Cyhoeddiad Newydd: Amcanestyniadau demograffig a chynllunio - partneriaeth gydweithredol

Cyhoeddwyd 22/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Paratowyd y briff hwn gan Ludi Simpson, Athro Astudiaethau Poblogaeth, Prifysgol Manceinion, ar gyfer Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd. Darperir y briff i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad i graffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft.

Cyhoeddiad Newydd: Amcanestyniadau demograffig a chynllunio - partneriaeth gydweithredol (PDF, 1,747KB)


Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Manceinion a alluogodd Ludi Simpson i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth hon.

Mae gwaith Ludi Simpson ym maes demograffeg is-genedlaethol ar gyfer cynllunio yn cynnwys llywodraeth leol a chenedlaethol, cyngor mewn ymchwiliadau cynllunio, ymchwil ac addysgu. Mae’n ddylunydd ac yn gynghorydd i feddalwedd POPGROUP sy’n eiddo cyhoeddus, safon y diwydiant cynllunio ar gyfer amcanestyniad demograffig lleol o’r boblogaeth a thai.

Os oes gennych ddiddordeb yn y papur hwn, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein papur briffio ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft.