Mae’r llun yn dangos llaw yn taflu glôb bychan i’r awyr.

Mae’r llun yn dangos llaw yn taflu glôb bychan i’r awyr.

Cymru, datganoli a rhwymedigaethau rhyngwladol

Cyhoeddwyd 11/02/2022   |   Amser darllen munudau

Mae gan Gymru rwymedigaethau rhyngwladol. Mae’r rhain yn ddyletswyddau ac ymrwymiadau y mae’r DU wedi cytuno arnynt, neu reolau sy’n berthnasol yn gyffredinol. Mae rhwymedigaethau rhyngwladol i’w cael yn gyffredin mewn cytundebau ysgrifenedig (“cytuniadau”) rhwng gwladwriaethau neu sefydliadau rhyngwladol. 

Nid yn unig y mae’r setliad datganoli yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, ond mae Llywodraethau olynol Cymru wedi ymgorffori cytuniadau proffil uchel sy’n cyd-fynd â’u huchelgeisiau yng nghyfraith Cymru.

Mae’r erthygl hon yn olrhain dull Cymru o fabwysiadu cytuniadau ac yn egluro sut mae’r setliad datganoli yn gweithio i sicrhau bod y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gydnaws.

Datganoli a rhwymedigaethau rhyngwladol

Mae Llywodraeth y DU yn negodi ac yn ymrwymo i rwymedigaethau rhyngwladol ar ran y pedair gwlad. Rhaid i’r llywodraethau a’r deddfwrfeydd datganoledig gydymffurfio â’r rhain a bod yn gyfrifol am eu gweithredu mewn meysydd datganoledig.

Gall y deddfwrfeydd datganoledig hefyd ymgorffori cytuniadau yn uniongyrchol yn eu cyfraith ddomestig, arfer a gadarnhawyd yn ddiweddar gan y Goruchaf Lys. Mae’r dyfarniad yn gadarnhad i Lywodraeth Cymru a’r Senedd, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am gynnwys cytuniadau proffil uchel yng ngwead cyfansoddiadol Cymru. 

Dull Cymru o fabwysiadu cytuniadau

Mae Llywodraethau olynol Cymru wedi mabwysiadu llawer o gytuniadau pwysig fel sail ar gyfer llunio polisïau, megis Cytundeb Paris y Cenhedloedd Unedig, y Confensiwn Ffoaduriaid a llawer o gytuniadau hawliau dynol. Defnyddiwch y cwymplenni isod i weld dwy enghraifft.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn rhan o'i chyfraith ddomestig. Roedd hyn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion i roi sylw dyledus i CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu deddfwriaeth a pholisi ac i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gwybod am hawliau plant a phobl ifanc, yn eu deall ac yn eu parchu.

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 Cymru yn mabwysiadu egwyddorion Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac roedd yn ysbrydoliaeth rhannol wrth i’r Cenhedloedd Unedig greu  Llysgennad Arbennig ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob polisi, gweithred, menter a darn o ddeddfwriaeth gael eu cynllunio a’u darparu drwy lens ei hegwyddor datblygu cynaliadwy a’r saith nod llesiant.

Cynlluniau Llywodraeth Cymru i fabwysiadu dau gytuniad y Cenhedloedd Unedig

Mae Llywodraeth bresennol Cymru yn bwriadu ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer dileu pob math o wahaniaethu yn erbyn menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yng nghyfraith Cymru.

Mae dyfarniad y Goruchaf Lys y soniwyd amdano’n flaenorol yn ymwneud ag ymgorffori dau gytuniad yng nghyfraith yr Alban - CCUHP a Siarter Ewrop ar gyfer Hunanlywodraeth Leol. Dywedodd y llys mai mater i Senedd yr Alban oedd ymgorffori’r cytuniadau, ac nid oedd yn cwestiynu hyn.

Daeth y llys i’r casgliad bod darpariaethau penodol yn y Biliau a ddefnyddir i ymgorffori’r cytuniadau y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban. Am ragor o wybodaeth, gweler adroddiad a ddarparwyd i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd (adran 8.3).   

Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio

Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU. Mae’r Prif Weinidog yn egluro:

Gan ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried rhwymedigaethau rhyngwladol wrth wneud penderfyniadau, gallent wynebu Adolygiad Barnwrol neu gamau gan yr Ysgrifennydd Gwladol am fethu â gwneud hynny.

Mae nifer o fecanweithiau yn bodoli i sicrhau bod y camau a gymerir gan Weinidogion Cymru yn gydnaws. Defnyddiwch y cwymplenni isod i ddysgu mwy.

Gall Llywodraeth y DU ymyrryd

Mae gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU bwerau i:

    • gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth ryngwladol; neu
    • eu cyfarwyddo i beidio â gweithredu os byddai'n anghydnaws; neu
    • ddirymu is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru os ystyrir ei bod yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, neu er budd amddiffyn neu ddiogelwch gwladol.

Mae’r pwerau hyn wedi’u cynnwys yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, na chafodd ei defnyddio erioed.

Nid oes sôn yn y setliad datganoli am sefyllfa Gweinidogion Cymru os ystyrir bod camau gweithredu arfaethedig yr Ysgrifennydd Gwladol yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol.

 

 

Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol

Mae Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, a’r Cwnsler Cyffredinol, wedi’u gwahardd yn benodol rhag cymryd camau sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r ddyletswydd hon i’w gweld yn adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae Diwygio Deddf Hawliau Dynol 1998, a ymgorfforodd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol mewn cyfraith ddomestig, yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU.

Cymorth i Lywodraeth y DU

Mae o fewn cymhwysedd y Senedd i gynorthwyo Llywodraeth y DU mewn perthynas â rhwymedigaethau rhyngwladol a chysylltiadau rhyngwladol. Mae i’w weld ym mharagraff 10(3) o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Mae’r Prif Weinidog yn disgrifio sut mae hyn yn gweithio mewn gohebiaeth ynghylch y Confensiwn rhwng y DU a’r Swistir ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol. Gwnaeth Llywodraeth y DU y cytundeb, sy’n cwmpasu meysydd o fewn cymhwysedd y Senedd. Mae'r Confensiwn yn gofyn am weithrediad a chydymffurfiad Llywodraeth Cymru ac i Fyrddau Iechyd Lleol Cymru ddarparu'r gofal iechyd yn unol â thelerau'r Confensiwn.

Cod y Gweinidogion Llywodraeth Cymru

Mae paragraff 1.3 Cod y Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gydymffurfio â chyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytuniadau.

Gwaith craffu’r Senedd ar rwymedigaethau rhyngwladol

Mae’r Senedd fel mater o drefn yn ystyried effaith rhwymedigaethau rhyngwladol ar draws ystod eang o faterion, gan gynnwys Brexit, newid hinsawdd a ffoaduriaid. Mae dwy broses bwrpasol hefyd i asesu eu heffaith. Defnyddiwch y cwymplenni isod i ddysgu mwy.

Cytundebau rhyngwladol

Mae pwyllgorau’r Senedd yn craffu ar gytuniadau drwy broses bwrpasol y Senedd. Hyd yma, maent wedi ystyried yr effaith ar Gymru o dros 130 o gytuniadau ar fasnach, etholiadau, pysgodfeydd, porthladdoedd a mwy.

Gallwch olrhain y broses hon ar gyfer masnach a chytundebau anfasnachol ar wefan y Senedd.

Fframweithiau cyffredin

Mae fframweithiau cyffredin yn gytundebau rhwng pedair llywodraeth y DU sy’n nodi sut y byddant yn cydweithio mewn rhai meysydd a lywodraethwyd neu a gydgysylltwyd yn flaenorol ar lefel yr UE, megis ansawdd aer, diogelwch bwyd a bygythiadau iechyd trawsffiniol.

Mae pwyllgorau’r Senedd yn ystyried sut mae rhwymedigaethau rhyngwladol yn cael eu hystyried gan bob fframwaith a sut maent yn darparu i lywodraethau gydweithio ar negodi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol yn y dyfodol.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru