amser darllen munudau

Tribiwnlysoedd yw cyrff barnwrol arbenigol sy'n datrys anghydfodau mewn meysydd penodol o’r gyfraith. Dan arweiniad barnwyr, maent fel arfer yn eistedd fel paneli gydag aelodau arbenigol cyfreithiol ac aelodau nad ydynt yn gyfreithwyr.

Tribiwnlysoedd Cymru yw'r unig gyrff barnwrol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Maent yn clywed anghydfodau ac apeliadau yn erbyn cyrff cyhoeddus mewn ystod o wahanol feysydd, o geisiadau gan gleifion a gedwir o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i anghydfodau draenio. Gyda'i gilydd, maen nhw'n ymdrin â thua 2,000 o achosion bob blwyddyn.

Ddydd Mawrth, bydd y Senedd yn trafod adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer 2020-21. Clywodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad dystiolaeth gan Lywydd y Tribiwnlysoedd ar 1 Tachwedd. Mae'r erthygl hon yn edrych ar rai o’r prif themâu o’r adroddiad blynyddol a’r sesiwn dystiolaeth.

Sut y dylid strwythuro Tribiwnlysoedd Cymru?

Rhoddodd Deddf Cymru 2017 gydnabyddiaeth statudol i saith o dribiwnlysoedd Cymru, a sefydlodd rôl y Llywydd i’w goruchwylio. Penodwyd Syr Wyn Williams fel Llywydd cyntaf Tribiwnlysoedd Cymru yn 2017.

Fodd bynnag, sefydlwyd y tribiwnlysoedd i gyd ar wahanol adegau ac mae ganddynt reolau a seiliau statudol gwahanol. Mewn cyferbyniad, daethpwyd â'r tribiwnlysoedd heb eu datganoli ynghyd i un Tribiwnlys Haen-Gyntaf yn 2008. Yn 2018, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gomisiwn y Gyfraith adolygu Tribiwnlysoedd Cymru. Ymgynghorodd Comisiwn y Gyfraith ar y prosiect hwn y gaeaf diwethaf a gwnaeth nifer o gynigion dros dro, gan gynnwys:

  • sefydlu Tribiwnlys Haen-Gyntaf unedig ar gyfer Cymru, gan ddyrannu’r holl dribiwnlysoedd yn siambrau;
  • symud Uned weinyddol Tribiwnlysoedd Cymru allan o Lywodraeth Cymru a’i diwygio i fod yn adran anweinidogaethol, i ganiatáu annibyniaeth farnwrol rhag y llywodraeth;
  • gwneud Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn awdurdod penodi a disgyblu ar gyfer aelodau Tribiwnlysoedd Cymru;
  • safoni rheolau gweithredu (lle bo hynny’n briodol).

Yn ei adroddiad blynyddol, mae Llywydd y Tribiwnlysoedd yn cefnogi cynigion dros dro Comisiwn y Gyfraith ar gyfer ei swyddfa, ond mae'n nodi y byddent yn debygol o ddyblu llwyth gwaith deiliad y swydd. Disgwylir i Gomisiwn y Gyfraith gyflwyno adroddiad gydag argymhellion erbyn diwedd y flwyddyn. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud y bydd yn ystyried yr argymhellion gyda'r bwriad o ddatblygu bil yn y Senedd.

Sut mae’r pandemig wedi effeithio ar fynediad at gyfiawnder yn Nhribiwnlysoedd Cymru?

Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod Tribiwnlysoedd Cymru yn hygyrch. Roedd angen i’r tribiwnlysoedd addasu i sicrhau bod gan bobl fynediad at gyfiawnder o hyd yn ystod y pandemig.

Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yw Tribiwnlys mwyaf Cymru, o bell ffordd. Clywodd y tribiwnlys hwn achosion dros y ffôn, gan nad oes gan bob ysbyty lle mae cleifion yn cael eu cadw gyfleusterau fideo-gynadledda. Efallai bod hyn wedi golygu bod cyfathrebu rhwng y partïon yn fwy heriol.

Canfu arolwg o aelodau barnwrol tribiwnlysoedd yn y DU gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol fod 46 y cant o'r ymatebwyr yn teimlo bod cyfathrebu mewn gwrandawiadau ffôn tribiwnlys iechyd meddwl yn anodd neu'n anodd iawn. Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, fe wnaeth Llywydd y Tribiwnlysoedd gydnabod bod anhawster amlwg wrth gynnal gwrandawiadau o'r fath o bell, ond mai’r dewis arall oedd peidio â chael unrhyw wrandawiadau o gwbl.

Roedd y Tribiwnlys Addysg (y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig gynt), y Tribiwnlys Eiddo Preswyl a'r Tribiwnlys Tir Amaethyddol yn gallu cynnal gwrandawiadau trwy fideo-gynadledda. Canfu ymchwil gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol fod deiliaid swyddi barnwrol yn gyffredinol yn teimlo bod gwrandawiadau o bell yn gweithio'n dda ar gyfer gwrandawiadau byr a syml. Fodd bynnag, dywedodd 32 y cant o'r ymatebwyr ei bod yn dal yn anodd neu'n anodd iawn cyfathrebu â phartïon mewn gwrandawiadau fideo.

Ni gafodd Tribiwnlysoedd Cymru ôl-groniad o achosion yn ystod y pandemig. Fe wnaeth rhai ohonynt glywed llai o achosion nag arfer. Gwelodd y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl ostyngiad o tua 8 y cant i 1790, yn deillio o geisiadau a wnaed gan gleifion yn y gymuned, neu mewn perthynas â hwy (yn hytrach na chleifion sy'n cael eu cadw). Syrthiodd nifer yr achosion yn y Tribiwnlys Addysg fwy na 30 y cant i 116. Dywedodd Llywydd y Tribiwnlysoedd y byddai'n gofyn i Lywydd y tribiwnlys hwnnw ymchwilio i'r rhesymau dros hyn.

Sut gall Tribiwnlysoedd Cymru weithio ar ôl y pandemig?

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd cwestiynau ynghylch sut y dylai llysoedd a thribiwnlysoedd ddefnyddio gwasanaethau digidol. Ar lefel Cymru a Lloegr, nod y rhaglen ddiwygio Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yw cynyddu'r defnydd o wasanaethau digidol yn y system gyfiawnder, gan gynnwys trwy symleiddio prosesau tribiwnlysoedd a chreu llwybrau tribiwnlys ar-lein. Yn 2019, canfu’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fod cyfleoedd i lysoedd a thribiwnlysoedd ddefnyddio mwy o wasanaethau digidol, ond rhybuddiodd bod yn rhaid iddynt fod yn hygyrch i bawb. Mae'r pandemig wedi gwneud y cwestiynau hyn yn fwy dybryd.

Yn ei adroddiad blynyddol, mae Llywydd y Tribiwnlysoedd yn nodi y gallai fod yn well gan rai defnyddwyr tribiwnlys gymryd rhan mewn gwrandawiadau o bell. Yn y Tribiwnlys Addysg yn benodol, mae rhieni wedi nodi eu bod yn teimlo eu bod yn ymlacio mwy wrth ymuno â gwrandawiadau o bell o'u cartref. Mae gwrandawiadau o bell yn costio llai hefyd: yn 2020-21, cofrestrodd Tribiwnlysoedd Cymru danwariant am y tro cyntaf yn ystod cyfnod Llywydd y Tribiwnlysoedd yn y swydd. Fodd bynnag, mae'n awgrymu bod gwrandawiadau wyneb yn wyneb traddodiadol yn fodel gwell ar gyfer sicrhau cyfiawnder pan fo materion ffeithiol dadleuol yn destun anghydfod ac mae angen tystiolaeth lafar ar lw. Dywedodd:

Dros y misoedd nesaf, bydd yr arweinwyr barnwrol a minnau yn cynnal asesiad manwl o’r rheolau gweithdrefnol cyfredol sy’n llywodraethu pob tribiwnlys a’r hyn y dylid ei wneud i ddatblygu meini prawf ar gyfer penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiadau o bell neu wyneb yn wyneb.

Dywed mai ymchwil ar effaith y pandemig ar dribiwnlysoedd gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol ac eraill fyddai 'carreg sylfaen' y gwaith hwn. Yng ngwaith ymchwil y Sefydliad Addysg Gyfreithiol, argymhellwyd y dylid sicrhau:

  • argymell isafswm trothwy o ran perfformiad technegol ar gyfer gwrandawiadau fideo;
  • gwiriadau cyn gwrandawiadau i nodi defnyddwyr bregus y tribiwnlys a rhoi cefnogaeth iddynt gymryd rhan yn effeithiol;
  • casglu rhagor o ddata ar bartïon mewn gwrandawiadau o bell.

Fodd bynnag, rhybuddiodd hefyd nad ydym yn deall yn llawn eto beth yw effaith cynnal gwrandawiadau o bell ar bartïon mewn achosion tribiwnlys. Dywedodd y dylid cael ymchwil annibynnol ar effaith gwrandawiadau o bell ar ganlyniadau a chanfyddiadau sampl gynrychioliadol o ddefnyddwyr tribiwnlysoedd. Tan hynny, dywedodd y dylid cyfyngu gwrandawiadau o bell i wrandawiadau byr, syml lle mae pob parti yn cael ei gynrychioli ac mae ganddynt fynediad da i'r rhyngrwyd.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru