Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.
Yn ystod y Bumed Senedd, gwelwyd newid dramatig yn rolau Llywodraeth Cymru a'r Senedd mewn perthynas â materion rhyngwladol. Mae ymadawiad y DU â’r UE wedi ail-lunio’r ffordd y mae’r DU yn ymgysylltu’n rhyngwladol ac wedi gofyn am fwy o gydweithredu rhwng y DU a’r llywodraethau datganoledig. O ganlyniad, mae'n ymddangos y bydd rôl y Senedd ym maes materion rhyngwladol yn cynyddu.
Yn ystod y Chweched Senedd, mae disgwyl y bydd y DU yn ymuno ag ystod eang o ymrwymiadau rhyngwladol newydd a fydd yn effeithio ar bolsiïau a chyfreithiau datganoledig.
Mae gwaith craffu’r Senedd ar ymrwymiadau rhyngwladol yn bwysig. Mae cytundebau rhyngwladol yn aml yn cynnwys rhwymedigaethau pellgyrhaeddol a all effeithio ar fywydau beunyddiol pobl a busnesau yng Nghymru. Mae gallu'r Senedd i basio cyfreithiau hefyd yn cael ei gyfyngu gan yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn cytuno iddo yn rhyngwladol. Hefyd, mae’r ymrwymiadau hyn yn llywio gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei pholisïau. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am arwain y trafodaethau ar gytundebau newydd, ond mae'n cydnabod rôl y sefydliadau datganoledig o ran gweithredu cytundebau mewn meysydd datganoledig.
Bydd gwaith craffu gofalus ar gytundebau rhyngwladol yn golygu y bydd gan y Senedd y potensial i ychwanegu gwerth er budd Cymru.
Pa gytundebau rhyngwladol newydd y gellir eu disgwyl yn y Chweched Senedd?
Disgwylir nifer o gytundebau rhyngwladol newydd a fydd o bwys i Gymru yn ystod y Chweched Senedd hon. Bydd y rhain yn cynnwys cytundebau masnach rydd rhwng y DU a'r Unol Daleithiau, Seland Newydd, ac Awstralia, a disgwylir i'r DU ymuno â'r Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP).
Yn ystod y Chweched Senedd, mae disgwyl y bydd y DU hefyd yn ymuno ag ymrwymiadau rhyngwladol newydd ym meysydd bioamrywiaeth, bwyd, yr amgylchedd morol a newid hinsawdd. Bydd y cytundebau hyn yn cyd-fynd â pherthynas newydd Cymru ag Ewrop.
Dywed Llywodraeth y DU y bydd y cytundebau masnach y mae'n eu negodi yn cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau'r DU, gan gynnwys busnesau yng Nghymru. Bydd cynyddu masnach y DU â gwledydd eraill yn debygol o greu collwyr yn ogystal ag enillwyr. Gallai’r cytundebau newydd hyn ar lefel y DU olygu y bydd busnesau o Gymru yn wynebu mwy o gystadleuaeth ar ffurf mewnforion, gydag effeithiau gwahanol ar sectorau penodol. Er enghraifft, mae i gytundeb masnach rydd â Seland Newydd y potensial i effeithio’n negyddol ar sectorau amaeth a bwyd wedi’i led-brosesu yn y DU, oherwydd bod gan Seland Newydd fantais gymharol yn y sectorau hyn.
Dyna pam mae gwaith craffu’r Senedd ar gytundebau rhyngwladol yn bwysig. Dywedodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (MADY) yn y Bumed Senedd:
Mae gan y Senedd rôl o ran nodi buddiannau Cymru a, thrwy waith craffu a chynrychioli, sicrhau bod cytundebau'n cael eu gweithredu a'u datblygu mewn ffordd sy'n sicrhau'r buddiannau gorau posibl i Gymru.
Effaith bosibl cytundebau masnach rydd ar Werth Ychwanegol Gros yng Nghymru
Cytundeb (ni chyhoeddwyd yr asesiad cwmpasu i’r DU ymuno â'r CPTPP eto) |
Newid yn GVA Cymru, newid canrannol yn y tymor hir (tua 15 mlynedd) |
Cynnydd o 0.05% i <0.15% neu 0.25% i <0.40% (yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gytuno o ran rhyddfrydoli tariffau a lleihau mesurau di-dariff) |
|
Cynnydd o 0.00% i <0.05% |
|
Cynnydd o 0.00% i <0.05% |
Pa rôl fydd Llywodraeth Cymru newydd yn ei chwarae?
Am y tro cyntaf ers dros 40 mlynedd, mae Brexit yn golygu bod Llywodraeth y DU yn negodi ac yn ymuno â nifer o gytundebau rhyngwladol â gwledydd eraill drwy ei hawl ei hun.
Mae'r setliad datganoli yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gyfrifol am negodi cytundebau rhyngwladol, ac ymrwymo iddynt, ar ran pedair gwlad y DU. Fodd bynnag, unwaith y cytunir arnynt, mater i Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru yw arsylwi ar y cytundebau hyn a’u gweithredu mewn meysydd datganoledig.
Cynhaliwyd ymgysylltiad rhwng Llywodraeth flaenorol Cymru a Llywodraeth y DU ar drafodaethau cytundeb masnach y tu allan i'r UE mewn Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach a oedd newydd ei sefydlu bryd hynny. Fodd bynnag, ni chytunwyd hyd yn hyn ar Goncordat allweddol ar fasnach sydd i ffurfioli’r ffordd y gall y llywodraethau datganoledig eu hunain gymryd rhan yn y trafodaethau. Yn 2020, mynegodd pwyllgor yn y Senedd ei bryder ynghylch yr oedi o ran cwblhau'r trefniadau hyn.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cynnig ffyrdd newydd o weithio i bedair llywodraeth y DU ar gyfer dros 20 o feysydd polisi (gan gynnwys pysgodfeydd, bwyd a'r amgylchedd) o dan ei rhaglen Fframweithiau Cyffredin newydd. Yn rhannol, nod y rhaglen yw sicrhau bod y pedair gwlad yn parhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU a chynnig ar yr un pryd gyfleoedd newydd i'r llywodraethau datganoledig gymryd rhan yng ngweithgareddau rhyngwladol y DU, megis cynrychiolaeth mewn cyrff rhyngwladol.
Sut y gall gwaith craffu’r Chweched Senedd ar faterion rhyngwladol y DU fod o fudd i Gymru?
Heb os, fe newidiodd ymagwedd y Senedd tuag at faterion rhyngwladol yn ystod y Bumed Senedd. Yn y Bumed Senedd, datblygodd y Pwyllgor MADY broses graffu bwrpasol ar gyfer cytundebau rhyngwladol. Craffodd y Pwyllgor ar fwy na 100 o gytundebau masnach a chytundebau nad ydynt yn ymwneud â masnach. Cymerodd gamau trwy adrodd ar gytundebau sylweddol, ac fe ymgysylltodd hefyd â Llywodraeth Cymru a phwyllgorau perthnasol mewn seneddau eraill yn y DU ar faterion sydd o ddiddordeb i Gymru.
Enghreifftiau o waith craffu ar gytundebau rhyngwladol gan y Pwyllgor MADY yn y Bumed Senedd: Cytundebau masnach: parhad cytundebau masnach yr UE gan gynnwys gyda Chanada, De Corea a Singapôr, yn ogystal â chytundebau newydd yn y dyfodol sy'n cael eu trafod, megis cytundeb masnach posibl rhwng y DU a'r Unol Daleithiau. Cytundebau nad ydynt yn ymwneud â masnach: hawliau dinasyddion; etholiadau a phleidleisio; pysgodfeydd; porthladdoedd; trafnidiaeth awyr, ffyrdd a rheilffyrdd; nawdd cymdeithasol; gwyddoniaeth ac ymchwil; cydweithredu barnwrol; cynhyrchu ffilmiau; a’r gofod. |
Bydd gwaith craffu gofalus yn golygu y gall y Chweched Senedd wneud gwahaniaeth i wella gwerth cytundebau rhyngwladol i Gymru. Er enghraifft, trwy roi llais i fuddiannau Cymru mewn sefyllfaoedd lle mae rhwystrau posibl i fasnach a chyfleoedd i wella yn cael eu nodi.
Sut y gall Llywodraeth Cymru wneud y mwyaf o gyfleoedd newydd mewn materion rhyngwladol?
O’i chymharu â’r Senedd flaenorol, bydd y Chweched Senedd a Llywodraeth Cymru newydd yn gweithredu mewn cyd-destun rhyngwladol a fydd wedi newid yn sylweddol, a hynny o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE ac effaith economaidd COVID-19. Gyda hyn o gefndir, y cytundebau rhyngwladol newydd a’r ffaith bod cysylltiadau rhyngwladol y DU yn esblygu, bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried a yw am ddefnyddio ei phwerau datganoledig a'i dylanwad, ac os felly sut, er mwyn hybu Cymru a busnesau Cymru yn rhyngwladol.
Yn ei strategaeth ryngwladol, nododd Llywodraeth Cymru flaenorol ei huchelgais i godi proffil a dylanwad Cymru yn y byd, yn ogystal â thyfu economi Cymru trwy gynyddu allforion a mewnfuddsoddi. Bwriad Llywodraeth Cymru yw i’w rhwydwaith o 21 swyddfa ryngwladol chwarae rhan bwysig wrth hybu Cymru yn rhyngwladol.
Er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a gynigir gan gytundebau rhyngwladol newydd y DU a’r newid yn y cyd-destun rhyngwladol, mae’n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Gymru newydd ail-ystyried ei phresenoldeb rhyngwladol, lleoliad y presenoldeb hwnnw, sut mae ei pherthynas â chyrff ac adrannau Llywodraeth y DU yn gweithio, a ffocws unrhyw strategaeth.
Pennod ryngwladol newydd i Gymru?
Bydd y ffordd y mae buddiannau Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y dirwedd ryngwladol newydd yn fater o bwys yn y Chweched Senedd.
Bydd ymrwymiadau rhyngwladol newydd mewn meysydd datganoledig pwysig. Bydd angen i Aelodau o’r Senedd newydd ddeall beth y mae’r rhain yn ei olygu i Gymru a’u hetholwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru flaenorol fod ymadawiad y DU â'r UE ac effaith economaidd COVID-19 yn golygu ei bod yn hanfodol i Gymru godi ei phroffil rhyngwladol. Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a yw'n rhannu'r farn hon ac, os felly, sut y bydd yn cyflawni unrhyw uchelgeisiau rhyngwladol.
Erthygl gan Sara Moran a Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru