Cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, “Cymdeithas heb arian parod?”, rydym yn cynnig rhywfaint o wybodaeth gefndir berthnasol ac yn tynnu sylw at ein herthyglau blaenorol.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn deillio o ddeiseb gan Mencap Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau y gall oedolion ag anableddau dysgu ac oedolion agored i niwed eraill barhau i ddefnyddio arian parod i dalu am nwyddau a gwasanaethau.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Deisebau ym mis Gorffennaf, gan wrthod un argymhelliad yn llwyr a derbyn, yn llawn neu’n rhannol, y pedwar arall.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru yn rhannol argymhelliad y Pwyllgor Deisebau y dylai “sicrhau mynediad at gyfleusterau bancio yn y gymuned er mwyn cefnogi busnesau i barhau i ddefnyddio ac adneuo arian parod a chefnogi anghenion bancio pobl ag anableddau dysgu”.
Mewn ymateb i’r argymhelliad hwn, nododd Llywodraeth Cymru ei bod “yn cefnogi parhau i gyflwyno hybiau bancio a rennir fel ymateb i golli gwasanaethau bancio ffisegol mewn llawer o gymunedau yng Nghymru”.
Mae Cash Access UK wedi rhoi manylion yr hybiau bancio yng Nghymru ar ei wefan. O'r 11 a restrir ar gyfer Cymru, 6 sydd ar agor ar hyn o bryd (gyda 2 o'r 6 yn rhai 'dros dro').
Fodd bynnag, nid oedd ymateb Llywodraeth Cymru’n cyfeirio at ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i “gefnogi’r gwaith o greu Banc Cymunedol i Gymru”.
Mae ein herthygl o 2019 yn nodi maint yr uchelgais gychwynnol o ran Banc Cambria, sef y sefydliad yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi i sefydlu banc cymunedol. Hyd yn hyn, nid oes banc cymunedol wedi cael ei sefydlu.
Ym mis Mai, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Materion Cymreig ei bod yn parhau i ymgysylltu â sefydliadau cyflenwi posibl i edrych ar opsiynau posibl ar gyfer cyflenwi banc cymunedol.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru ‘yn rhannol’ argymhelliad y Pwyllgor y dylai “weithio mewn partneriaeth â phobl ag anableddau dysgu, sefydliadau anabledd dysgu, sefydliadau pobl hŷn, sefydliadau gofal a chymorth, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector a'r gymuned fusnes i ddatblygu a chyflwyno ymgyrch i addysgu a gwella dealltwriaeth o sut y bydd cymdeithas heb arian parod yn allgáu rhai pobl”.
Wrth ymateb i’r argymhelliad hwn, nododd Llywodraeth Cymru ei bod yn “gweithio gydag amrywiaeth eang o fudiadau trydydd sector a gwirfoddol i sicrhau bod hawliau’r bobl fwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu – mae hyn yn cynnwys eu hawliau i gael gafael ar wasanaethau ariannol”.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cwblhau ei gyfarfodydd ac y bydd yn symud ymlaen yn awr i ystyried yr argymhellion a gydgynhyrchwyd.
Ym mis Medi, dywedodd cyd-Gadeirydd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod oedi wedi effeithio ar y tasglu yn fwy cyffredinol.
I gael rhagor o wybodaeth am gau banciau yng Nghymru, gweler ein herthygl o 2021.
Pigion gan Ben Stokes ac Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru