Bydd trafodion Cyfnod 3 er mwyn ystyried gwelliannau i Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (PDF, 60KB) yn cael ei gynnal yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2017.
Bu’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn craffu ar y Bil yng Nghyfnod 2 ar 15 Mehefin 2017 (PDF, 317KB).
Derbyniwyd pob un o’r chwech gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, tra gwrthodwyd tri o welliannau wrthblaid.
Cyflwynwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) ar 16 Ionawr 2017 gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC. Cyflwynwyd y Bil gan Lywodraeth Cymru er mwyn datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf yr Undebau Llafur 2016 y DU fydd, ym marn Llywodraeth Cymru, yn cael “effaith andwyol ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ar sail partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru”.
Y bartneriaeth gymdeithasol yw’r dull y defnyddir gan Lywodraeth Cymru wrth reoli staff y sector cyhoeddus ac ymdrin â chysylltiadau diwydiannol yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y darpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur 2016 mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu datgymhwyso gyda’r Bill hwn yw:
- y ddarpariaeth sy’n ymwneud ag ‘amser cyfleuster’;
- y ddarpariaeth sy’n ymwneud â didynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau gweithwyr; ac
- y ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r trothwy o 40% o bleidleisiau o blaid gweithredu diwydiannol, sy’n effeithio ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’ yng Nghymru.
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau yng Ngham 2 (PDF, 532KB)
Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru