Mae'r rhyfel yn Wcráin, sydd bellach yn ei drydydd mis, yn parhau i ail-lunio'r drefn fyd-eang.
Fel pob cenedl, ni all Cymru ddianc rhag y sgil-effeithiau. Galwodd y Prif Weinidog ar bobl Cymru i sefyll mewn undod ag Wcráin, ond pwysleisiodd hefyd y gallai hyn olygu y byddai’n rhaid iddynt wneud rhai aberthau.
Hyd yn hyn, mae'n ddealladwy bod ymateb Cymru wedi canolbwyntio ar gymorth dyngarol.
Ond beth am yr effeithiau eraill?
Mae’r erthygl hon yn disgrifio sut mae’r rhyfel wedi effeithio ar gysylltiadau rhyngwladol, cyflenwadau bwyd ac ynni, yr economi a’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan y Senedd i sefyll mewn undod ag Wcráin.
Lle Cymru yn y byd
Mae pleidiau gwleidyddol wedi uno i gondemnio’r ymosodiad, gan gefnogi camau i osod sancsiynau ar Rwsia a chyflwyno mesurau sy'n helpu Wcráin.
Ymunodd yr Aelodau yn gyflym â galwadau am ymchwiliad gan y Llys Troseddol Rhyngwladol i droseddau rhyfel honedig gan Rwsia, cais sydd bellach wedi’i gefnogi gan 41 o wladwriaethau. Mae Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, yn archwilio a allai Cymru gasglu gwybodaeth gan bobl sy’n ffoi yma o Wcráin i'w chyflwyno fel tystiolaeth.
Mae Aelodau wedi rhannu eu barn fod Cymru yn “wlad gydymdeimladol” (Tom Giffard), yn “wlad sy'n cefnogi gwledydd eraill” (Mick Antoniw) ac yn “genedl heddwch” (Heledd Fychan).
Pan gafodd llong a oedd yn cario cargo o Rwsia ei dargyfeirio i ffwrdd o borthladd Aberdaugleddau, gwnaeth Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, yn glir nad oes croeso i longau o Rwsia ym mhorthladdoedd y Deyrnas Unedig, a mynnodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, na ddylai unrhyw olew o Rwsia ddod i mewn i borthladdoedd Cymru. Cafodd y sylwadau hyn eu cefnogi gan y Prif Weinidog ar 1 Mawrth.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, arweiniodd y Llywydd yr Aelodau wrth dalu teyrnged i fenywod Wcráin. Cyfeiriodd Jane Dodds, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, at adroddiadau bod masnachwyr pobl er mwyn cam-fanteisio arnynt yn rhywiol yn targedu menywod a phlant, a chytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i drafod y mater hwn â Llywodraeth y DU.
Mae’r Aelodau hefyd wedi talu teyrnged i luoedd arfog Cymru, sydd wedi’u hanfon i Estonia i arwain grŵp y DU ar ffin ddwyreiniol gwledydd NATO.
Diogelwch bwyd a’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru).
Ar 21 Ebrill, cafwyd rhybudd gan Fanc y Byd fod dynoliaeth yn wynebu trychineb.
Mae'r rhyfel yn bygwth diogelwch bwyd rhyngwladol oherwydd bod Wcráin a Rwsia ymhlith y prif allforwyr byd-eang o wenith, india-corn, blodau’r haul a haidd. Mae cau’r Môr Du i longau yn ei hun wedi arwain at gwymp o 90 y cant mewn allforion grawn o Wcráin, gan haneru cyfanswm yr allforion o’r wlad.
Ar 8 Mawrth, gofynnodd Andrew RT Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, i'r Prif Weinidog a fydd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol, gan alw am uwchgynhadledd fwyd i gynnull ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr i drafod y materion perthnasol.
Roedd y Prif Weinidog yn derbyn fod gan y Bil gyd-destun newydd, a’i fod:
- yn bwriadu cynnal asesiadau penodol i Gymru o effaith y rhyfel ar ddiogelwch bwyd i gyfrannu at asesiadau gan Lywodraeth y DU yn y maes hwn;
- wedi gofyn i'r pedair gwlad drafod diogelwch bwyd; a’i fod
- yn bwriadu archwilio cynnal uwchgynhadledd fwyd, cyn nodi yn ddiweddarach fod y Gweinidog Materion Gwledig yn cyfarfod â rhanddeiliaid yn rheolaidd.
Ar 23 Mawrth pasiodd y Senedd gynnig a oedd yn nodi effaith negyddol yr ymosodiad ar ddiogelwch bwyd byd-eang, yn ogystal â’r effaith uniongyrchol ar bobl yng Nghymru.
Ar 27 Ebrill, nododd y Gweinidog Materion Gwledig fod y rhyfel yn un o’r heriau a wynebwyd wrth lunio’r Bil a dywedodd ei bod yn monitro’n agos yr effaith ar sectorau amaethyddol Cymru. Hefyd, eglurodd fod y rhyfel yn ychwanegu “haen arall o anhawster” yng nghyd-destun sector bwyd a diod Cymru.
Embargo ynni llawn ar Rwsia?
Mae'r rhyfel yn bygwth diogelwch cyflenwad ynni gwledydd Ewrop oherwydd eu bod yn ddibynnol ar Rwsia am olew, nwy a glo i ryw raddau. Er bod llawer o’r gwledydd hyn wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau eu dibyniaeth ar Rwsia, mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr, gan gynnwys yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol, yn cytuno na ellir disodli cyflenwadau o Rwsia yn gyflym.
Mae Cymru (a'r DU) yn llai dibynnol ar olew a nwy o Rwsia; fodd bynnag, eglurodd Gweinidog yr Economi fod newidiadau i'r gyd-ddibyniaeth â Rwsia yn dal i olygu “y bydd yna heriau o ran y cyflenwad ynni yn y wlad hon hefyd”. Mae Plaid Cymru wedi galw am “embargo ynni llawn” ar Rwsia, gan ychwanegu y dylai Cymru “gynyddu datblygiadau ynni adnewyddadwy.”
Er hynny, mae Llywodraeth y DU wedi addo dod â mewnforion olew o Rwsia i ben eleni a chyhoeddodd strategaeth diogelwch ynni, sy'n pwysleisio gwynt ar y môr, hydrogen a chapasiti niwclear. Gwnaeth BBC Cymru ddadansoddiad o’r hyn y mae’r strategaeth yn ei olygu i Gymru. Cafodd galwadau i ailddechrau ffracio fel datrysiad posibl eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru ar 30 Mawrth.
“Bydd pob un ohonom yn teimlo’r effaith”
Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn cymharu effaith economaidd y rhyfel i donnau seismig, y bydd eu heffeithiau’n ymledu ymhell ac agos.
Ar 11 Ebrill, nododd Banc y Byd ei fod yn rhagweld y bydd y rhyfel yn arwain at golledion economaidd sylweddol. Mae disgwyl i economi Wcráin grebachu 45 y cant a bydd allbwn cynnyrch domestig gros Rwsia yn disgyn 11.2 y cant oherwydd sancsiynau.
Ar ddiwrnod yr ymosodiad, galwodd y Prif Weinidog am sancsiynau, a disgrifiodd yr effaith fel a ganlyn:
[sanctions that] bite into the [Russian] economy… and that will mean that every one of us will feel the impact.
Erbyn 8 Mawrth, roedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn disgrifio rhagolygon economaidd sy'n gwaethygu, yn rhannol o ganlyniad i'r rhyfel. Y diwrnod wedyn, galwodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, am “embargo economaidd llwyr ar Rwsia”.
Hefyd, rhybuddiodd Gweinidog yr Economi y byddai cyflenwad llai o rai nwyddau yn gwaethygu'r argyfwng costau byw, yn unol â rhagolygon Banc y Byd o gynnydd mawr mewn tlodi byd-eang.
Eglurodd Ken Skates, un o Gomisiynwyr y Senedd, y camau a gymerwyd gan Gomisiwn y Senedd a phartneriaid i sicrhau nad oes ganddynt unrhyw fuddsoddiadau mewn endidau Rwsiaidd. Mae awdurdodau lleol Cymru hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn gwaredu ar eu daliadau yn Rwsia.
Brexit ac aelodaeth o'r UE i Wcráin
Mae eitemau hanfodol a gasglwyd yng Nghymru ar gyfer Wcráin wedi’u dal yn ôl ar y ffin rhwng y DU a’r UE. Nododd Llyr Gruffydd fod yr ymdrech i gludo “cannoedd o filoedd o eitemau” wedi’i hoedi oherwydd gwiriadau newydd yn sgil Brexit.
Mae adroddiadau yn dyfynnu dryswch ynghylch y gwaith papur angenrheidiol ar gyfer eitemau at ddibenion dyngarol, yn hytrach na dibenion masnachol. Ar 8 Mawrth, awgrymodd y Trefnydd fod trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o bosibl wedi'u cynnal. Cafodd hawddfraint dollau i symleiddio’r broses ei chyhoeddi ddeuddydd yn ddiweddarach gan Lywodraeth y DU.
Yn y cyfamser, mewn datblygiad hanesyddol, dechreuodd yr Undeb Ewropeaidd y broses o drafod caniatáu i Wcráin ymaelodi â’r UE drwy gynnal cynhadledd i'r wasg ar y cyd rhwng yr UE ag Wcráin ar 8 Ebrill. Cyflwynodd yr Arlywydd Zelensky holiadur Wcráin ar 18 Ebrill ac mae'n disgwyl penderfyniad ym mis Mehefin.
Mae erthygl 781 o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn rhoi rôl i’r DU pan fydd gwledydd newydd yn gwneud cais am aelodaeth o’r UE. Rhaid i’r UE hysbysu’r DU am geisiadau i ymuno â’r UE, rhoi gwybodaeth i’r DU am sut y byddai aelodaeth y wlad dan sylw yn effeithio ar gytundebau rhwng y DU a’r UE a rhoi sylw i unrhyw bryderon a fynegir gan y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth, sy’n goruchwylio’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac sydd â phwerau yn y maes hwn.
Y Senedd yn gweithredu i helpu Wcráin
Ar 9 Mawrth, cytunodd y Senedd ar gynnig yn condemnio’r ymosodiad ac yn mynegi undod ag Wcráin. Mae'r cynnig yn galw ar wladwriaethau i ymuno â Chytundeb ar Wahardd Arfau Niwclear y Cenhedloedd Unedig mewn ymateb i’r risg gynyddol o ryfel niwclear.
Mae’r Senedd hefyd yn cefnogi camau i roi statws fel 'uwch-noddwr' i Gymru ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin, gan basio deddfwriaeth i:
- eithrio pobl o Wcráin rhag taliadau wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a fyddai fel arall yn berthnasol i ymwelwyr o dramor; a
- chyflymu’r broses ar gyfer anifeiliaid anwes sy’n cyrraedd Cymru heb y brechiadau neu'r dogfennau cywir sydd eu hangen fel arfer. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y gallai rhwng 100 a 200 o anifeiliaid anwes gyrraedd Cymru o Wcráin.
Beth nesaf?
Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi disgrifio cyfyngiadau ar nwyddau pwysig eraill i ddiwydiant Cymru, fel dyblu pris nicel, a ddefnyddir gan gynhyrchwyr mewn lled-ddargludyddion, ffonau clyfar a cherbydau trydan; a mesurau dros dro y mae rhai archfarchnadoedd yn eu cymryd i sicrhau cyflenwad teg o nifer fach o nwyddau. Mae’r Gweinidog Materion Gwledig hefyd wedi cydnabod effaith y cynnydd mewn prisiau tanwydd a gwrtaith ar sectorau amaethyddol Cymru.
O gofio bod arbenigwyr o’r farn y bydd y rhyfel yn parhau am gyfnod hir, gall Cymru ddisgwyl teimlo mwy o sgil-effeithiau yn y dyfodol.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru