Cyhoeddi setliad terfynol llywodraeth leol
Cyhoeddwyd 02/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
2 Mawrth 2016
Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Setliad Terfynol Llywodraeth Leol. Mae'n dilyn cyhoeddi Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ddoe. Mae'r cyllid refeniw ar gyfer llywodraeth leol wedi'i osod ar £4.102 biliwn ar gyfer 2016-17.
Nid oedd y Setliad Terfynol yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r Setliad Dros Dro diweddaraf a gyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2016, roedd y diweddariad hwnnw'n dilyn dyrannu £2.5 miliwn o gyllid ychwanegol i dri awdurdod lleol (Powys, Ceredigion a Sir Fynwy).
Y gostyngiad cyfartalog i'r Cyllid Allanol Cyfun (AEF) ledled Cymru yw -1.3 y cant (£54 miliwn). Ar 8 Rhagfyr 2015, cyfeiriodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus at y setliad fel setliad sylweddol yn well nac yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl. Y gostyngiad cyfartalog i'r AEF ar gyfer 2015-16 oedd -3.4 y cant
Mae'r ffeithlun isod yn dangos y newid canrannol i'r AEF yng nghyd-destun ffigurau 2015-16. Mae'r gostyngiadau canrannol yn amrywio o -0.1 y cant yng Nghaerdydd i -3 y cant ym Mhowys, Ceredigion a Sir Fynwy. Cyn y Setliad Dros Dro diweddaraf, Powys oedd yn wynebu'r gostyngiad mwyaf o -4.1 y cant.
Mae'r ddadl ar y cynnig i gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2016-17 wedi'i threfnu ar gyfer 9 Mawrth 2016 yn y Senedd.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg