Cyhoeddiad newydd: Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Cyhoeddwyd 03/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017. Mae'r Ddeddf yn nodi darpariaethau mewn nifer o feysydd blaenoriaeth o ran polisi iechyd y cyhoedd, gan gynnwys gordewdra, ysmygu, 'triniaethau arbennig' (megis tyllu'r corff, tatŵio), gwasanaethau fferyllol, a thoiledau ar gyfer y cyhoedd. Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth gryno am wahanol rannau'r Ddeddf, cefndir y ddeddfwriaeth a'i hynt drwy'r Cynulliad.

Cyhoeddiad newydd: Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 - Crynodeb o’r Ddeddf (PDF, 964KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.